
Rhoi gwybod am newid amgylchiadau a all effeithio ar eich gostyngiad Treth y Cyngor
Os ydych chi'n derbyn Gostyngiad Treth y Cyngor ac mae'ch amgylchiadau (neu amgylchiadau aelod o'ch aelwyd) yn newid, mae'n rhaid i chi gysylltu â ni ar unwaith gan y gall hyn effeithio ar eich hawl i'r gostyngiad. Dylech hefyd ddweud wrthym os bydd eich cyfeiriad yn newid.
Cliciwch yma i Dweud am newid mewn amgylchiadau ar-lein
Os nad ydych yn dweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau o fewn mis o'r newid, gallwch golli allan ar gynnydd yn eich budd-dal neu os bydd eich budd-dal yn lleihau, gallwch dderbyn gormod o arian y bydd rhaid i chi ei ad-dalu.
Pa newidiadau y dylwn i sôn wrthych amdanynt?
Dyma rhai enghreifftiau o newidiadau y dylech ddweud wrthym amdanynt. Os nad ydych yn siŵr a ddylech chi adrodd am newid neu beidio, cysylltwch â ni i wirio.
- Newid yn eich incwm neu incwm aelod o'r aelwyd, megis eich partner, plant, neu bobl eraill sy'n byw gyda chi.
- Rydych chi a/neu'ch partner yn derbyn Credyd Cynhwysol neu mae gennych hawl iddo
- Unrhyw newid i'ch dyfarniad Credyd Cynhwysol Os ydych chi, neu'ch partner neu aelod o'r aelwyd yn stopio derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (seiliedig ar incwm), Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth (cysylltiedig ag incwm) neu Gredyd Pensiwn (credyd gwarantedig).
- Os ydych chi, eich partner neu aelod o'ch aelwyd yn dechrau gweithio.
- Newid yn nifer y bobl sy'n byw gyda chi.
- Os ydych yn newid eich cyfeiriad.
- Os ewch i'r carchar.
- Os yw unrhyw un o'ch plant yn gadael ysgol.
- Os bydd cyfanswm eich taliadau gofal plant yn newid.
- Os byddwch yn byw oddi cartref am gyfnod dros dro e.e. os ewch i'r ysbyty neu ofal preswyl.
- Os byddwch yn penderfynu symud i gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio yn barhaol.
Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, mae angen i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau drwy ffonio'r Ganolfan Gwasanaethau Credyd Cynhwysol ar 0345 6000 723 neu 0845 6000 723. Yna byddant yn rhoi gwybod i ni am y newid i'ch Credyd Cynhwysol.
Cliciwch yma i Anfonwch eich copïau electronig o'ch dogfennau atom gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Gallwch argraffu'r ffurflenni hyn, eu cwblhau a'u dychwelyd atom fel tystiolaeth.
-
Darparu prawf o'ch enillion (PDF, 52KB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Self Employed Form WELSH (PDF, 90KB)Yn agor mewn ffenest newydd
I gael mwy o wybodaeth am sut mae hunangyflogaeth yn effeithio ar Gostyngiad Treth y Cyngor , ewch i'n tudalen gwybodaeth am hunangyflogaeth.
Os nad oes modd i chi ddarparu peth o'r dystiolaeth hon cysylltwch â ni a gallwn siarad am ffyrdd eraill i ni gael y prawf, efallai o ffynhonnell arall.