Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Anifeiliaid sydd wedi marw

Yn Abertawe, mae ein wardeniaid anifeiliaid yn casglu anifeiliaid marw, fel cŵn, cathod a chadnoid o'r ffyrdd.

Nid ydym yn casglu anifeiliaid bach megis draenogod.

Os ydych yn gweld anifail marw ar y ffordd neu balmant, rhowch wybod i ni fel gall ein wardeiniaid anifeiliaid eu casglu. Gallwch adrodd am anifail marw a gwneud cais iddo gael ei gasglu drwy e-bostiwch evh@abertawe.gov.uk.

Adar

Os ydych yn dod ar draws 5 aderyn neu fwy o'r un rhywogaeth neu rywogaethau gwahanol yn yr un lle, dylech ffonio llinell gymorth DEFRA ar 08459 33 55 77 a dewiswch yr opsiwn Ffliw Adar.

Mae adar gwyllt yn cario sawl clefyd sy'n heintus i bobl. Os ydych yn trin adar marw, mae'n bwysig eich bod yn golchi'ch dwylo gyda sebon a dŵr cyn gynted â phosib. Ceisiwch osgoi cyffwrdd â'ch wyneb a pheidiwch â bwyta nes eich bod wedi golchi'ch dwylo. Glanhewch unrhyw faw ar ddillad gyda sebon a dŵr.

Anifeiliaid fferm

Mae symud anifeiliaid fferm marw'n cael ei reoli. I gael mwy o gyngor, cysylltwch â'r Safonau Masnach.

Close Dewis iaith