Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Plant ar goll o'r system addysg

Os ydych yn meddwl bod plentyn a/neu berson ifanc ar goll o'r system addysg (mewn unrhyw ffordd o gwbl), rhowch wybod i'r adran addysg drwy gyfeirio'r plentyn.

Mae llawer o resymau pam y mae plant a phobl ifanc yn 'llithro drwy'r rhwyd' ac mewn perygl o 'fynd ar goll' o'r system addysg. Mae'r rhain yn amrywio o fethu â dechrau ysgol newydd neu ddarpariaeth addysg briodol, neu rywbeth mor syml â pheidio ag ailgofrestru mewn ysgol newydd wrth iddynt symud i'r sir. 

Mae Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr i roi trefniadau ar waith er mwyn nodi plant a phobl ifanc oedran ysgol gorfodol (rhwng 5 ac 16 oed) nad ydynt yn derbyn addysg yn eu hardaloedd. 

Os ydych yn meddwl bod plentyn a/neu berson ifanc ar goll o'r system addysg (mewn unrhyw ffordd o gwbl), rhowch wybod i'r adran addysg drwy gyfeirio'r plentyn.

Cyfeiriwch y plentyn nawr

Ni fydd yn rhaid i chi roi eich manylion personol (mae'r wybodaeth hon yn opsiynol ar y ffurflen) ond, os ydych yn rhoi'r manylion hyn, byddwn yn eu cadw'n hollol gyfrinachol ac ni fyddwn yn eu datgelu i unrhyw un heblaw swyddogion y Gyfarwyddiaeth Addysg sy'n gyfrifol am blant sydd ar goll o'r system addysg. Os oes gennych bryderon am les plentyn (e.e. wedi'i adael gartref trwy'r dydd), gallwch hefyd gysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Close Dewis iaith