Toglo gwelededd dewislen symudol

Arolwg Cymunedol Abertawe 2023

Mae'r Comisiwn yn cynnal Arolwg Cymunedol o ardal Prif Gyngor Abertawe.

Cam cyntaf yr adolygiad yw gofyn i bawb sydd â diddordeb ystyried y ffiniau cymunedol presennol (ynghlwm isod) a chyflwyno eu barn ar unrhyw newidiadau sydd eu hangen i greu cymunedau sy'n darparu ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Yna bydd pob cyflwyniad yn cael ei ystyried, a bydd y Comisiwn yn cyhoeddi Adroddiad Cynigion Drafft ac yn cynnal ymgynghoriad ar y cynigion hynny. Yna bydd pob cyflwyniad yn cael ei ystyried, a bydd Argymhellion Terfynol yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedyn, os gwêl yn dda, yn rhoi effaith i'r argymhellion hyn naill ai fel y'u cyflwynwyd, neu gydag addasiadau.

Mae'r cyfnod ymgynghori cychwynnol yn agor ar 25 Medi 2023 ac yn cau ar 19 Tachwedd 2023.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, anfonwch eich barn drwy e-bost at:

ymgynghoriadau@ffiniau.cymru

neu yn y post i:

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Ty Hastings
Llys Fitzalan
Caerdydd
CF24 0BL


Dim ond pan fydd yr ymgynghoriad ar agor y gall y Comisiwn ystyried ymatebion i'r ymgynghoriad. Sylwch y bydd y Comisiwn yn cyhoeddi'r holl sylwadau a ddaw i law yn llawn. Bydd manylion personol yn cael eu golygu ar sylwadau a dderbynnir gan aelodau'r cyhoedd, tra bydd enwau'n cael eu cyhoeddi ar gynrychioliadau a anfonir yn rhinwedd ei swydd.

Gellir gweld a lawrlwytho dogfennau sy'n ymwneud â cham cychwynnol yr Adolygiad isod, gan gynnwys ffeil KML o'r trefniadau presennol, tabl yn nodi manylion y trefniadau presennol, a mapiau o bob Cymuned bresennol.

 

Close Dewis iaith