Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Nam ar y golwg

Gwybodaeth i bobl sy'n ddall, rhannol ddall neu'n colli eu golwg.

Mae problemau sy'n deillio o nam ar y golwg i'w cael ar sawl ffurf gydag effeithiau gwahanol iawn. Y cyflyrau mwyaf cyffredin yw cataractau, glawcoma a dirywio mannog.

Gall nam ar y golwg gynnwys dallineb, golwg rhannol a golwg gwael.

Mae gan Wasanaethau Cymdeithasol Abertawe Dîm Gwasanaethau Synhwyraidd sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal sy'n cefnogi pobl sydd wedi colli golwg. Gall ddarparu amrywiaeth o wybodaeth a chefnogaeth ymarferol.  Efallai y cewch eich cyfeirio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol gan y Clinig Llygaid yn Ysbyty Singleton neu gallwch gyfeirio'ch hunan neu rywun rydych yn pryderu amdano drwy gysylltu â Thîm Gwasanaethau Synhwyraidd.

 

Gall y Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd gynnig cyngor a gwybodaeth ynghylch:

Mae gennym ganolfan adnoddau sy'n cynnwys cyfarpar i bobl â nam synhwyraidd gan roi cyfle i dreialu cyfarpar i asesu ei addasrwydd cyn ei brynu gan ddarparwyr.

Yn dibynnu ar eich anghenion, mae'n bosibl y gall y Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu gwasanaethau eraill. Gall y rhain ymwneud yn benodol â nam ar y golwg, neu ag anghenion eraill y gallai fod gennych y mae angen i chi gael cefnogaeth ar eu cyfer. Yn gyntaf, bydd rhaid i chi .

Cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd

 

Gwasanaethau Ailsefydlu i bobl â nam ar y golwg

Gellid cynnig y mathau canlynol o wasanaethau i bobl sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyster.

  • Ymwybyddiaeth o leoliad, teithio'n ddiogel ac yn annibynnol, sy'n cynnwys hyfforddiant a chyfarpar i'ch helpu i symud o amgylch eich cartref, i fynd i'r siopau lleol neu ymhellach.
  • Rhaglenni sgiliau byw'n annibynnol a fydd yn eich helpu i barhau i fod yn annibynnol mewn meysydd megis coginio, glanhau a gweithgareddau hamdden.
  • Hyfforddiant i gyfathrebu, a allai gynnwys amrywiaeth o fformatau hygyrch megis TG/ hyfforddiant teipio cyffwrdd, Braille, ymwybyddiaeth sylfaenol o gyfrifiaduron a'r defnydd o becynnau arbenigol. Y meini prawf ar gyfer yr hyfforddiant hwn yw eich bod mewn addysg neu gyflogaeth neu'n chwilio am gyflogaeth, yn siopa ar-lein neu'n cadw mewn cysylltiad â'ch teulu mewn amgylchiadau o ynysiad eithafol.
  • Hyfforddiant arbenigol i'ch helpu i ddefnyddio'ch golwg i'r graddau gorau posib.

Fel rhan o'ch asesiad, bydd y Swyddog Ailsefydlu'n trafod â chi sut y gallwch ddiwallu'r anghenion hynny, a phwy fydd yn darparu'r gwasanaeth a ble.

Bydd cyfyngiad amser ar y gwaith y byddwn yn ei wneud gyda chi. I'r rhan fwyaf o bobl mae hyn yn golygu ni fydd angen ein cefnogaeth arnoch unwaith i chi gyflawni eich nod penodol.

Cefnogaeth ar gyfer anghenion eraill

Gan ddibynnu ar eich anghenion a'ch cymhwyster unigol, gall y Gwasanaethau Cymdeithasol gynnig y mathau canlynol o gefnogaeth i chi:

 

Rôl yr optegydd a'r offthalmolegydd

Er mwyn darganfod unrhyw broblem bosib ar gam cynnar, mae'n bwysig mynd am brofion golwg rheolaidd. Os bydd eich optegydd yn darganfod problem gyda'ch llygaid a all fod yn broblem iechyd, bydd yn eich cyfeirio at eich meddyg teulu, offthalmolegydd (arbenigwr llygaid) mewn ysbyty lleol neu Optometrydd arbenigol a all gynnig cyngor a chyfarpar o dan y Cynllun Golwg Gwael.

Yn y Clinig Llygaid yn Ysbyty Singleton, mae Swyddog Cyswllt y Clinig Llygaid a all gynnig cefnogaeth a chyngor.

Gall offthalmolegydd gwblhau Tystysgrif Nam ar y Golwg (TNG) gan gategoreiddio eich cyflwr naill ai'n nam ar y golwg neu nam difrifol ar y golwg. Trwy lofnodi'r dystysgrif hon, byddwch wedi cytuno i gopïau ychwanegol gael eu hanfon at eich meddyg teulu a'r awdurdod lleol (y Gwasanaethau Cymdeithasol). Bydd hyn yn eich galluogi i gofrestru y nam ar eich golwg ar gofrestr yr awdurdod lleol ar gyfer pobl â nam ar y golwg, a gedwir yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014).

Cofrestru'n ddall neu â golwg rhannol

Er mwyn cofrestru'n ddall neu â golwg rhannol bydd angen i chi gael CVI (Tystysgrif Nam ar y Golwg) gan arbenigwr offthalmig.

Ydy cofrestru'n orfodol?

Nac ydy, mae gwneud cais i gofrestru'n ddall neu â golwg rhannol yn hollol wirfoddol. Drwy beidio â chofrestru, ni fydd mynediad i wasanaethau'n cael ei wrthod i chi.

Pam dylwn i gofrestru?

Mae'n haws i chi hygyrchu gwasanaethau a budd-daliadau penodol.

Mae hefyd yn caniatáu i'ch enw gael ei gynnwys ar y gofrestr sy'n cynorthwyo eich Awdurdod Lleol wrth gynllunio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.

Cofrestrwch eich bod yn colli'ch golwg gyda'r Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd

Cwestiynau cyffredin am gofrestru fel person anabl

Mae cofrestru fel person anabl yn ein helpu i sicrhau ein bod yn gwybod pwy allai elwa o'r gwasanaethau lleol sydd ar gael i hyrwyddo lles pobl anabl.

Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach

Rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig cyngor a chefnogaeth bellach i chi dros yr wythnosau nesaf.
Close Dewis iaith