Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynydd Cilfái

Mynydd Cilfái, tirnod blaenllaw, sylweddol (3km sgwâr) yn nwyrain Abertawe. Ceir coetir cymunedol yma a reolir gan Wirfoddolwyr Coetir Cymunedol Cilfái, Menter Coedwigaeth Cymru a Dinas a Sir Abertawe.

Mae'n goetir ifanc ac yn lloches i fywyd gwyllt yn y ddinas, gydag amrywiaeth o gynefinoedd gan gynnwys coetir, gweunydd, gwlypdir a dolydd.

Mae'n un o'r coetiroedd mwyaf ar gyrion ardal drefol Abertawe ac mae'n cynnig golygfeydd godidog dros ddinas a Bae Abertawe.

Dewch i edrych am adar fel ehedyddion, troellwyr, llinosod, hebogau tramor, esgyll cochion, y fronfraith, adar yr eira, cigfrain a llwydfron. Mae'r pili-pala glas bach prin hefyd wedi'i weld ar y safle.

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Crymlyn ychydig bellter i'r dwyrain.

Uchafbwyntiau

Mae Coetir Cymunedol Cilfái yn ardal arbennig iawn, ac mae'n darparu amrywiaeth o weithgareddau hamdden ac yn cynnig golygfeydd godidog ar draws Abertawe a thu hwnt.

Dynodiadau

  • Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN 228, Pluck Lake a 224 Mynydd Cilfái)
  • Coedwig Gymunedol

Cyfleusterau

  • Maes Parcio

Gwybodaeth am fynediad

Bôn-y-maen, St Thomas
Cyfeirnod Grid SS675940
Map Explorer yr AO 165 Abertawe

Llwybrau Cerdded

Caniateir llwybrau i groesi'r safle.

Ceir

Cymerwch yr A4217 o Ddociau Abertawe. 1 km ymhellach ymlaen gwelir y maes parcio ar gyfer Coetir Cymunedol Mynydd Cilfái ar y dde.

Bysus

Mae bysus yn teithio'n rheolaidd o Ganol y Ddinas i St Thomas, Bôn-y-maen a'r Parth Menter, lle gallwch gerdded i mewn i'r Coetir.

Close Dewis iaith