Chwilio'r wefan
English

Sioe Awyr Cymru

Un o ddigwyddiadau mwyaf Cymru'n dychwelyd i Abertawe yn 2018!

Red arrows - side view flying
30 Mehefin 2018 - 1 Gorff 2018
10.00AM. Air and ground displays throughout both days.
Mae'r digwyddiad hwn am ddim.
Bae Abertawe
Arddangosiadau awyr dros Fae Abertawe, arddangosiadau ar y ddaear ar hyd Prom Abertawe rhwng y Ganolfan Ddinesig a’r Senotaff.

Arddangosiadau awyr dros Fae Abertawe, arddangosiadau ar y ddaear ar hyd Prom Abertawe rhwng y Ganolfan Ddinesig a'r Senotaff.

Ar ôl digwyddiad i dorri pob record yn 2017 - bydd sioe awyr fwyaf Cymru yn dychwelyd i Fae Abertawe ym mis Gorffennaf 2018!

Bydd Sioe Awyr Cymru, sy'n ddigwyddiad am ddim, yn dychwelyd i Fae Abertawe ddydd Sadwrn 30 Mehefin a dydd Sul 1 Gorffennaf 2018. Rhoddodd arddangosiadau erobatig syfrdanol, awyrennau milwrol cyfoes a rhai clasurol o'r gorffennol wefr i dros 200,000 o ymwelwyr ym Mae Abertawe'r haf diwethaf. 

Y llynedd curwyd record y gynulleidfa, roedd y tywydd yn berffaith a dyna oedd yr un orau yn ein barn ni!Rydym yn gobeithio y bydd sioe 2018 yn fwy byth, gyda mwy o dimau arddangosiad awyr ac adloniant.

Y rhestr o berfformwyr a gadarnhawyd hyd yn hyn yw...

Typhoon Eurofighter yr Awyrlu Brenhinol

Y Red Arrows Yr Awyrlu Brenhinol

Gwledd o Awyrennau'r Oes a Fu

Cyhoeddir y rhestr lawn dros yr wythnosau nesaf!

 

Wedi'i bweru gan GOSS iCM