Toglo gwelededd dewislen symudol

Pysgota

Llynnoedd, pyllau a chlybiau pysgota bras yn Abertawe.

Clybiau pysgota lleol

Clwb Pysgota Brynmill a'r Cylch (Yn agor ffenestr newydd)
Ysgrifennydd y clwb - Carl Tonner
01792 299281 (dim galwadau ar ôl 8.00pm os gwelwch yn dda)
carltonner@btinternet.com

Clwb Pysgota Abertawe
Ysgrifennydd y clwb - Simon Medicke
07836 319450
swanseaanglingclub@virginmedia.com

Clwb Pysgota Sgiwen
Ysgrifennydd - Mike Doyle
01792 423193
skewen.anglingclub@ntlworld.com

Cymdeithas Bysgota De Cymru
Ysgrifennydd y clwb - Samuel Matthews
07562 151668
southwalesfishingsociety@gmail.com

Ble i bysgota

Llyn y Fendrod

Mae Llyn y Fendrod yn ymestyn dros oddeutu 13 erw yng nghanol Parc Menter Abertawe. Mae'r dŵr yn cynnwys cerpynnod hyd at 29 pwys, nifer o ferfogiaid a merfogiaid bach, ysgretennod hyd at 6 phwys, rhufellod hyd at 2 bwys yn ogystal â byrbysgod, brwyniaid, orffiaid, pysgod garw a rhuddbysgod. Mae gan y llyn oddeutu 75 o begiau, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u concritio. Mae nifer bach ohonynt hefyd yn addas ar gyfer pobl ag anabledd.

Pyllau Half Round

Mae'r 2 lyn hyn yn ymestyn dros safle hanner erw tua 300 llath o Lyn y Fendrod. Fe'u lleolir y tu ôl i ganolfan arddio Dobbies ac mae maes parcio ar eu cyfer. Gellir cael mynediad iddo trwy ddefnyddio'r cylchfan bach ger swyddfa'r Bost Brenhinol. Mae'r dyfroedd yn cynnwys cerpynnod hyd at 26 pwys, ysgretennod hyd at 6 phwys a physgod garw, rhuddbysgod, merfogiaid, eurbysgod brown a rhufellod. Mae oddeutu 40 o begiau wedi'u concritio a gât ddiogelwch yno ar hyn o bryd, ond mae hi ar agor fel arfer yn ystod misoedd yr haf.

Mae Llyn y Fendrod a'r Pwll Half Round wedi'u trwyddedu i Glwb Pysgota Brynmill a'r Cylch (Yn agor ffenestr newydd).

Llyn Cychod Singleton

Fe'i lleolir ar ochr orllewinol Abertawe ger y brifysgol. Mae ganddo oddeutu 10-15 o begiau ac uchafswm dyfnder o 1.5m. Yn rhyfedd ddigon, mae cerpynnod hyd at 20 pwys yn byw yma ynghyd â merfogiaid ac ysgretennod hyd at 4 pwys a rhufellod. Ni chaniateir i bysgotwyr bysgota yma yn ystod misoedd yr haf pan fydd y cychod yno (fel arfer rhwng 10.00am a 6.00pm).

Y Clun

Pwll bach ger Blackpill, Abertawe, ar lwybr beicio Dyffryn Clun, gyda lle i oddeutu 8 o bysgotwyr. Dyfnder y dŵr yw 3m. Rhufellod yw'r prif fath o bysgodyn yma, ond mae rhai rhuddbysgod, ysgretennod a cherpynnod yno hefyd. Mae'n werth ymweld ag ef os oes gennych ychydig oriau'n rhydd yn unig.

Pwll Lilïau Singleton

Fe'i hadwaenir hefyd fel y Pwll Lilïau ac fe'i lleolir ar ochr ogledd-ddwyreiniol Parc Singleton. Lle i 4 pysgotwr yn unig sydd yma a rhoddir blaenoriaeth i bysgotwyr ifanc. Mae'n gartref i nifer da o ferfogiaid bach, rhuddbysgod, byrbysgod a cherpynnod. Gellir ei gyrraedd ar droed o fynedfaoedd y parc ar Lôn Brynmill neu Heol Sgeti.

Llyn Pluck

Mae'n agos at ddatblygiad Stadiwm Liberty ar ymyl y Parc Menter. Mae gan y llyn hwn oddeutu 18 o begiau ond mae'n llawn chwyn. Bydd angen i chi glirio'r pwll cyn ei ddefnyddio. Nid yw pobl yn pysgota yno'n aml ond mae merfogiaid mawr, ysgretennod a llyswennod ynddo i'r rhai sydd am weithio'n galed i ddod o hyd iddynt. Mewn gwirionedd, nid oes unrhyw un yn sicr o'r hyn sydd ynddo!

Caiff Clun, Singleton a Pluck eu rhedeg drwy Gymdeithas Bysgota De Cymru.

Close Dewis iaith