Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun ar Gyfer Ariannu Ysgolion

Diben y Cynllun yw diffinio'r berthynas ariannol rhwng yr awdurdod addysg lleol a'i ysgolion a gynhelir.

Fel sy'n ofynnol o dan Adran 48 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a rheliadau dilynol.

Cymwys o 1 Ebrill 2024

Rhestr o'r Cynnwys

  1. Cyflwyniad
  2. Rheolaethau Ariannol
  3. Rhandaliadau Cyfrannau o'r Gyllideb; Trefniadau bancio
  4. Triniaeth Balansau Gwarged a Balansau Diffyg sy'n Codi Mewn Perthynas â Chyfrannau o'r Gyllideb
  5. Incwm
  6. Taliadau a Godir ar Gyfran Ysgol o'r Gyllideb
  7. Trethiant
  8. Darparu Gwasanaethau a Chyfleusterau gan yr Awdurdod
  9. Mentrau Cyllid Preifat (PFI)/Partneriaethau Cyhoeddus-Preifat (PPP)
  10. Yswiriant
  11. Amrywiol
  12. Cyfrifoldeb am Atgyweirio a Chynnal a Chadw
  13. Atodiad 1
  14. Atodiad 2

 

Rhan 1

Cyflwyniad

1.1      Diben y Cynllun

Pwrpas y Cynllun yw diffinio'r berthynas ariannol rhwng yr awdurdod lleol (ALl) a'i ysgolion a gynhelir. Mae'r Cynllun yn manylu ar y trefniadau rheoli ariannol y mae'n ofynnol i'r ALl a'i ysgolion gadw atynt yn seiliedig ar ddarpariaethau adrannau 45 i 53 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Y Ddeddf).

1.2      Cymhwyso'r Cynllun at Ysgolion a Gynhelir

Rhestrir yr ysgolion a gynhelir yng Nghyngor Abertawe y mae'r Cynllun hwn yn berthnasol iddynt yn Atodiad 1.

Nid yw'r Cynllun yn berthnasol i Unedau Cyfeirio Disgyblion gan nad oes gan yr unedau hyn gyllidebau dirprwyedig.

1.3      Pwerau a Ddirprwyir

Yn unol â darpariaethau'r Cynllun, caiff cyrff llywodraethu ysgolion wario cyfrannau o gyllideb at ddibenion eu hysgol neu at unrhyw ddibenion ychwanegol y gellir eu rhagnodi mewn rheoliadau a wneir o dan adran 50 (3) o'r Ddeddf.

I fod yn glir, mae rheoliadau'n nodi na ddylid gwario cyllideb ddirprwyedig yr ysgolion ar unrhyw beth nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â darparu addysg statudol ei disgyblion. Mae hyn yn cynnwys cymorthdalu defnydd trydydd parti o'r adeilad, lletygarwch i staff ac unrhyw ddefnydd anaddysgol arall.

Mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu unigol ystyried a chofnodi yn eu cofnodion i ba raddau y mae eu pwerau wedi'u dirprwyo i bennaeth yr ysgol (ac unrhyw ddiwygiadau). Mae penderfyniadau o'r fath gan y corff llywodraethu yn gorfod cyd-fynd â gofynion rheoliadau a wneir o dan adran 38 o'r Ddeddf ac atodlen 11 i'r Ddeddf.

Bydd gan ysgol newydd gyllideb ddirprwyedig o ddyddiad agor yr ysgol oni phennir yn wahanol o fewn darpariaethau adran 49 (3) o'r Ddeddf.

1.4      Atal Dirprwyaeth

Os gweithredir yn groes i ddarpariaethau'r Cynllun yn sylweddol neu'n rheolaidd, os na chaiff y gyfran o'r gyllideb ei rheoli'n foddhaol neu os gweithredir ymyrraeth yn unol ag adrannau 14 a 17 o'r Ddeddf, yna gellir atal dirprwyo yn ddarostyngedig i hawl i apelio i Lywodraeth Cymru, ac eithrio pan arferir goruchwyliaeth o dan adran 17 o'r Ddeddf.

1.5      Y Fframwaith Ariannu/Cyllidebau Ysgolion

Mae'r fframwaith ariannu a ddisodlodd Rheolaeth Leol Ysgolion yn seiliedig ar y darpariaethau deddfwriaethol yn adrannau 45 - 53 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion.

O dan y ddeddfwriaeth hon, mae awdurdodau lleol yn penderfynu drostynt eu hunain beth yw maint eu Cyllideb Ysgolion. Mae'r categorïau gwariant sy'n dod o fewn y Gyllideb Ysgolion wedi'u rhagnodi o dan reoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ond sydd wedi'u cynnwys yng Nghyllideb yr Ysgol, yn cynnwys yr holl wariant, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, ar ysgolion a gynhelir gan awdurdod. Gall awdurdodau lleol gadw cyllid at ddibenion a ddiffinnir mewn rheoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Adran 46 o'r Ddeddf. Yr awdurdod dan sylw sy'n penderfynu ar y symiau sydd i'w cadw'n ganolog, yn ddarostyngedig i unrhyw derfynau neu amodau a ragnodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gelwir balans y Gyllideb Ysgolion sy'n weddill ar ôl didynnu cronfeydd a gedwir yn ganolog yn Gyllideb Ysgolion Unigol (ISB).

Mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddosbarthu symiau o'u ISB ymhlith eu hysgolion a gynhelir yn unol â fformiwla sy'n cyd-fynd â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, ac sy'n galluogi cyfrifo cyfran o'r gyllideb ar gyfer pob ysgol a gynhelir. Yna, dirprwyir y gyfran hon o'r gyllideb i gorff llywodraethu'r ysgol sydd dan sylw, oni bai bod yr ysgol yn ysgol newydd sydd heb dderbyn cyllideb ddirprwyedig eto, neu os bydd yr hawl i gyllideb ddirprwyedig wedi'i hatal yn unol ag adran 51 o'r Ddeddf. Mae'r rheolaethau ariannol y mae gwaith dirprwyo yn rhan ohonynt wedi'u nodi yn y Cynllun hwn a wneir gan yr ALl yn unol ag Adran 48 o'r Ddeddf ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae'n rhaid i bob diwygiad i'r Cynllun gael ei gymeradwyo gan Fforwm Cyllideb Ysgolion Cyngor Abertawe.

1.6      Dosbarthu'r Gyllideb

Bydd dosbarthiad yr ISB ymhlith ysgolion a gynhelir yn ôl fformiwla yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 47 o'r Ddeddf ac a gyhoeddir yn flynyddol fel y disgrifir ym mharagraff 1.7 isod. Bydd y fformiwla hon yn galluogi cyfrifo cyfran o'r gyllideb ar gyfer pob ysgol a gynhelir. Yna dirprwyir y gyfran hon o'r gyllideb i gorff llywodraethu'r ysgol sydd dan sylw.

1.7      Cyhoeddi'r Cynllun (a dogfennau cysylltiedig eraill)

Mae Adran 52 yn Ddeddf yn ei gwneud hi'n ofynnol i gyhoeddi datganiad cyllideb yn disgrifio'r canlynol:-

  • y gyfran o'r gyllideb ar gyfer pob ysgol
  • y fformiwla a ddefnyddiwyd i gyfrifo cyfrannau ysgolion o'r gyllideb
  • cyfrifiad manwl o'r gyfran o'r gyllideb ar gyfer pob ysgol

Yn ychwanegol, mae angen datganiad ynghylch gwariant alldro wedi'r flwyddyn ariannol yn disgrifio:-

  • gwariant ysgolion unigol
  • gwariant a gedwir yn ganolog
  • balansau a gedwir mewn perthynas â bob ysgol

Bydd datganiadau yn destun ardystiad archwilio a gallant gael eu cyfuno a'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Mae trefniadau cyhoeddi wedi'u nodi mewn rheoliadau ar wahân sy'n ei gwneud yn ofynnol i bennaeth a chorff llywodraethu bob ysgol gael copi o'r Cynllun hwn ac unrhyw ddiwygiadau dilynol, yn ogystal â datganiadau cyllideb ac alldro i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ysgol honno neu â gwariant a gedwir yn ganolog.

1.8      Diwygio'r Cynllun

Bydd yn rhaid i bob diwygiad i'r Cynllun gael ei gymeradwyo gan Fforwm Cyllideb Ysgolion Cyngor Abertawe. Gall y Fforwm: 

(a) gymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath;

(b) cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath ar yr amod y gwneir addasiadau; neu

(c) wrthod cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath.

 

Os bydd y Fforwm yn cymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i'r cynllun, gall bennu'r dyddiad pan fydd unrhyw gynllun diwygiedig yn dod i rym.

Pan fydd y Fforwm yn gwrthod cymeradwyo cynigion a gyflwynir yn unol â pharagraff 2A Atodlen 14 Deddf 1998, neu os bydd yn cymeradwyo cynigion o'r fath ar yr amod y gwneir addasiadau sy'n annerbyniol i'r awdurdod lleol, gall yr Awdurdod lleol ofyn i Weinidogion Cymru gymeradwyo cynigion o'r fath.

Gall Gweinidogion Cymru:

(a) gymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath;

(b) cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath ar yr amod y gwneir addasiadau; neu

(c) wrthod cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath.

 

Os bydd Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i'r cynllun, gallant bennu'r dyddiad pan fydd unrhyw gynllun diwygiedig yn dod i rym.

Ni all unrhyw gynllun diwygiedig ddod i rym heb gael ei gymeradwyo gan y Fforwm Cyllideb Ysgolion neu Weinidogion Cymru.

1.9      Rôl yr Awdurdod Lleol a'i Ysgolion

Mae gan yr ALl gyfrifoldeb am bennu'r fframwaith polisi ar gyfer y Gwasanaeth Addysg ac am reoli'r rhan honno o'r adnoddau ar gyfer addysg y bydd yn ei chadw'n ganolog yn unol â'r rheoliadau a wnaed o dan adran 46 y Ddeddf.

Bydd corff llywodraethu pob ysgol yn gyfrifol am reoli ei gyfran o'r gyllideb er mwyn gweithredu Cynllun Datblygu'r Ysgol.

Bwriad y Cynllun yw caniatáu i lywodraethwyr a phenaethiaid gael cymaint o ddisgresiwn ag y bo modd i reoli adnoddau a ddirprwyir fel sy'n gyson â'r ALl yn gallu cyflawni ei gyfrifoldebau statudol.

Mae manylion cyfrifoldebau ysgolion ynghylch anghenion dysgu ychwanegol ar gael yn nogfen Egwyddorion ADY Ysgolion..Mae'n ofynnol i gorff llywodraethu ysgol ystyried faint o arian a gaiff ei ddirprwyo i'r pennaeth a dylai gofnodi ei benderfyniad (ac unrhyw addasiadau) yng nghofnodion y corff llywodraethu. Bydd unrhyw benderfyniad o'r fath yn destun unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 38 y Ddeddf.

1.10    Cynnal a Chadw Ysgolion

Mae'r Awdurdod Lleol yn gyfrifol am gynnal a chadw ysgolion sy'n gynwysedig yn y cynllun, ac mae hyn yn cynnwys y ddyletswydd o dalu treuliau'r holl gostau o'u cynnal a chadw (ac eithrio yn yr achos o ysgol a gynorthwyir yn wirfoddol ble y mae peth o'r costau, drwy statud, yn daladwy drwy'r corff llywodraethu. Un rhan o'r dull y mae Awdurdod yn cynnal ysgolion yw trwy'r system ariannu a roddwyd ar waith o dan adrannau 45 i 53 o'r Ddeddf.

 

Adran 2

Rheolaethau Ariannol

2.1.1 Cymhwyso Rheolaethau Ariannol at Ysgolion

Mae'n rhaid i ysgolion gydymffurfio â Rheolau Gweithdrefnau Ariannol a Chyfarwyddiadau Cyfrifyddu'r Awdurdod (FPR ac AI) sydd wedi'u llunio ar gyfer ysgolion.

2.1.2 Darparu Gwybodaeth Ariannol ac Adroddiadau

Bydd yn ofynnol i ysgolion sicrhau bod yr ALl yn cael manylion gwariant ac incwm disgwyliedig a gwirionedd fel y pennir yn AI.1. Ni fydd angen cyflwyno manylion yn amlach nag unwaith bob tri mis, ac eithrio yn achos y rhai sy'n gysylltiedig â chysoni trethi neu fancio, oni bydd yr ALl wedi hysbysu'r ysgol mewn ysgrifen ei fod o'r farn bod sefyllfa ariannol yr ysgol yn golygu bod angen cael manylion yn amlach neu os bydd hi'n flwyddyn gyntaf ysgol newydd. Nid yw'r cyfyngiad i fylchau tri mis yn gymwys i ysgolion sy'n rhan o system cyfrifyddu ariannol ar-lein sy'n cael ei gweithredu gan yr ALl.

2.1.3 Talu Cyflogau; Talu Biliau

Caiff gweithdrefnau taliadau gweinyddu eu pennu gan AI.2 ynghylch talu cyflogau a gan AI.5 ynghylch talu biliau. Efallai bydd trefniadau gwahanol yn eu lle i dalu biliau yn achos ysgolion sy'n cynnal eu cyfrifon banc eu hunain. Dylid cyfeirio hefyd at Ddeddf Talu Dyled Fasnachol yn Hwyr (Llog) 1998 a ffioedd a godir ar ysgolion unigol pan fo hynny'n briodol. (gweler 6(xiv) isod).

2.1.4 Rheoli Asedau

Mae'n rhaid i bob ysgol gynnal rhestr o'i hasedau di-gyfalaf symudol. Mae'r systemau, y gweithdrefnau a'r rheolaethau y mae'n ofynnol i ysgolion sy'n ymwneud â rheoli a gofalu am asedau eu dilyn wedi'u cynnwys yn AI.9. Fodd bynnag, mae gan ysgolion ryddid i bennu eu trefniadau eu hunain i gadw cofrestr o asedau sy'n werth llai na £1,000, ond bydd yn rhaid cynnal rhyw fath o gofrestr sy'n bodloni cwmnïau yswiriant.

2.1.5 Polisïau Cyfrifyddu (yn cynnwys Gweithdrefnau Diwedd Blwyddyn)

Mae Rheoliadau Ariannol ac AI.1 yn trafod paratoi a rheoli cynlluniau ariannol. Mae'n ofynnol i ysgolion gadw at y gweithdrefnau a gyhoeddir gan yr All

2.1.6 Dileu Dyledion

Mae AI.7 yn trafod casglu incwm credyd (mewn cyferbyniad ag incwm parod).

2.2      Sail Cyfrifyddu

Er mwyn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar Gyfrifyddu Awdurdodau Lleol ym Mhrydain Fawr, cymhwysir croniadau i'r holl incwm a gwariant refeniw a chyfalaf. Caiff manylion eu hymgorffori yn AI.1.

2.3      Cyflwyno Cynlluniau Cyllideb

Mae'n ofynnol i bob ysgol gyflwyno cynlluniau cyllideb yn dangos ei bwriadau ar gyfer gwariant yn y flwyddyn ariannol gyfredol a'r rhagdybiaethau sy'n sail i'r cynllun cyllideb yn FR 16 - 24 ac AI.1. Mae'n rhaid i gynllun cyllideb ffurfiol cyntaf bob blwyddyn ariannol gael ei gymeradwyo gan y corff llywodraethu. Dylai ysgolion gyflwyno eu cynllun cyllideb ffurfiol yn dangos gwariant a fwriedir yn y flwyddyn ariannol bresennol erbyn 31 Mai fan bellaf.

Bydd yr ALl yn cyflenwi'r holl ddata incwm a gwariant a gedwir sy'n angenrheidiol ar gyfer cynllunio effeithlon gan ysgolion a datganiad yn dangos pryd y darperir y wybodaeth hon trwy gydol y flwyddyn.

Dylai ysgolion ystyried yn llawn y diffygion / gwargedion amcangyfrifedig ar 31 Mawrth blaenorol yn eu cynllun cyllideb.

2.4      Gwerth Gorau

O ystyried y gyfran uchel iawn o wariant awdurdodau lleol sy'n llifo trwy gyllidebau dirprwyedig, mae'r Llywodraeth o'r farn ei bod yn ddymunol y dylai ysgolion ddangos eu bod yn dilyn egwyddorion gwerth gorau, fel y disgrifir yn Atodiad 2.

2.5      Trosglwyddiad

Gall ysgolion drosglwyddo rhwng penaethiaid cyllideb fel y disgrifir yn AI.1.

2.6       Archwilio: Cyffredinol

Cwmpasir Archwilio Mewnol gan Reoliadau Ariannol 14 ac 15.

Mae cyfrifoldebau archwilwyr allanol yn deillio o statud; yn bennaf Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a'r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio.

Mae'n ofynnol i ysgolion ddarparu mynediad at eu cofnodion ar gyfer archwilwyr mewnol ac allanol.

2.7      Archwiliadau Allanol Ar Wahân

Gall corff llywodraethu, os yw'n dymuno, gael ardystiad archwilio allanol o'i gyfrifon gan adnoddau dirprwyedig yn ychwanegol at y darpariaethau ym mharagraff 2.6. Byddai'n rhaid i archwiliad allanol a gomisiynwyd gan yr ysgol ystyried statws yr ysgol fel gwariwr arian yr ALl.

2.8      Archwilio Cronfeydd Answyddogol

Dylai ysgolion ddarparu tystysgrifau archwilio blynyddol i'r Awdurdod mewn perthynas â Chronfeydd Answyddogol sydd ganddynt a chyfrifon unrhyw sefydliadau masnachu a reolir gan yr ysgol. Trafodir hyn yn AI.11 sy'n amlinellu'r systemau, y gweithdrefnau a'r rheolaethau y mae'n ofynnol i ysgolion sy'n ymwneud â gweinyddu cronfeydd answyddogol eu dilyn. Mae'n destun gofynion Rheoliad 13 Rheoliadau Ariannol Ysgolion.

Er nad yw'r Cyngor yn darparu'r arian, mae ganddo gyfrifoldeb i'w ddiogelu. Gall Pennaeth y Gwasanaethau Cyllid a'r Ganolfan Gwasanaethau ofyn am archwilio cyfrifon unrhyw gronfeydd sy'n cael eu casglu a'u gwario'n breifat gan weithwyr.

2.9         Cofrestru diddordebau busnes

Mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu gadw cofrestr o fuddiannau busnes sy'n rhestru ar gyfer pob aelod o'r corff llywodraethu a'r pennaeth unrhyw fuddiannau busnes sydd ganddynt hwy neu unrhyw aelod o'u teulu agos.

Mae'n rhaid cadw'r gofrestr yn gyfredol trwy hysbysu am newidiadau gan lywodraethwyr a'r pennaeth, trwy broses adolygu flynyddol a'i chofnodi'n ffurfiol o fewn cofnodion cyfarfod y corff llywodraethu.

Mae'n rhaid i'r gofrestr hefyd fod ar gael i'w harchwilio gan lywodraethwyr, staff, rhieni a swyddogion priodol yr Awdurdod.

2.10    Gofynion Prynu, Tendro a Chontractio

Mae Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r Cyngor (CPRs) yn amlinellu'r rheolau a'r rheoliadau y mae'n rhaid i ysgolion eu dilyn wrth gaffael nwyddau a/neu wasanaethau. Mae dolen at y CPRs a chopi o'r Nodyn Cynghori ynghylch Caffael gan Ysgolion ar gael yn Procurement rules and regulations

Mae Rheolau Gweithdrefn Contract yn berthnasol i ysgolion ac eithrio pan fo'r rheoliadau a'r rheolau sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol i ysgol wneud unrhyw beth sy'n anghydnaws ag unrhyw un o ddarpariaethau'r cynllun neu unrhyw ddarpariaeth statudol fel unrhyw reoliadau contractau cyhoeddus y DU sydd bob amser yn cael blaenoriaeth dros Reolau Gweithdrefnau Contractau'r Cyngor ei hun.

2.11    Cymhwyso Contractau at Ysgolion

Ym mis Ebrill 1999, roedd amryw gontractau ar waith ar gyfer ysgolion, gan gynnwys y 'contractau' mewnol hynny gyda'r Sefydliadau Llafur Uniongyrchol (DLOs) neu Sefydliadau Gwasanaeth Uniongyrchol (DSOs), ynghyd â'r rhai a drefnwyd gan Wasanaeth Caffael y Cyngor ar gyfer ffynonellau cyflenwi lleol a Chonsortiwm Prynu Cymru. Ni all ysgolion optio allan o'r contractau hyn tan eu dyddiadau terfynu. Wedi hynny, gofynnir i ysgolion unigol a ydynt yn dymuno cael eu cynnwys mewn contractau a osodir yn ganolog. Dim ond trwy ddarpariaethau'r Cynllun y mae ysgolion yn rhwym i gontractau a drefnir gan yr ALl.

Er bod cyrff llywodraethu wedi'u grymuso o dan baragraff 3 Atodlen 10 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i ymrwymo i gontractau, yn y rhan fwyaf o achosion maent yn gwneud hynny ar ran yr ALl fel cynhaliwr yr ysgol a pherchennog y cronfeydd yn y gyfran o'r gyllideb.

(Dyma'r prif reswm dros ganiatáu i Awdurdodau Lleol fynnu cydlofnodi contractau sy'n fwy na gwerth penodol). Fodd bynnag, gellir gwneud contractau eraill ar ran y corff llywodraethu yn unig os oes gan y corff llywodraethu rwymedigaethau statudol clir - er enghraifft, contractau a wneir gan ysgolion a gynorthwyir neu ysgolion sefydledig ar gyfer cyflogi staff.

2.12    Cronfeydd Canolog a Chlustnodi

Bydd yr ALl yn gallu sicrhau bod symiau ar gael yn ychwanegol at ac ar wahân i gyfrannau ysgolion o'r gyllideb yn unol ag amodau defnyddio (e.e. RCSIG, grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru).

Efallai bydd yr ALl yn mynnu bod cronfeydd wedi'u clustnodi yn cael eu dychwelyd i'r ALl os na chânt eu gwario yn ystod y flwyddyn.

Ni fydd yr ALl yn gwneud unrhyw ddidyniad mewn perthynas â chostau llog i'r ALl o daliadau i ysgolion o grant penodol neu arbennig datganoledig.

2.13    Gwariant Cyfalaf o Gyfrannau o'r Gyllideb

Caniateir i gyrff llywodraethu ddefnyddio eu cyfrannau o'r gyllideb i dalu cost gwariant cyfalaf (e.e. gwariant ar adeiladau, offer, cerbydau ac ati). Os bydd y gwariant cyfalaf disgwyliedig ar unrhyw un o'r eitemau a ganlyn yn fwy na £ 20,000 rhaid i'r corff llywodraethu hysbysu'r Isadran Gyfalaf (Cyllid):

  • Tir ac Adeiladau
  • Seilwaith (e.e. waliau allanol, ffensys)
  • Cerbydau
  • Peiriannau
  • Celfi
  • Cyfarpar
  • Asedau anghyffyrddadwy (e.e. meddalwedd cyfrifiadurol)
  • Asedau treftadaeth (e.e. eitemau â rhinweddau hanesyddol, artistig, gwyddonol, technolegol, geoffisegol neu amgylcheddol sy'n cael eu cadw a'u cynnal yn bennaf oherwydd eu cyfraniad at wybodaeth a diwylliant).

Mae'n rhaid i unrhyw waith arfaethedig i asedau sy'n eiddo i'r ALl gael cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr ALl trwy'r Ffurflen Caniatâd Adeiladu/Cyfleusterau sydd ar gael yn schoolbuildingconsent.

 

Rhan 3

Rhandaliadau Cyfrannau o'r Gyllideb; Trefniadau bancio

3.1      Cod Ymarfer Rheoli Trysorfa

Mae'r Awdurdod wedi mabwysiadu Cod Ymarfer CIGFA ar gyfer Rheoli Trysorfa sy'n ymdrin â rheoli llif arian awdurdod lleol, ei fenthyciadau a'i fuddsoddiadau, rheoli risgiau cysylltiedig, a mynd ar drywydd y perfformiad neu'r enillion gorau posibl sy'n gyson â'r risgiau hynny.

3.2      Amlder Taliadau

Os oes gan ysgolion cyfrifon banc y mae eu cyfran o'r gyllideb (ac eithrio costau gweithwyr, er y gellir ystyried cynnwys costau gweithwyr yn nes ymlaen, mewn ymgynghoriad ag ysgolion) yn cael ei gredydu iddo, bydd trosglwyddiadau'n cael eu gwneud mewn dau randaliad (er y gellir adolygu hyn os a phryd y dirprwyir costau gweithwyr).

3.3      Cyfran o'r Gyfran o'r Gyllideb sy'n Daladwy ym Mhob Rhandaliad

Yn unol â pharagraff 3.1, telir rhandaliadau fel a ganlyn:

 

  • 60% o'r fantolen briodol ar ddiwrnod bancio cyntaf mis Ebrill
  • 40% o'r balans priodol ar ddiwrnod bancio cyntaf mis Medi

 

Caniateir rhandaliadau ar sail gros (h.y. gan gynnwys costau tâl, os a phan fo hynny'n berthnasol) a sail net.

Mae'n ofynnol i'r ALl ychwanegu llog at randaliadau cyfrannu o'r gyllideb a delir yn hwyr os bydd taliad hwyr o'r fath yn deillio o gamgymeriad gan yr ALl.

3.4      Adfachu Llog

Yn achos ysgolion cynradd heb gyfrifon banc, mae'r ALl ar hyn o bryd yn gwneud taliadau ar ran ysgolion. Yn achos ysgolion cynradd sydd â chyfrifon banc, telir dau randaliad fel y nodir yn 3.3 uchod. O ganlyniad, mae'r Awdurdod yn colli llog ar flaensymiau o'r fath.

Felly, gwneir addasiad unwaith ac am byth i gyllideb yr ysgol unigol ar gyfer yr ysgolion cynradd sy'n cyfranogi yn seiliedig ar y gwahaniaeth rhwng y proffil llif arian a nodir yn 3.3 uchod a'r proffil llif arian gwirioneddol yn y flwyddyn cyn cyfranogi.

3.5      Cyfrannau o'r Gyllideb ar gyfer Ysgolion sy'n Cau

Gall yr ALl wneud trefniadau gwahanol ynghylch rhandaliadau cyfrannau o'r gyllideb os yw cau ysgol wedi cael ei gymeradwyo.

3.6      Cyfrifon Banc a Chymdeithas Adeiladu

Bydd pob ysgol uwchradd yn parhau i fod â'i chyfrif banc ei hun.

Mae pob ysgol gynradd hefyd wedi gofyn am gyfrifon banc ac mae eu trefniadau cyfrifyddu, yn enwedig ar gyfer TAW, talu credydwyr, cofnodi trafodion banc a rhannu dyletswyddau mewn ysgolion, yn destun Cyfarwyddiadau Cyfrifyddu.

Os oes gan ysgolion gyfrifon banc allanol, caniateir iddynt gadw'r holl log sy'n daladwy ar y cyfrif.

Dim ond o ddechrau blwyddyn ariannol y gall unrhyw gyfrifon banc newydd ddod i rym a dylid rhoi o leiaf pedwar mis o rybudd i Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau a chael eu cymeradwyaeth ymlaen llaw. Pan fydd ysgol yn agor cyfrif banc allanol, bydd yr ALl yn trosglwyddo i'r cyfrif swm a gytunir gan yr ysgol a'r ALl fel y balans arian amcangyfrifedig a gedwir gan yr ALl mewn perthynas â chyfran yr ysgol o'r gyllideb.

3.6.1 Cyfyngiadau ar Gyfrifon

Erys yr ALl yn berchennog y cronfeydd a gedwir mewn cyfrif banc ysgol.

Gall ysgolion ddewis banc a gymeradwyir gan y Cyngor yn unig. Bydd yr holl gyfrifon yn enw'r Awdurdod ond cânt eu 'personoli' ag enw'r ysgol; fodd bynnag, efallai bydd rhai ysgolion yn gall cael cyfrifon at ddibenion cyfrannau o'r gyllideb yn enw'r ysgol yn hytrach na'r ALl.

Gall cyflogeion yr ALl a chyflogeion ysgolion fod yn llofnodwyr cyfrifon banc.

Caniateir defnyddio cerdyn prynu neu gerdyn debyd sy'n gysylltiedig â chyfrif banc yr Ysgol ar y sail bod hyn yn cael ei ystyried yn ddull safonol o daliad busnes heb gredyd estynedig. Fel y cyfryw, mae'n debyg i gredyd masnach estynedig ar gyfer eitemau a brynnir ac a anfonebir i'w talu maes o law yn hytrach na math o fenthyca.

3.7      Benthyca Gan Ysgolion

Ni fydd ysgolion yn gallu gwneud trefniadau ar gyfer gorddrafftiau, benthyciadau nac unrhyw fath arall o gredyd heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol a Gweinidogion Cymru wedi hynny.

Ni ddylid defnyddio asedau y bernir eu bod yn hanfodol i barhad yr ysgol (asedau craidd) i sicrhau benthyciadau h.y.:

  • tir sydd ei angen i gyflawni gofynion Rheoliad Addysg (Mangreoedd Ysgolion) 1999;
  • adeiladau neu asedau eraill sy'n hanfodol i waith yr ysgol a gofynion iechyd a diogelwch a deddfwriaeth berthnasol arall.

 

Adran 4

Triniaeth Balansau Gwarged a Balansau Diffyg Sy'n Codi Mewn Perthynas â Chyfrannau o'r Gyllideb

4.1       Cynllunio

Bydd yn ddyletswydd ar ysgolion i reoli o fewn eu cyllideb gymeradwy a pheidio â chynllunio ar gyfer diffyg o fewn unrhyw flwyddyn ariannol (gweler FR.21 hefyd).

Fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau eithriadol canlynol, gellir caniatáu i ysgol gynllunio diffyg:

 

1)        Os yw gostyngiad yn nifer y disgyblion o natur dros dro yna byddai gosod cyllideb ddiffyg yn galluogi ysgolion i gynnal y lefelau staffio gan osgoi trallod a chostau diswyddo.

2)        Byddai gan ysgolion gyfle i gynllunio dros 2 neu 3 blynedd lle mae gostyngiad arfaethedig yn nifer y disgyblion sy'n arwain at sefyllfa sefydlog.

3)        Gellid gweithredu prosiectau refeniw a nodwyd ac a gostiwyd gan ysgolion yn eu Cynlluniau Datblygu Ysgol yn gynharach na'r hyn a gynlluniwyd o'r blaen.

 

Bydd cytuno i ddiffyg yn dibynnu ar yr amodau canlynol:

 

a)         Bydd yn rhaid i'r Cyfarwyddwr Addysg a Phennaeth Gwasanaethau Ariannol gymeradwyo'r diffyg cyn i'r ysgol bennu'r gyllideb.

b)         Bydd yn rhaid cyflwyno cynllun i'r Cyfarwyddwr Addysg yn nodi sut y bydd y diffyg yn cael ei dalu'n ôl.

c)         Y diffyg mwyaf y gellir ei gynllunio yw 5% o gyfran ysgol o'r gyllideb. Nid oes unrhyw isafswm oherwydd bydd angen i unrhyw ddiffyg gael ei gytuno â'r Awdurdod. Uchafswm cyfran balansau cyfunol ysgolion sydd gan yr ALl a fydd yn cael eu defnyddio i gefnogi'r trefniadau yw 25%.

d)         Ni ellir cario balans diffyg am fwy na 5 mlynedd ac mae'r adroddiad i'r Cyngor yn nodi y byddai'n well cynllunio dros ddim mwy na 2 neu 3 blynedd.

e)         Ni ellir dileu balansau diffyg.

 

4.2 Balansau a Ddigir Ymlaen (Yn Cynnwys Ysgolion a Gynhelir â Grant)

Caiff unrhyw falans gwarged neu ddiffyg yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol ei ddwyn ymlaen i'r flwyddyn ariannol ddilynol (gweler FR.21 hefyd).

4.3      Adroddiad ynghylch y Defnydd Arfaethedig o Falansau Gwarged

Os bydd unrhyw ysgol â balans gwarged sy'n fwy na 5% o'i chyfran o'r gyllideb ac yn £ 10,000 o leiaf, bydd hynny'n ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu adrodd i'r ALl bob blwyddyn ar ei ddefnydd arfaethedig o'r swm dros ben.

Gall yr ALl hefyd gyfarwyddo'r corff llywodraethu ynghylch sut i wario gwarged ym malans yr ysgol yn ystod cyfnod cyllido, os bydd y balans yn fwy na 5% o'i gyfran o'r gyllideb ac:

(i) Yn achos ysgol gynradd, bydd y gwarged yn £50,000 neu ragor

(ii) Yn achos ysgol uwchradd neu ysgol arbennig, os bydd y gwarged yn £100,000 neu ragor

Os na fydd y corff llywodraethu yn cydymffurfio â chyfarwyddyd o'r fath, gall yr awdurdod ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu dalu'r gwarged hwnnw i gyd neu ran ohono i'r awdurdod i'w gymhwyso fel rhan o'u Cyllideb Ysgolion am y cyfnod cyllido dan sylw.

4.4      Alldro neu Falansau Diffyg

Ni all alldro neu falans diffyg gael ei ddileu gan yr ALl. Bydd yn rhaid ei ddwyn ymlaen fel y nodir ym mharagraff 4.2, a'i ddidynnu o gyfran yr ysgol o'r gyllideb am y flwyddyn ddilynol.

Os daw yn amlwg yn ystod y flwyddyn ariannol y gall diffyg ddigwydd, bydd y llywodraethwyr, y Cyfarwyddwr Addysg a Phennaeth y Gwasanaethau Ariannol yn cael eu hysbysu â chynigion ynghylch sut i leihau'r diffyg i'w ddwyn ymlaen i'r flwyddyn ddilynol.

4.5      Llog ar Falansau

Bydd balansau gwarged ysgolion sydd gan yr Awdurdod yn atynnu llog yn chwarterol ar gyfradd cyfartalog 7 diwrnod llywodraeth leol.

Bydd manylion yr amodau sydd ynghlwm wrth falansau a fuddsoddwyd yn cael eu cynnwys mewn canllawiau ar wahân a bydd ysgolion yn cael eu hysbysu pan fo hynny'n briodol.

Pan fydd ysgolion yn methu â rheoli adnoddau o fewn eu cyfran o'r gyllideb, yna gellir codi llog ar gyfradd 7 diwrnod ar gyfartaledd llywodraeth leol ar falansau diffyg.

4.6      Balansau Ysgolion sy'n Cau ac Ysgolion sy'n Cymryd eu Lle

Pan gaiff ysgolion eu cau neu eu huno, bydd unrhyw falans gwarged neu ddiffyg yn dychwelyd i'r ALl ac ni fydd yn cael ei drosglwyddo i ysgol olynol nac unrhyw ysgol arall.

Os oes balans diffyg yn ystod blwyddyn olaf bodolaeth ysgol, dylai'r ysgol geisio dod â hyn yn ôl i gredyd cyn cau a byddai angen iddi gyflwyno cynllun (fel y nodir ym mharagraff 4.1).

Os bydd ysgolion yn uno, dylent wario cronfeydd wrth gefn yn ystod eu blwyddyn ariannol olaf ar eitemau y cytunwyd eu prynu ar gyfer yr ysgol newydd. Ni ddylai ysgolion sy'n cau wario eu cronfeydd wrth gefn ar ôl i'r cyhoeddiad cau gael ei wneud heb gytundeb Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol ymlaen llaw. (Sylwer na fydd cyflogau gwarchodedig yn cael eu hariannu ar gyfer staff mewn ysgolion olynol oni bai bod y cyflogau hyn ar waith o leiaf blwyddyn cyn eu cyfuno neu cyn y cyhoeddiad cau, oni bai y cytunwyd ymlaen llaw â'r Awdurdod).

Bydd rheoliadau rhannu cyllideb yn caniatáu dyrannu cyllid ychwanegol neu leihau cyllid ychwanegol i ysgolion yn ôl yr amgylchiadau.

Fel rheol, bydd balans net ysgolion sy'n cau, o fewn rheswm, ar gael i'r ysgol newydd ar adeg yr 'uno'. Bydd gofyn i ysgolion wneud cynnig ysgrifenedig am y cronfeydd wrth gefn hyn os ydynt yn dymuno iddynt gael eu defnyddio ar gyfer costau sefydlu yn dilyn yr 'uno'. Bydd gofyn i ysgolion presennol hefyd wneud cynigion ysgrifenedig i ddefnyddio balans ysgol sy'n cau ar gyfer costau sefydlu yn eu hysgol os byddant yn derbyn y disgyblion o ysgol sy'n cau.

4.7      Cynlluniau Benthyciadau

Efallai y bydd yr Awdurdod am ystyried, mewn ymgynghoriad ag ysgolion, y posibilrwydd o gynllun benthyciad y gellir ei ariannu o adnoddau ysgolion unigol sydd wedi'u cyfuno.

 

Adran 5

Incwm

5.1      Incwm o Osodiadau

Bydd ysgolion yn cadw incwm o osodiadau ac eithrio pan fydd cytundebau cyd-ddefnydd neu Fenter Cyllid Preifat (PFI) yn mynnu fel arall. Ni chaniateir credydu incwm o osodiadau i gronfeydd gwirfoddol neu breifat.

Gall defnyddio adeiladau ysgol mewn perthynas â defnydd cymunedol a gwirfoddol fod yn destun datganiad polisi'r ALl sy'n caniatáu gosodiadau ar gyfradd is.

Gall ysgolion hefyd draws-gymorthdalu gosodiadau at ddefnydd cymunedol a gwirfoddol gydag incwm o osodiadau eraill, ar yr amod nad oes cost net i gyfran y gyllideb.

Pan fydd ysgolion yn ystyried ymrwymo i gytundeb â thrydydd parti ynghylch defnyddio mangreoedd ysgol, yn gyntaf, dylent lenwi'r ffurflen gosod trydydd parti sydd i'w gweld yn Third party lettings consent

i sicrhau bod y cytundeb yn ddim ond "cytundeb llogi ystafell" ac nid tenantiaeth nac unrhyw fath o ddeiliadaeth sy'n effeithio ar hawl yr Awdurdod i'r fangre neu'r tir.

5.2      Incwm o Ffioedd a Thâl a Godir

Bydd ysgolion yn cadw incwm o ffioedd a thaliadau a godir os bydd y cyfrifoldeb am ddarparu'r gwasanaeth cysylltiedig wedi'i ddirprwyo.

Bydd yn ofynnol i ysgolion roi sylw i unrhyw ddatganiadau polisi'r ALl ar ffioedd a thaliadau.

5.3      Incwm o Weithgareddau Codi Arian

Bydd yr incwm hwn yn cael ei gadw gan ysgolion.

5.4      Incwm o Werthu Asedau

Ni fydd yr incwm hwn yn cael ei gadw gan ysgolion oni bydd yr ased wedi cael ei gaffael gan ddefnyddio cronfeydd dirprwyedig ac ni fydd yn dir nac yn adeiladau. Bydd triniaeth incwm o werthu asedau a gafwyd o gronfeydd wrth gefn neu werthu tir ac adeiladau, sy'n eiddo i'r ALl, yn destun datganiad polisi'r ALl.

Dylai ysgolion eraill gael eu hysbysu am asedau dros ben a brynwyd gan ddefnyddio cronfeydd dirprwyedig , ac wedi hynny, dylent gael eu gwerthu trwy broses dendro gystadleuol, arwerthiant cyhoeddus, neu ran-gyfnewid, oni fydd y llywodraethwyr yn penderfynu'n wahanol dan amgylchiadau penodol (mae AI.9 yn cyfeirio at hynny).

5.5      Gweithdrefnau Gweinyddu ar gyfer Casglu Incwm

Mae manylion y trefniadau ar gyfer casglu incwm wedi'u cynnwys yn AI.7 (sy'n trafod casglu incwm credyd) ac AI.8 (sy'n trafod casglu ac adneuo incwm arian parod).

 

Adran 6

Taliadau a Godir ar Gyfran Ysgol o'r Gyllideb

6.1      Mae'r paragraffau canlynol yn disgrifio'r amgylchiadau pan all yr ALl godi cyllideb ysgol heb gydsyniad y corff llywodraethu, yn unol â gweithdrefnau ymgynghori a hysbysu priodol:

(i)        Costau ymddeol cyn pryd a gafwyd heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr ALl i ysgwyddo costau o'r fath (y swm y gellir ei godi yw'r swm sy'n ychwanegol i unrhyw swm y cytunwyd arno gan yr ALl), neu os na fydd yr ysgol wedi cadw at yr achos busnes y cytunwyd arno wrth gyflwyno eu cais am ER/VR;

(ii)        Gwariant a wnaed i sicrhau ymddiswyddiadau pan na fydd yr ysgol wedi dilyn cyngor yr ALl;

(iii)       Dyfarniadau gan lysoedd a thribiwnlysoedd diwydiannol yn erbyn yr ALl neu setliadau heb fynd i'r llys, yn deillio o gamau neu ddiffyg gweithredu gan y corff llywodraethu yn groes i gyngor yr ALl;

(iv)       Gwaith iechyd a diogelwch neu wariant cyfalaf y mae'r ALl yn atebol amdano o ganlyniad i fethiant y corff llywodraethu i gyflawni'r gwaith gofynnol er bod digon o gyllid blynyddol wedi'i ddirprwyo ar gyfer gwaith o'r fath;

(v)       Unioni diffygion mewn gwaith adeiladu a ariennir gan wariant cyfalaf o gyfranddaliadau cyllideb heb yn wybod na chaniatâd yr Awdurdod os yw'r ALl yn berchen ar adeilad yr ysgol neu os oes gan yr ysgol statws ysgol wirfoddol a reolir;

(vi)      Taliadau am wasanaethau sy'n ddyledus pan fydd y weithdrefn datrys anghydfodau wedi barnu o blaid yr ALl. Bydd hyn yn cynnwys anfonebau mewnol sydd heb gael eu talu o fewn 8 wythnos neu os na fynegwyd amheuaeth yn eu cylch mewn gohebiaeth ysgrifenedig at yr adran a gododd yr anfoneb.

(vii)     Adennill cosbau a bennwyd gan Fwrdd Cyllid y Wlad, yr Asiantaeth Cyfraniadau, Cyllid a Thollau EM, Pensiynau Athrawon neu awdurdodau rheoleiddio o ganlyniad i esgeulustod ysgolion;

(viii)    Cywiro gwallau wrth gyfrifo taliadau a godir gan ALl ar gyfrannau ysgolion o'r gyllideb;

(ix)      Costau cludiant ychwanegol sy'n deillio o benderfyniadau gan y corff llywodraethu ar hyd y diwrnod ysgol a methiant i hysbysu'r ALl am ddiwrnodau heb ddisgyblion;

(x)       Costau cyfreithiol oherwydd methiant y corff llywodraethu i dderbyn cyngor yr ALl;

(xi)      Cost yr hyfforddiant iechyd a diogelwch angenrheidiol ar gyfer staff a gyflogir gan yr ALl os bydd digon o arian wedi'i ddirprwyo ar gyfer hyfforddiant o'r fath ond ni fydd wedi cael ei gynnal;

(xiii)    Iawndal a delir i fenthyciwr pan fydd ysgol yn ymrwymo i gontract am fenthyciadau tu hwnt i'w phwerau cyfreithiol a bydd y contract yn annilys, neu heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol;

(xiv)    Cost gwaith a wneir mewn perthynas â thaliadau pensiwn athrawon a chofnodion ar gyfer ysgolion sy'n defnyddio contractwyr cyflogres nad ydynt yn rhan o'r ALl; y tâl fydd yr isafswm sydd ei angen i dalu cost cydymffurfiad yr Awdurdod â'i rwymedigaethau statudol;

(xv)     Costau a ddaw i ran yr ALl wrth sicrhau darpariaeth a bennir mewn Datganiad AAA os bydd corff llywodraethu ysgol yn methu â sicrhau darpariaeth o'r fath er gwaethaf dirprwyo arian mewn perthynas â'r Datganiad hwnnw;

(xvi)    Costau a gafwyd gan yr ALl yn sgil data anghywir yn cael ei gyflwyno gan yr ysgol;

(xvii)    Adfer symiau a gaiff eu gwario o grantiau penodol ar ddibenion anghymwys;

(xviii)   Costau a gaiff yr ALl o ganlyniad i'r corff llywodraethu yn gweithredu yn groes i delerau contract;

(xiv)     Llog sy'n ddyledus yn sgil talu anfonebau credydwyr yn hwyr pan fydd yr oedi yn cael ei achosi gan yr ysgol (Deddf Talu Dyled Fasnachol yn Hwyr (Llog) 1998);

(xv)      Pan fydd ysgol yn cynnig newid i amser y diwrnod ysgol sy'n arwain at gostau ychwanegol e.e. cludiant, os bydd yr awdurdod lleol yn gwrthwynebu'r newid hwn yn ystod ymgynghoriad.

Os bydd anghydfod yn codi o'r darpariaethau hyn, bydd unigolyn a benodir gan Brif Weithredwr Cyngor Abertawe yn mynd i'r afael â'r mater.

6.2      Mae'n ofynnol i'r Awdurdod godi tâl ar gyfrannau ysgolion o'r gyllideb am gyflogau staff sy'n gweithio mewn ysgolion ar gost wirioneddol.

 

Adran 7

Trethiant

7.1      Treth Ar Werth

Cynhwysir cyfarwyddiadau o dan AI.15 sy'n delio â nifer o faterion TAW a byddant yn dibynnu ar ba un ai a yw ysgolion yn cynnal eu cyfrifon banc eu hunain ai peidio. Bydd ysgolion sy'n cynnal eu cyfrifon banc eu hunain yn cael eu had-dalu am unrhyw TAW a adhawlir.

7.2      Cynllun Trethiant y Diwydiant Adeiladu

Ymdrinnir â hyn o dan AI.5 sy'n trafod y gweithdrefnau i'w dilyn wrth wneud taliadau i gredydwyr.

 

Adran 8

8.1      Darparu Gwasanaethau o Gyllidebau a Gedwir yn Ganolog

Bydd yr Awdurdod yn penderfynu ar ba sail y darperir gwasanaethau o gronfeydd a gedwir yn ganolog i ysgolion, gan gynnwys costau ymddeol cyn pryd a thaliadau diswyddo.

Ni fydd yr Awdurdod yn gwahaniaethu wrth ddarparu gwasanaethau ar sail categorïau o ysgolion ac eithrio'r amgylchiadau canlynol:

*Bydd arian wedi cael ei ddirprwyo i rai ysgolion yn unig; neu *Cyfiawnheir gwahaniaethu o'r fath gan wahaniaethau mewn dyletswyddau statudol.

Gall trefniadau yswiriant gael eu heithrio o unrhyw gyfyngiad yn yr adran hon at ddibenion ymarferol.

8.2      Darparu Gwasanaethau a Brynir gan yr ALl gan Ddefnyddio Cyllidebau Dirprwyedig

Mae cyfnod unrhyw drefniant ag ysgol i brynu gwasanaethau neu gyfleusterau wedi'i gyfyngu i uchafswm o 5 mlynedd o ddyddiad y cytundeb.

Er bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn awgrymu y bydd trefniadau yn para o leiaf 2 flynedd yn y mwyafrif o achosion, os nad pob un, oherwydd mae'n debygol o fod yn aneconomaidd i ddarparu gwasanaeth am gyfnod byrrach o amser, oherwydd ansicrwydd cyllidebol, cytunwyd y dylid cynnig Cytundebau Lefel Gwasanaeth am flwyddyn o leiaf.

Pan ddarperir gwasanaeth na all yr ALl gadw gwariant yn ganolog amdano, fe'i cynigir am brisiau y bwriedir iddynt gynhyrchu incwm nad yw'n llai na chost darparu'r gwasanaethau hyn. Bydd yn rhaid i gyfanswm yr incwm dalu am gyfanswm cost y gwasanaeth, hyd yn oed os codir tâl gwahanol ar ysgolion am hynny.

8.3      Pecynnau

Pan fydd yr Awdurdod yn darparu gwasanaethau a brynir gan ysgolion ac y dirprwywyd cyllid ar eu cyfer, cynigir y rhain mewn ffordd nad yw'n cyfyngu'n afresymol ar ryddid ysgolion i ddewis o blith gwasanaethau sydd ar gael, a phan fo hynny'n ymarferol, bydd hyn yn cynnwys darpariaeth i brynu gwasanaethau unigol yn ogystal â phecynnau o wasanaethau, ar ôl ymgynghori ag ysgolion.

Efallai y bydd yr Awdurdod yn dymuno ystyried y posibilrwydd o gynnig pecyn ehangach o wasanaethau i ysgolion am bris gostyngol (dim llai na'r gost) ond byddai hefyd yn cynnig yr un gwasanaethau ar sail unigol os yn bosibl neu fel y disgrifir yn y paragraff blaenorol.

8.4      Cytundebau Lefel Gwasanaeth

Pan ddarperir gwasanaethau neu gyfleusterau o dan Gytundeb Lefel Gwasanaeth, naill ai rhai heb dâl neu rai y bydd ysgolion yn eu prynu gan y Cyngor, bydd telerau unrhyw gytundeb o'r fath yn cael eu hadolygu o leiaf bob 3 blynedd os bydd y cytundeb yn para'n hirach na'r cyfnod hwnnw.

Pan fydd yr Awdurdod yn cynnig gwasanaethau sy'n cael eu prynu gan ysgolion, byddant ar gael ar sail ad hoc, os yn bosibl, ac ar sail Cytundebau Lefel Gwasanaeth safonol. Pan ddarperir gwasanaethau ar sail ad hoc, gall yr Awdurdod godi tâl sy'n wahanol i'r gyfradd a godir am yr un gwasanaethau o dan Gytuneb Lefel Gwasanaeth safonol.

 

Adran 9

9.1      Bwriad PFI yw sicrhau y gwneir y defnydd gorau posibl o adnoddau cyfalaf. Y brif fantais yw'r ffaith y gall y cyllid ychwanegol a gaiff ei sicrhau alluogi prosiect i gael ei gyflawni yn aml pan na fyddai'r Awdurdod ei hun yn gallu fforddio i wneud hynny. Y brif anfantais yw'r ffaith ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod ymrwymo i ymrwymiad cytundebol tymor hir â darparwyr y cyllid mewn cysylltiad â'r asedau a'r gwasanaethau a ddarperir. Mae angen gwerthuso'r prosiect arfaethedig yn ofalus, o safbwynt ariannol ac o safbwynt y gwasanaeth a ddarperir.

9.2      Bydd angen i unrhyw gynigion ynghylch Mentrau Cyllid Preifat/Partneriaethau Cyhoeddus Preifat gael eu hystyried yn y lle cyntaf gan Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'u cymeradwyo gan yr ALl cyn bwrw ymlaen.

 

Adran 10

Yswiriant

Caiff arian ar gyfer yswiriant ei gadw gan yr ALl.

 

Adran 11

Amrywiol

11.1    Atebolrwydd Llywodraethwyr

O fewn telerau A50 (7) o'r Ddeddf, ni fydd llywodraethwyr yn ysgwyddo atebolrwydd personol wrth arfer eu pŵer i wario cyfran ddirprwyedig yr ysgol o'r gyllideb ar yr amod y byddant yn gweithredu'n ddidwyll.

11.2    Treuliau Llywodraethwyr

Mae Atodlen 11 y Ddeddf yn pennu mai dim ond lwfansau a bennir mewn rheoliadau y gellir eu talu i lywodraethwyr o gyfran ysgol o'r gyllideb ac ni ddylid talu unrhyw lwfansau eraill (gweler AI.14 hefyd sy'n trafod y gweithdrefnau ar gyfer talu treuliau llywodraethwyr).

Gall yr ALl ddirprwyo cyllid i dalu treuliau llywodraethwyr i ysgol sydd heb dderbyn cyllideb ddirprwyedig e.

Ni chaniateir dyblygu treuliau a delir gan yr Ysgrifennydd Gwladol i lywodraethwyr ychwanegol a benodir ganddo i ysgolion y mae arnynt angen mesurau arbennig.

11.3    Cyfrifoldeb am Gostau Cyfreithiol

Gweler paragraff 6(x). Cyhoeddir cyngor ar wahân ar y weithdrefn y dylai ysgolion ei dilyn wrth gael cyngor cyfreithiol pan fydd gwrthdaro rhwng yr Awdurdod a'r corff llywodraethu ac ni fydd yr ysgol wedi talu am CLG Gwasanaethau Cyfreithiol yr ALl. Efallai y caniateir i gyrff llywodraethu ddefnyddio eu cyllidebau dirprwyedig i ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol os bydd gwrthdaro buddiannau rhwng yr ysgol a'r ALl.

11.4    Iechyd a Diogelwch

Wrth wario cyfran ysgolion o'r gyllideb, mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu roi sylw dyledus i ddyletswyddau a roddir ar yr ALl mewn perthynas ag iechyd a diogelwch, a pholisi'r Awdurdod ar faterion iechyd a diogelwch wrth reoli cyfran ysgolion o'r gyllideb.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn gweithio i ddatblygu canllawiau manwl ar gyfer ysgolion. Yn y cyfamser, gall Awdurdodau Lleol (o dan adran 30 (3) o'r Ddeddf) roi cyfarwyddiadau i gorff llywodraethu a phennaeth ysgol gymunedol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir ar faterion iechyd a diogelwch. Yn achos cyrff llywodraethu, os na chydymffurfir â'r cyfarwyddiadau hyn, gellir eu gorfodi o dan Adran 497 Deddf Addysg 1996.

11.5    Hawl Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol i fod yn Bresennol

Mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu ganiatáu i Bennaeth Gwasanaethau Ariannol yr Awdurdod neu unrhyw un o swyddogion yr Awdurdod a enwebir gan Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol ddod i'w cyfarfodydd os bydd eitemau sy'n ymwneud â chyfrifoldebau'r swyddog yn cael eu trafod. Bydd yr ALl yn rhoi rhybudd ymlaen llaw pan fydd swyddog yn mynychu cyfarfodydd o'r fath, oni bydd hi'n anymarferol gwneud hynny.

11.6    Dirprwyo i Ysgolion Newydd

Mae gan yr Awdurdod y pŵer i ddirprwyo'n ddetholus ac yn ddewisol i gyrff llywodraethu ysgolion sydd heb dderbyn cyllidebau dirprwyedig hyd yn hyn.

11.7    Gwario Cyfran o'r Gyllideb i Sicrhau AAA

Mae'n ofynnol i ysgolion wneud eu gorau glas i wario'u cyfran o'r gyllideb i sicrhau AAA. Mae hwn yn ofyniad statudol a gellir atal dirprwyo arian dros dro os bydd sefyllfa yn ddigon difrifol i gyfiawnhau hynny.

11.8    Chwythu'r Chwiban

Dylid ymateb i gwynion gan bobl sy'n gweithio mewn ysgol neu gan lywodraethwyr ysgol ynghylch rheolaeth ariannol neu briodoldeb ariannol yn yr ysgol trwy Ran 5 (Codau a Phrotocolau) Cyfansoddiad y Cyngor.

11.9    Amddiffyn Plant

Mae angen rhyddhau staff i fynd i gynadleddau ynghylch achosion amddiffyn plant.

11.10 Prydau Ysgol

Mae gan yr Awdurdod bolisi 'dim dyled' mewn perthynas â phrydau ysgol.

11.11 Cyfleusterau cymunedol

Mae gan gyrff llywodraethu y pŵer i ddarparu cyfleusterau neu wasanaethau y mae eu darpariaeth yn hybu unrhyw bwrpas elusennol er budd disgyblion / teuluoedd yn yr ysgol neu bobl sy'n byw neu'n gweithio yn yr ardal. Fel rhan o'r pŵer hwn, gall y corff llywodraethu fynd i gostau, ymrwymo i drefniadau/cytundebau, a darparu staff/nwyddau/gwasanaethau/adeiladau i unrhyw unigolyn. Gall cyrff llywodraeth godi tâl am unrhyw wasanaethau/cyfleusterau a ddarperir. Mae hyn oll yn rhwym wrth offerynnau llywodraeth statudol yr ysgol ac mae angen i'r ysgol ymgynghori â'r ALl, staff a rhieni (a disgyblion os yw hynny'n berthnasol).

11.12 Pensiynau Athrawon

Mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu ddarparu adroddiadau a gwybodaeth at ddibenion pensiynau athrawon.

 

Adran 12

Cyfrifoldeb am Atgyweirio a Chynnal a Chadw

12.1    Bydd yr Awdurdod yn dirprwyo cyllid ar gyfer atgyweiriadau a chynnal a chadw i ysgolion. Mae ysgolion yn gyfrifol am unrhyw dir dan reolaeth yr ysgol o fewn ei ffiniau. Y diffiniad o gyfalaf yw'r un a ddefnyddir gan yr Awdurdod at ddibenion cyfrifyddu ariannol yn unol â Chod Ymarfer CIPFA ar gyfrifyddu gan awdurdodau lleol. Yn benodol, pan fydd yr Awdurdod, yn unol â'r Cod Ymarfer, yn defnyddio terfynau de minimis er mwyn diffinio pa wariant sy'n cael ei drin fel cyfalaf a beth yw refeniw, defnyddir yr un terfynau wrth ddiffinio'r hyn a ddirprwyir.

12.2    Dangosir y rhaniad cyfrifoldeb gwariant yn 'Is-adran Cyfrifoldebau Cynnal a Chadw Refeniw' yr ALl, ac mae hyn yn nodi'r categorïau gwaith y mae'n rhaid i gyrff llywodraethu ddisgwyl eu hariannu o'u cyfrannau o'r gyllideb. Mae'r llawlyfr hwn yn cynnwys cyfeiriad at gyfrifoldeb llywodraethwyr ysgolion gwirfoddol a reolir. Gall llywodraethwyr ysgolion gwirfoddol a reolir barhau i fod yn gymwys i gael grant gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'u dyletswyddau statudol ynghylch adeiladau a mangreoedd. Yn ogystal, byddant yn gyfrifol am eitemau atgyweirio a chynnal a chadw eraill ar yr un sail â chategorïau eraill o ysgolion.

12.3    Efallai bydd yr Awdurdod yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion baratoi a chyflwyno cynlluniau cynnal a chadw blynyddol. Mae'r Awdurdod hefyd wedi llunio Cynllun Rheoli Asedau Addysg.

12.4    Mae'n rhaid cadw at Reolau Sefydlog yr Awdurdod ynghylch contractau, yn enwedig mewn perthynas â'r gwahoddiad i dendro, cyflwyno tendrau a dyfarnu contractau. Gweler paragraff 2.10 am ragor o wybodaeth.

 

Atodiad 1
Ysgolion a Gynhelir gan yr ALl

y mae'r Cynllun i Ariannu Ysgolion yn Gymwys Iddynt (ar 1 Ebrill 2023)

Ysgolion Cynradd

Gellifedw
Llandeilo Ferwallt
Blaenymaes
Brynhyfryd
Brynmill
Burlais
Cadle
Casllwchwr
Cilâ
Y Clâs
Clwyd
Clydach
Craigfelen
Y Crwys
Cwmglas
Cwmrhydyceirw
Danygraig
Dynfant
Gendros
Glais
Glyncollen
Y Gors
Gorseinon
Tre-gŵyr
Y Grange
Gwyrosydd
Yr Hafod
Hendrefoelan
Knelston
Llangyfelach
Llanrhidian
Mayals
Treforys
Newton
Ystumllwynarth
Parcdir
Pen y Fro
Penclawdd
Pengelli
Penllergaer
Pennard
Pentrechwyth
Pentre'r Graig
Penyrheol
Plasmarl
Pontarddulais
Pontlliw
Pontybrenin
Portmead
Sea View
Sgeti
San Helen
St Thomas
Talycopa
Heol Teras
Townhill
Y Trallwn
Tre Uchaf
Waun Wen
Waunarlwydd
Y Garreg Wen
Ynystawe

Ysgolion Cynradd Cymraeg

Y.G.G. Bryniago
Y.G.G. Bryn-y-Môr
Y.G. y Cwm
Y.G.G. Llwynderw
Y.G.G. Gellionnen
Y.G.G. Lôn-las
Y.G.G. Pontybrenin
Y.G.G. Tan-y-lan
Y.G.G. Tirdeunaw
Y.G.G. Y Login Fach

 

Ysgolion Cynradd Gwirfoddol a Gynhelir

Ysgol Eglwys Crist (yr Eglwys yng Nghymru)
Ysgol Gatholig Dewi Sant
Ysgol Gatholig Sant Illtyd
Ysgol Cadeirlan Sant Joseff
Ysgol Gatholig Sant Joseff

Ysgolion Cyfun

Gellifedw
Yr Esgob Gore
Llandeilo Ferwallt
Cefn Hengoed
Dylan Thomas
Tregŵyr
Treforys
Yr Olchfa
Pentrehafod
Penyrheol
Pontarddulais

 

Ysgolion Cyfun Cymraeg

Ysgol Gyfun Gŵyr
Ysgol Bryn Tawe

 

Ysgol Gyfun Wirfoddol a Gynhelir

Ysgol Gatholig Esgob Vaughan

 

Ysgolion Arbennig

Penybryn (yn cynnwys Uned Awtistiaeth Maytree)
Ysgol Crug Glas

 

Atodiad 2
Egwyddorion Gwerth Gorau

 

1.        Egwyddorion gwerth gorau yw'r rhai y mae rheidrwydd ar awdurdodau lleol eu sicrhau i bobl leol, fel trethdalwyr ac fel cwsmeriaid gwasanaethau awdurdodau lleol. Dylai cynlluniau perfformiad gefnogi'r broses o atebolrwydd lleol i'r etholwyr.

 

2.        Mae sicrhau'r gwerth gorau nid yn unig yn ymwneud ag economi ac effeithlonrwydd, ond hefyd ag effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaethau lleol - dylai gosod targedau a pherfformiad yn erbyn y rhain felly fod yn sail i'r drefn.

 

3.        Dylai'r ddyletswydd fod yn berthnasol i ystod ehangach o wasanaethau na'r rhai a gwmpesid yn flaenorol gan CCT. Bydd y manylion yn cael eu llunio ar y cyd ag Adrannau, Swyddfa Archwilio Cymru a CLlLC.

 

4.        Nid oes unrhyw ofyniad cyffredinol i gynghorau roi eu gwasanaethau allan i dendr, ond nid oes unrhyw reswm pam y dylid darparu gwasanaethau yn uniongyrchol os oes dulliau mwy effeithlon eraill ar gael. Yr hyn sy'n bwysig yw'r hyn sy'n llwyddo.

 

5.        Bydd cystadleuaeth yn parhau i fod yn offeryn rheoli pwysig, yn brawf o'r gwerth gorau ac yn nodwedd bwysig mewn cynlluniau perfformiad. Ond nid hwn fydd yr unig offeryn rheoli ac nid yw ynddo'i hun yn ddigon i ddangos bod gwerth gorau yn cael ei gyflawni.

 

6.        Bydd llywodraeth ganolog yn parhau i osod y fframwaith sylfaenol ar gyfer darparu gwasanaethau, a fydd, mewn rhai meysydd, fel nawr, yn cynnwys safonau cenedlaethol.

 

7.        Dylai targedau lleol manwl roi sylw i unrhyw dargedau cenedlaethol, ac i ddangosyddion perfformiad a thargedau a osodir gan y Comisiwn Archwilio er mwyn cefnogi cystadleuaeth gymharol rhwng awdurdodau a grwpiau o awdurdodau.

 

8.        Dylai targedau cenedlaethol a lleol gael eu llunio ar sail y wybodaeth berfformiad sydd ei hangen ar reolwyr da beth bynnag

Close Dewis iaith