Chwilio'r wefan
English

Rwyf wedi derbyn nodyn atgoffa i dalu Treth y Cyngor

Beth i'w wneud os caiff llythyr atgoffa ei anfon atoch.

Os ydych wedi cael llythyr atgoffa, mae hyn oherwydd nad ydych wedi talu Treth y Cyngor yn unol â'r rhandaliadau ar eich bil diweddaraf.

Sut gallaf dalu?

Mae nifer o ffyrdd o dalu'r swm ar eich llythyr atgoffa i ddiweddaru'ch cyfrif.

Beth os dwi eisoes wedi talu?

Os ydych wedi talu'r swm llawn a oedd yn ddyledus yn y pum niwrnod diwethaf, cewch anwybyddu'r llythyr atgoffa. Mae'n rhaid i chi barhau â'r rhandaliadau misol arferol a ddangosir ar eich bil diweddaraf neu caiff rhagor o gamau adennill eu cymryd yn eich erbyn.

Beth os na allaf dalu?

Mae'n bwysig iawn i chi gysylltu â ni cyn gynted ag y bo modd. Mae'n rhaid i chi beidio ag anwybyddu'r llythyr atgoffa hwn.

Beth sy'n digwydd os na thalaf?

Bydd methu talu'r swm ar y llythyr atgoffa na chysylltu â ni'n arwain at gymryd rhagor o gamau adennill yn eich erbyn a gellid ychwanegu costau at yr hyn sydd eisoes gennych i'w dalu.

Cofiwch, os na thalwch eich taliadau'n brydlon, byddwch yn colli'r hawl i dalu mewn rhandaliadau a bydd y cyfanswm ar gyfer y flwyddyn yn ddyledus ar unwaith.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM