Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cerdded

Mae digon o ddewis i gerddwyr yn Abertawe a phenrhyn Gŵyr. Mae popeth ar gael yno, o bromenadau gwastad a pharcdir ar gyfer tro hamddenol i deithiau cerdded mwy heriol dros draethau, gweundir a thrwy goedwigoedd hynafol.

Caswell Bay and coast path.

Mae'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yn cynnwys 268 o filltiroedd (431km) ar Benrhyn Gŵyr yn unig ac mae llawer mwy yng ngweddill ardal Bae Abertawe. Mae nifer o deithiau cerdded sy'n addas i bobl o bob gallu a lefel ffitrwydd - un i'w hystyried yw Ffordd Gŵyr, taith gerdded 35 milltir drawiadol.

Gyda holl fanteision cerdded, nid oes esgus am beidio â mynd allan a mwynhau'r awyr agored a'r golygfeydd o'n cwmpas. Gallwch gael gwybod popeth y mae ei angen arnoch am gadw'n iach drwy gerdded gyda thaith gerdded dan arweiniad, llwybrau cerdded hirsefydlog y gallwch roi cynnig arnynt, neu drwy ymuno ag un o'r grwpiau cerdded pwrpasol yn ardal Bae Abertawe.

Ymunwch â Fforwm Cerdded Abertawe ar Facebook.

Teithiau cerdded trefol

Mae pawb yn gwybod am fanteision cerdded yng nghefn gwlad neu ar hyd yr arfordir, ond os na allwch fynd i'r rhannau hyn, gallai'r teithiau cerdded trefol byr hyn fod yr ateb delfrydol.

Teithiau cerdded yng nghefn gwlad

Dewch i ddarganfod harddwch cefn gwlad ac arfordir Abertawe a Gŵyr ar droed.

Grwpiau cerdded

Dolenni defnyddiol i grwpiau cerdded ac awyr agored.

Cadw'n iach trwy gerdded

Beth am ymuno ag un o'n teithiau cerdded rheolaidd dan arweiniad hyfforddwr?

Swyddog datblygu cerdded

Enw
John Ashley
Teitl y Swydd
Walking Development Officer

Cerdded yn agos i dda byw

Un o nodweddion arbennig Gŵyr yw'r ardaloedd mawr o iseldir rhostir comin lle gall ffermwyr â hawliau cominwyr bori eu da byw. Os ydych chi'n bwriadu cerdded yn yr ardaloedd hyn, bydd rhaid i chi gofio nifer o bethau.

Hawliau tramwy

Mae dros 400 o filltiroedd (647km) o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn Ninas a Sir Abertawe.

Rhannwch gyda gofal

Byddwch yn ystyriol o eraill sy'n defnyddio'r llwybrau defnydd a rennir fel y gall pawb eu mwynhau'n ddiogel.

Teithio llesol

Term ar gyfer gwneud taith mewn ffordd gorfforol, fel beicio neu gerdded yw teithio llesol. Rydym am wella a hyrwyddo teithio llesol er lles pawb.

Adrodd am drysor

Os ydych chi'n dod o hyd i eitem a allai fod yn hanesyddol neu'n werthfawr ('trysor') yn ardaloedd cynghorau Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot, mae'n rhaid i chi adrodd amdano i'r crwner lleol cyn gynted â phosib.
Close Dewis iaith