Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Hysbysiad o gosb addysg

Cyflwynodd Rheoliadau (Hysbysiad o Gosb) (Cymru) Addysg 2013 hysbysiadau o gosbau penodol ar gyfer absenoldebau rheolaidd o'r ysgol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'n rhaid i bob awdurdod lleol lunio a gweithredu ei Godau Ymddygiad Lleol ei hunan er mwyn sicrhau cysondeb wrth gyflwyno hysbysiadau o gosb. Cafodd y côd ei weithredu yn Abertawe o fis Ionawr 2015. 

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi mai un opsiwn ymysg nifer o wahanol ymyriadau sydd ar gael i hyrwyddo presenoldeb gwell yn yr ysgol yw hysbysiadau o gosb. Mae cyflwyno'r rheoliadau hyn yn un rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi presenoldeb gwell mewn ysgolion ar draws Cymru.

Mae cyflwyno'r rheoliadau hyn yn golygu y gall rhieni bellach dderbyn dirwy os bydd eu plentyn/plant yn absennol o'r ysgol yn rheolaidd.

Talwch ar lein Ffurflen talu ar-lein am hysbysiad o gosb addysg

Mae'r côd ymddygiad lleol, sy'n esbonio sut y bydd hysbysiadau o gosb yn cael eu gweithredu, ar gael ar y dudalen hon. Rydym hefyd wedi cynnwys rhai cwestiynau cyffredin. Bydd rhieni/gofalwyr hefyd yn derbyn llythyron esboniadol a thaflenni gwybodaeth gan ysgol eu plentyn ym mis Ionawr, 2015. 

Os oes gan unrhyw riant bryderon am bresenoldeb eu plentyn/plant, yna siaradwch â staff yr ysgol am gyngor a chefnogaeth. 

Cwestiynau cyffredin am hysbysiadau o gosb addysg

Cwestiynau cyffredin am hysbysiadau o gosb sy'n ymwneud ag addysg.

Ffurflen talu ar-lein am hysbysiad o gosb addysg

Gallwch dalu eich hysbydiad o gosb trwy ddefnyddio ein ffurflen talu ar-lein.

Côd Ymddygiad ar gyfer Hysbysiadau Cosb

Presenoldeb afreolaidd mewn ysgol / darpariaeth addysg amgen.
Close Dewis iaith