Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Sut mae'r awdurdod yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg

Y Tîm Rheoli Corfforaethol sy'n parhau i fod yn gyfrifol am arweinyddiaeth strategol ar gyfer y Gymraeg.

Gweithredir y Safonau o ddydd i ddydd yn gorfforaethol drwy'r Prif Swyddog Trawsnewid i lawr i wasanaethau drwy Benaethiaid Gwasanaeth. Mae gan bob maes gwasanaeth hyrwyddwr y Gymraeg sy'n brif ffynhonnell gwybodaeth berthnasol (dwyffordd) i'w meysydd a'u harferion gwaith.

Yn ystod 2020-21 creodd y cyngor swydd newydd, sef y Swyddog Safonau. Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn, mae'r cyngor wrthi'n recriwtio ar gyfer y swydd. Bydd y Swyddog Safonau yn siaradwr Cymraeg ac yn gyfrifol am y gwaith corfforaethol o roi'r Safonau ar waith yn feunyddiol a hyrwyddo'r Gymraeg yn gyffredinol, gan gymryd yr awenau gan y Prif Swyddog Trawsnewid.

Mae Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau yn hyrwyddo Safonau'r Gymraeg ar lefel wleidyddol. Mae Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau hefyd yn cefnogi Safonau'r Gymraeg drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae Safonau'r Gymraeg, yr Uned Gyfieithu a phwynt cyswllt cyntaf dwyieithog ar gyfer llawer o wasanaethau'n cael eu rheoli gan Wasanaethau Cwsmeriaid ac mae llawer o unigolion yn y tîm sydd bellach yn gallu cynnig cyngor ynghylch cydymffurfio â'r Safonau.

Cyflwynir yr Adroddiad Blynyddol hwn i'r Tîm Rheoli Corfforaethol (yr Uwch-reolwyr) a'r Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid (y Pwyllgor Craffu) cyn ei gyhoeddi.

Cesglir a chofnodir data ar draws ystod o systemau, e.e. drwy systemau Cynllunio Adnoddau Menter, e-ddysgu a chwynion y cyngor. Mae hefyd wefan Microsoft Teams ddynodedig a ddefnyddir gan Benaethiaid Gwasanaeth i gael adnoddau a gwybodaeth ac i ddysgu gan unrhyw gwynion. Dadansoddir data ac adroddir amdano yn yr adroddiad blynyddol ar yr iaith Gymraeg, ynghyd ag unrhyw gasgliadau ac argymhellion.

Yn unol â safonau 81 ac 82, mae'r cyngor yn hyrwyddo, yn hysbysebu ac yn cyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae gwefannau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar wahân ar waith ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg. Mae prif ganolfannau cyswllt ffôn y cyngor yn ddwyieithog.

Mae datblygiad y Gymraeg yn y dyfodol ar draws Abertawe a thu hwnt yn gysylltiedig mewn ffordd sylfaenol ag Addysg Gymraeg, ac ymdrinnir â'r agwedd hon yn benodol yng Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y cyngor. Ar hyn o bryd rydym wrthi'n drafftio ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd cyntaf. Ymgynghorir ar hyn yn hydref 2021 a bydd y cynllun yn mynd yn fyw ym mis Medi 2022.

Yn ystod 2021-22 mae'r cyngor yn ystyried cyflwyno proses panel toriadau fel y gellir cofnodi, adrodd am a rheoli unrhyw achosion o dorri'r safonau, gyda'r hyn a ddysgir yn cael ei gyfathrebu ledled y sefydliad.

 

Close Dewis iaith