Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwasanaeth lles addysg

Mae swyddogion lles addysg yn cefnogi rhieni sy'n wynebu anawsterau wrth sicrhau bod eu plant yn mynd i'r ysgol yn rhoelaidd.

Mae'r gwasanaeth lles addysg (GLlA) yn cefnogi'r awdurdod addysg lleol (AALl) i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn Ninas a Sir Abertawe'n cael mynediad i ddarpariaeth addysg briodol a pherthnasol sy'n ei alluogi i ddysgu. 

Mae'r gwasanaeth lles addysg yn hyrwyddo lles plant a mynediad cyfartal i addysg i blant o bob oed.

Gwasanaethau a gynigir gan y swyddogion lles addysg

  • Cefnogi plant a'u teuluoedd
  • Cysylltu ag ysgolion
  • Cyngor ar dderbyniadau a throsglwyddiadau ysgolion
  • Gwybodaeth a chyngor ar weithdrefnau gwahardd
  • Helpu rhieni i fodloni eu goblygiadau cyfreithiol o ran presenoldeb eu plant yn yr ysgol
  • Trwyddedu cyflogi plant
  • Cyngor ar addysg a budd-daliadau lles
  • Hyrwyddo lles plant
  • Gweithio gydag asiantaethau cefnogi
  • Gorfodi rhwymedigaethau cyfreithiol yr AALl o ran presenoldeb yn yr ysgol
  • Archwilio plant sy'n mynd ar goll o addysg
  • Diogelu lles plant
  • Cefnogi plant sy'n derbyn gofal yn yr awdurdod
  • Cefnogi gofalwyr ifanc yn yr awdurdod.

Cefnogaeth i rieni / gwarcheidwaid a phobl ifanc

Gall swyddogion lles addysg gynnig cymorth a chefnogaeth i deuluoedd ag anawsterau.

Mae'r gwasanaeth lles addysg yn cynnig cefnogaeth i rieni a phlant i helpu i sicrhau bod y plant yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd.

Yn aml, gall swyddogion lles addysg gynorthwyo rhieni a phlant ynghylch amrywiaeth o faterion.

Gallwch gysylltu a'ch swyddog lles addysg drwy ysgol eich plentyn. Mae swyddogion lles addysg mewn ygolion uwchradd. Gallwch hefyd gysylltu a'r Prif Swyddog Lles Addysg.

Cymorth i ofalwyr ifanc

Gofalwr ifanc yw person o dan 18 oed sy'n gofalu am aelod o'r teulu yn rheolaidd sy'n dioddef o:

  • Salwch hir dymor
  • Anabledd dysgu
  • Anabledd corfforol
  • Problemau iechyd meddwl
  • Problemau cyffuriau neu alcohol.

Mae nifer o bobl yn yr ysgol a allai roi cymorth a chefnogaeth i chi, gan gynnwys:

  • Swyddog lles addysg
  • Pennaeth blwyddyn
  • Tiwtor dosbarth
  • Staff bugeiliol eraill yn yr ysgol.

Mae prosiectau ar gael sy'n cefnogi gofalwyr ifanc.

Cwestiynau cyffredin am y gwasanaeth lles addysg

Cwestiynau cyffredin am y gwasanaeth lles addysg.
Close Dewis iaith