Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg ddewisol yn y cartref - gwasanaethau sydd ar gael i blant a theuluoedd

Gall plentyn ADdC gael mynediad i wasanaethau cyffredinol megis Gyrfa Cymru, gwasanaethau Ieuenctid, Info-Nation, Gwasanaeth Cwnsela Exchange a gwasanaethau iechyd, sgrinio ac imiwneiddio o hyd.

Os bydd rhiant yn cysylltu â'r e-bost ADdC ar ElectiveHomeEducation@swansea.gov.uk gellir rhoi gwybod iddynt sut i gael gafael ar wybodaeth a chefnogaeth ar yr uchod a gwasanaethau cefnogi eraill sy'n benodol i anghenion y teulu.

Rhwydweithiau cefnogi

Yn Abertawe, mae cymuned Addysg Ddewisol yn y Cartref fywiog lle gall rhieni gael cefnogaeth. Gall hyn fod yn gymorth gwerthfawr iawn i rieni wrth roi cyngor, arweiniad a hyd yn oed ysbrydoliaeth wrth iddynt gychwyn ar eu rôl newydd. Ar ben pob dim, gallant gynnig profiadau dysgu, cyrsiau, ymweliadau etc pwysig er mwyn gwella darpariaeth addysg yn y cartref i'r plant a'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan. Gall y grwpiau hefyd gynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc feithrin cyfeillgarwch â theuluoedd eraill. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i deuluoedd sydd wedi gwneud y penderfyniad i addysgu yn y cartref yn ddiweddar ac sydd angen cefnogaeth er mwyn sicrhau eu bod yn cynnig addysg effeithlon ac addas i'w plentyn.

Gellir cael gwybodaeth yn: Addysgwyr Cartref Abertawe/facebook

Mae gwybodaeth am addysg Ddewisol yn y Cartref hefyd ar gael yn:

 

Adnoddau addysgu gartref am ddim:

 

Iechyd a lles emosiynol

 

Diogelwch ar-lein

Close Dewis iaith