Croeso i Lyfrgelloedd Abertawe
Gallwch ddefnyddio'r tudalennau hyn i chwilio catalog ein llyfrgelloedd a chyrchu cynnwys ar-lein, ac unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, gallwch gael mynediad at eich cyfrif, adnewyddu a chadw lyfrau.
Mae gwasanaeth dosbarthu i'r cartref ein llyfrgelloedd ar gael i breswylwyr nad ydynt yn gallu mynd i'w llyfrgell leol oherwydd rhesymau iechyd neu symudedd.
Dewch gyda ni ar ddiwrnod dosbarthu...
Dewch gyda ni ar ddiwrnod dosbarthu. Mae ein tîm dosbarthu i’r cartref gwych yn casglu, trefnu a dosbarthu llyfrau. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am y gwasanaeth dosbarthu llyfrau llyfrgell i'ch cartref. 01792 516773
Gwasanaeth dosbarthu i'r cartref y llyfrgell
Rydym yn Le Llesol yn Abertawe! Mae Llyfrgelloedd Abertawe yn cynnig croeso cynnes I bob preswylydd y gaef hwn
Dewch I fwynhau’r hyn sydd ar gynnig yn Llyfrgelloedd Abertawe mewn lle diogel, cynnes a chroesawgar...
Dewch I fwynhau’r hyn sydd ar gynnig yn Llyfrgelloedd Abertawe mewn lle diogel, cynnes a chroesawgar.
Lleoedd Llesol Abertawe
Mae Llyfrgelloedd Abertawe yn cefnogi sefydliad 'Abertawe, Dinas Noddfa'
Ein haddewid: Rydym yn cefnogi gweledigaeth ‘Dinas Noddfa’ y bydd y DU yn fan diogel croesawgar i bawb...
Ein haddewid: Rydym yn cefnogi gweledigaeth ‘Dinas Noddfa’ y bydd y DU yn fan diogel croesawgar i bawb ac yn falch o gynnig noddfa i bobl sy’n ffoi rhag trais ac erledigaeth.
Rydym yn cymeradwyo Siarter Dinas Noddfa ac yn cytuno i weithredu'n unol â gwerthoedd Dinas Noddfa a chymhwyso egwyddorion y rhwydwaith yn ein gwaith (cyhyd ag y bo'n cyd-destun penodol yn ein galluogi i wneud hynny).
Rydym yn cydnabod cyfraniad pobl sy'n ceisio noddfa. Mae ceiswyr lloches yn cael eu croesawu, eu cynnwys a’u cefnogi o fewn ein cyd-destun. Disgwyliwn i’n canghennau neu grwpiau lleol (os oes rhai) gefnogi eu grŵp Dinas Noddfa lleol os oes un yn bodoli, a byddwn yn hwyluso cyswllt rhyngddynt a’u grŵp Dinas Noddfa lleol.
BFI REPLAY - 60 mlynedd o straeon ar y sgrîn wedi'u digideiddio a'u cadw ar eich cyfer chi yn unig
Ar gael ym mhob un o'n llyfrgelloedd...
Ar gael ym mhob un o'n llyfrgelloedd.
Mae BFIReplay, sydd ar gael yn benodol i lyfrgelloedd benthyg cyhoeddus y DU, yn adnodd AM DDIM i ddefnyddwyr bori a mwynhau at ddibenion hamdden neu astudio. Miloedd o fideos - rhai cyfarwydd, rhai na welwyd ers degawdau…
Mae’r adnodd unigryw hwn yn rhoi mynediad democrataidd at dreftadaeth delweddau symudol y cenhedloedd ac mae wedi’i greu mewn partneriaeth â Rhanbarthau’r DU a'r Archifau Ffilm Cenedlaethol felly gallwch fod yn sicr bod digonedd o gynnwys hiraethus o Gymru hefyd.
I gyrchu'r adnodd hwn, cliciwch ar eicon BFIReplay ar fwrdd gwaith cyfrifiadur personol y llyfrgell.
Princh - Mae argraffu di-wifr o'ch dyfais eich hunan ar gael yma!
Mae pob un o'n llyfrgelloedd yn cynnig mynediad at PRINCH! Gallwch argraffu a thalu o'ch ffôn, tabled neu liniadur...
Mae pob un o'n llyfrgelloedd yn cynnig mynediad at PRINCH! Gallwch argraffu a thalu o'ch ffôn, tabled neu liniadur.
Mae Princh bellach ar gael yn y llyfrgelloedd hyn: Brynhyfryd, Ganolog, Clydach, Fforest-fach, Gorseinon, Tregŵyr, Cilâ, Llansamlet, Treforys, Ystumllwynarth, Pen-lan, Pennard, Pontarddulais, Sgeti, St Thomas, Townhill.
Lawrlwythwch e-Bapurau Newydd am ddim gyda PressReader
Os ydych yn aelod o Lyfrgelloedd Abertawe, bydd gennych fynediad awtomatig i'n gwasanaeth e-Bapurau Newydd...