Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin am wasanaethau cymdeithasol

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am wasanaethau cymdeithasol.

Pa ystadegau sydd gennych am fabwysiadu?

Mae ystadegau am fabwysiadu yn Abertawe ar gael drwy'r dolen canlynol: Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol - cyhoeddiadau (Yn agor ffenestr newydd).

Pa wybodaeth ystadegol sydd ar gael am blant sy'n derbyn gofal yn Abertawe?

Mae data am blant sy'n derbyn gofal eisoes ar gael yn gyhoeddus ar wefan StatsCymru, gan gynnwys y rhesymau dros orfod bod dan ofal. Mae'r wefan hon hefyd yn darparu data hanesyddol (sy'n mynd yn ôl ymhellach na 2009), data am ryw PDG a'r cyfleuster i gymharu data ar draws awdurdodau lleol Cymru: StatsWales - plant sy'n derbyn gofal (Yn agor ffenestr newydd).

Pryd y dylwn i gysylltu â'r Single Point of Contact (SPOC) service?

Os ydych yn gofidio am blentyn neu berson ifanc, gallwch gysylltu â ni i drafod hyn ac i gael cymorth.

Bydd gweithiwr cymdeithasol cymwys yn gwrando arnoch chi ac yn dweud wrthych ba wybodaeth, cyngor neu gymorth y gellir eu darparu a phwy all eich helpu. Bydd yr hyn y gallwn ei drafod â chi ynglŷn â phlentyn penodol yn dibynnu ar y rheswm a'r amgylchiadau dros eich galwad ffôn.

Pwy sy'n cofrestru darparwyr gofal cartref yng Nghymru?

Arolygiaeth gofal cymru sy'n gyfrifol am gofrestru'r holl ddarparwyr gofal cartref yng Nghymru. Mae gan wefan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Yn agor ffenestr newydd) wybodaeth am sut i ddod o hyd i wasanaethau gofal cofrestredig a'r adroddiadau arolygu diweddaraf.

Pa wybodaeth ystadegol sydd ar gael am y gwasanaethau i oedolion yn Abertawe?

Mae data am y gwasanaethau i oedolion yn Abertawe, gan gynnwys diogelu oedolion, darparu gwasanaethau a gwariant y gwasanaethau cymdeithasol ar gael ar wefan Ystadegau Cymru ac mae'n cynnwys y cyfleuster i gymharu data ar draws awdurdodau lleol Cymru: StatsWales - gwasanaethau oedolion (Yn agor ffenestr newydd).

Beth yw'r ffïoedd awdurdod lleol safonol cyfartalog y mae Cyngor Abertawe yn eu talu am bobl hŷn cymwys mewn cartrefi gofal?

Polisi Codi Tâl (y Gwasanaethau Cymdeithasol)

Hoffwn wybod manylion unrhyw un a fu farw heb unrhyw berthnasau agos hysbys. Mae hyn yn cynnwys enw llawn yr ymadawedig, y dyddiad y bu farw a gwerth amcangyfrifedig ei ystad.

Er bod GDPR a Deddf Diogelu Data 2018 yn berthnasol i unigolion byw yn unig, rydym o'r farn bod y data hwnnw'n ddata categori arbennig neu'n ddata personol sensitif, y byddai rhan ohono wedi cael ei chasglu oddi wrth yr ymadawedig dan ddyletswydd cyfrinachedd, dyletswydd y parheir i'w pharchu. Felly, rydym yn gwrthod y cais hwn o dan Adran 41 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. 

Mae Adran 41 o'r Ddeddf yn nodi eithriad ar gyfer gwybodaeth a ddarparwyd i'r awdurdod cyhoeddus yn gyfrinachol. Bwriedir iddi roi rhywfaint o sicrwydd i'r rheini sy'n darparu gwybodaeth gyfrinachol i awdurdodau cyhoeddus y bydd eu gwybodaeth gyfrinachol yn parhau i gael ei pharchu os bydd yr wybodaeth honno'n dod o fewn cwmpas cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth. Trwy wneud hyn, rydym yn dilyn yr arweiniad a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn https://ico.org.uk/media/1202/information-about-the-deceased-foi-eir.pdf (Yn agor ffenestr newydd).

Ble gallaf ddod o hyd i'r adroddiadau arolygu diweddaraf ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a lleoedd fel cartrefi gofal?

Rhaid i'r Gwasanaethau Cymdeithasol a phob cartref gofal gael ei arolygu gan (AGC) Arolygiaeth Gofal Cymru (Yn agor ffenestr newydd). Gallwch weld yr adroddiadau arolygu diweddaraf am gartref gofal penodol ar ei gwefan.

Close Dewis iaith