Toglo gwelededd dewislen symudol

Lleoedd parcio i'r anabl ar hyd priffordd gyhoeddus

Os nad oes gennych ddreif, garej neu fan arall i barcio'ch car o fewn ffin eich eiddo, efallai y byddwn yn ystyried creu lle parcio i berson anabl.

Rhaid cael arolwg parcio sy'n cynnwys sawl ymweliad (o leiaf 4) ar ddiwrnodau gwahanol o'r wythnos ac ar amserau gwahanol y dydd i asesu lefel y parcio o fewn 25 metr ar y naill ochr a'r llall i eiddo'r ymgeisydd. Os bydd y lefel barcio'n uchel, ar gyfartaledd, yn ystod yr ymweliadau hyn, yna efallai y byddwn yn argymell lle ar y briffordd.

Ni fyddai lle ar y briffordd o flaen tŷ'r ymgeisydd yn cael ei ystyried dan yr amgylchiadau canlynol: 

  1. Mae gan yr ymgeisydd ddefnydd o gyfleusterau oddi ar y stryd, naill ai dreif neu garej er enghraifft, naill ai ar yr eiddo neu o fewn pellter 25 metr priodol.
  2. Nid yw'r ymgeisydd yn berchen ar yr eiddo ac mae'n eiddo a rentir oni ceir cymeradwyaeth ysgrifenedig gan berchennog neu landlord yr eiddo.
  3. Byddai cyflwyno'r lle parcio'n debygol o greu rhwystr ar y briffordd.
  4. Mae llinellau gwyn dwbl yng nghanol y ffordd.
  5. Mae llinellau melyn dwbl neu sengl ar hyd ymyl y palmant.
  6. Efallai y bydd yn peri anawsterau mynediad i breswylwyr lleol.
  7. Mae'r ffordd yn gul (rhaid i le parcio i'r anabl ar y briffordd fod o leiaf 2.7m o led a 6.6m o hyd).
  8. Mae'r lleoliad ar dro, gyferbyn â chyffordd neu ael bryn.
  9. Mae graddiant y ffordd yn rhy serth.

Mae polisi'r cyngor hefyd yn gofyn i LlPBA gael eu hystyried dim ond os yw'r ymgeisydd yn ddifrifol anabl, yn methu cerdded heb gymorth neu'n methu cerdded o gwbl. Caiff hyn ei gadarnhau drwy lythyr gan feddyg. Byddai angen llythyr gan feddyg pe bai'r holl amodau'n cael eu bodloni'n unig.

Pe bai'n cael ei gyflwyno, ni fyddai'r lle parcio ar eich cyfer chi'n unig, gallai unrhyw breswylydd â bathodyn glas ei ddefnyddio.

Cyflwyno cais am le parcio anabl ar y briffordd gyhoeddus

Llenwch y ffurflen gais hon os hoffech i ni ystyried creu lle parcio i berson anabl ar briffordd gyhoeddus.
Close Dewis iaith