Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyrsiau hyfforddiant i weithwyr y sector gofal plant a gofalwyr

Cyrsiau ar gael i'r rhai sy'n gweithio yn y sector gofal plant.

Mae cyrsiau ar gael am ddim i'r grwpiau o bobl ganlynol. Mae gan dudalen pob cwrs barth o'r enw 'pwy all ddod' er eglurder.

  • Staff amlasiantaeth a darparwyr a gomisiynwyd.
  • Staff mewnol a gweithwyr cymdeithasol plant.
  • Gofalwyr maeth prif ffrwd (a rhwydwaith cefnogi estynedig gofalwr os yw hyfforddiant wedi'i nodi fel angen).
  • Gofalwyr sy'n aelodau o'r teulu neu'n ffrindiau/berthnasau (a rhwydwaith cefnogi estynedig gofalwr os yw hyfforddiant wedi'i nodi fel angen).
  • Gofalwyr â gorchymyn gwarcheidwaeth arbennig.
  • Mabwysiadwyr â gweithiwr cymdeithasol neilltuedig.
  • Gweithwyr preswyl gofal plant mewnol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Staff sydd wedi cofrestru ar gyfer cymhwyster FfCCh sy'n berthnasol i'w swydd.

Hyfforddiant amddiffyn plant / ymwybyddiaeth diogelu - lefel 2 (amlasiantaeth)

Mae'r cwrs undydd hwn yn hanfodol (ac yn hyfforddiant sy'n orfodol mewn rhai lleoliadau) ar gyfer unrhyw un y mae ei waith yn golygu y daw i gysylltiad â phlant drwy amryw rolau.

Straen a hunanofal

Mae'r sesiynau hyn yn cynnwys ymarferion ymlacio.

Oedolyn priodol

Nod y cwrs hwn yw sicrhau gwell dealltwriaeth o rôl oedolyn priodol.
Close Dewis iaith