Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun benthyca sgwteri Olwynion i'r Gwaith

Ydych chi'n cael trafferth dod o hyd i gludiant i deithio i'r gwaith neu hyfforddiant? Oes rhaid i chi wrthod cyfle am swydd am nad ydych yn gallu cyrraedd yno?

Mae'r prosiect Olwynion i'r Gwaith yn gynllun benthyca sgwteri nid er elw i'r rhai nad oes ganddynt ffordd arall o gyrraedd neu gadw gwaith/hyfforddiant, oherwydd  diffyg  cludiant cyhoeddus ar yr adegau angenrheidiol na'u ludiant eu hunain.

Beth byddwch yn ei gael?

O £25 yr wythnos yn unig byddwch yn cael:

  • benthyca sgwter
  • hyfforddiant
  • helmed
  • treth
  • yswiriant
  • yswiriant cynnal a chadw a thorri i lawr.

Pwy all wneud cais?

Gallwch wneud cais i Olwynion i'r Gwaith:

  • os ydych rhwng 17-64 oed
  • os ydych yn byw yn ardal Awdurdod Lleol Abertawe
  • os ydych wedi cael cynnig swydd neu hyfforddiant neu eisoes yn eu cyflawni
  • os oes gennych le storio diogel yn eich cartref neu gerllaw iddo
  • os oes gennych gyfrif banc neu gyfwerth
  • os gallwch dalu blaendal o £100 y caiff rhan ohono ei ad-dalu os ydych yn dychwelyd y sgwter mewn cyflwr da
  • os oes gennych drwydded yrru dos dro/lawn.

Ffurflen glais moped Olwynion i'r Gwaith Abertawe (PDF) [352KB]

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch wheelstowork@swansea.gov.uk neu foniwch 01792 522982 / 522976.

 

Close Dewis iaith