Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad a Freedom Leisure

Dathlu Pencampwyr Chwaraeon 2023

Sports Awards grid tile

Sports Awards logo

Dewch i ddathlu eich arwyr chwaraeon ym mis Mawrth yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe. 

Mae gan Abertawe draddodiad balch o greu chwaraewyr gwych. Mae angen ymroddiad, penderfyniad ac oriau o waith caled i gynnal y ddinas chwaraeon rydyn ni'n ei hadnabod ac yn dwlu arni.

Boed yn wirfoddolwyr neu'n hyfforddwyr sy'n rhoi awr ar ôl awr o'i amser yn y cefndir, yn dîm sydd wedi bod y mwyaf llwyddiannus drwy gydol y flwyddyn neu'n chwaraewr sydd wedi cyflawni'r mwyaf yn ei gamp, mae Abertawe'n ddinas sy'n llawn pencampwyr chwaraeon.

Mae ein hathletwyr wedi gweithio'n galed iawn eleni ac rydym yn edrych ymlaen at gydnabod a nodi eu cyflawniadau a'u cyfraniadau gwych i chwaraeon yn ystod Gwobrau Chwaraeon Abertawe.

Gwobrau Chwaraeon Abertawe nos Iau 28 Mawrth 2024 mewn cydweithrediad â Freedom Leisure.
 Enillwyr Gobrau Chwaraeon Abertawe 2023


Yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe, oedd 13 o wobrau ar draws y categorïau canlynol:

  • Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn noddir gan ArvatoConnect (Yn agor ffenestr newydd)
    Yn agored i unrhyw berson ifanc, 25 oed neu iau ar 1 Ionawr 2023. Bydd enwebai wedi rhoi ei gorau i ysbrydoli mwy o fobl i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgaredd corfforol, neu ymgysylltu â nhw. Maent yn fodelau rôl cadarnhaol, ac maent yn defnyddio dulliau arloesol i annog eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon. Rhaid i'r enwebeion gynnig help lle nad oes ganddynt wobr ariannol, nid yw'n rhan o'u gwaith, ac nid yw'n digwydd yn eu man gwaith.
     
  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn noddir gan John Pye Auctions (Yn agor ffenestr newydd)
    Ar gyfer unrhyw wirfoddolwr gwrywaidd neu fenywaidd sydd wedi rhoi o'i amser a'i egni i wirfoddoli mewn sefydliad chwaraeon. Rhaid i'r enwebai gynnig help heb unrhyw wobr ariannol, nid yw'n rhan o'i swydd ac nid yw'n rhan o'i weithle. Oedran agored.
     
  • Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn noddir gan Chwaraeon Cymru (Yn agor ffenestr newydd)
    Rhaid i enwebeion fod yn hyfforddwyr cymwys sy'n gweithio'n wirfoddol ac wedi cyflawni llwyddiant wrth annog mwy o bobl i fod yn actif mewn chwaraeon a chynnal eu cyfranogiad mewn lleoliad cymunedol.
     
  • Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn noddir gan Wales National Pool Swansea (Yn agor ffenestr newydd)
    Rhaid i'r enwebai fod yn hyfforddwr cymwys yn ei gamp ac wedi cael llwyddiant wrth hyfforddi unigolion a thimau ar lefel ranbarthol, genedlaethol a/neu ryngwladol.
     
  • Chwaraewr Iau'r Flwyddyn noddir gan Yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Abertawe Department of Sport and Exercise Sciences, Swansea University (Yn agor ffenestr newydd)
    Ar gyfer enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid iddynt fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2023.
  • Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn noddir gan Pure Football Swansea (Yn agor ffenestr newydd)
    Ar gyfer enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid iddynt fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2023.
  • Tîm Ysgol y Flwyddyn noddir gan Coleg Gwyr Abertawe (Yn agor ffenestr newydd)

    Ar gyfer timau Ysgolion Gynradd a Gyfun.  Rhaid i aelodau'r tîm fod wedi cynrychioli tîm yr ysgol sy'n cael ei enwebu rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2023. Defnyddiwch ffurflen enwebu ar wahân ar gyfer pob tîm rydych am ei enwebu.

  • Clwb neu Dîm Iau'r Flwyddyn noddir gan EYST Cymru (Yn agor ffenestr newydd)
    Ar gyfer timau sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid i aelodau'r tîm fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2023.

  • Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn noddir gan The Car Warehouse at FRF Motors (Yn agor ffenestr newydd)
    Ar gyfer timau amatur sy'n cystadlu ar lefel hŷn. Rhaid i dimau gynrychioli neu fod yn Abertawe.
     
  • Gwobr Annog Abertawe Actif noddir gan St. Modwen Homes (Yn agor ffenestr newydd)

    Mae'r wobr yma ar gyfer unrhyw unigolyn, grŵp o bobl, clwb, ysgol, sefydliad, digwyddiad, rhaglen neu brosiect, sydd wedi ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol.

    Esiamplau o beth rydym yn chwilio amdano:
    Tystiolaeth o gael cyfranogwyr newydd i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
    Estyn allan at gymunedau amrywiol / grwpiau a dangynrychiolir.
    Effaith ar nifer fawr o bobl.
    Annog eraill i hybu gweithgarwch corfforol.
    Syniadau newydd neu arloesol i oresgyn y rhwystrau sy'n atal cymryd rhan.
    Nid 'camp' draddodiadol o angenrheidrwydd.
    Wedi creu profiad chwaraeon pleserus a chroesawus - heb ystyried gallu na chefndir.

  • Chwaraewr Iau ag Anabledd y Flwyddyn noddir gan Stowe Family Law (Yn agor ffenestr newydd)
    Ar gyfer enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid iddynt fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2023.

  • Chwaraewr ag Anabledd y Flwyddyn noddir gan Nathaniel Cars (Yn agor ffenestr newydd)
    Yn agored i bob enwebai beth bynnag eu hoedran.
     
  • Chwaraewr y Flwyddyn noddir gan McDonald's (Yn agor ffenestr newydd)
    Yn agored i bob enwebai beth bynnag eu hoedran.

mewn cydweithrediad a Freedom Leisure (Yn agor ffenestr newydd)

Freedom Leisure

Enillwyr Gobrau Chwaraeon Abertawe 2023

Rhestr Fer Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2023

Rydym yn falch o gyhoeddi'r rhestr fer ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2023

Noddwyr Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2023

Ni fyddai'n bosibl dathlu cyflawniadau a chyfraniadau chwaraewyr a gwirfoddolwyr Abertawe heb gefnogaeth ein noddwyr:

Enillwyr Gobrau Chwaraeon Abertawe 2023

Rydym yn falch o gyhoeddi enillwyr Gobrau Chwaraeon Abertawe 2023.
Close Dewis iaith