Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Rwyf wedi derbyn PCN (Hysbysiad o Dâl Cosb) - beth ddylwn i ei wneud nesaf?

Os ydych wedi cael PCN mae hyn oherwydd nad ydych wedi ufuddhau i gyfyngiad parcio. Bydd yr union reswm ar y PCN, ynghyd â rhif unigryw y bydd ei angen arnoch pan fyddwch yn talu neu'n apelio.

Y peth gwaethaf y gallwch ei wneud yw anwybyddu PCN - NI FYDD yn diflannu a bydd yn costio mwy i chi.

 

Terfynau amser pwysig

  • Os nad ydych yn talu neu'n herio'n anffurfiol o fewn 14 diwrnod byddwch yn dod yn atebol am ffi lawn y PCN (£70 neu £50), yn hytrach na chael gostyngiad o 50%.
  • Os nad ydych yn talu'r ffi  lawn (£70 neu £50) o fewn 28 niwrnod o dderbyn y PCN, anfonir hysbysiad i'r perchennog at y ceidwad cofrestredig a gofrestrir gyda'r DVLA.
  • Ar ôl 28 niwrnod o'r diwrnod y byddwch yn derbyn yr hysbysiad i'r perchennog, os nad ydych wedi talu neu wneud sylwadau ffurfiol yna anfonir tystysgrif tâl atoch a bydd y tâl cosb yn cynyddu 50% arall (£105 neu £75). Os ydych yn derbyn tystysgrif tâl mae'n rhaid i chi dalu'r tâl o fewn 14 diwrnod. Nid oes hawl herio ar y cam hwn.
  • Os nad ydych yn talu'r tâl o hyd, gellir ei gofrestru fel dyled yn y Llys Sirol ac eir ati i gasglu'r ddyled gan ddefnyddio beilïod. Bydd y beilïod yn codi tâl arnoch am hyn.

 

Opsiwn 1 - talu'r PCN

Talu PCN / dirwy barcio Talu PCN / dirwy barcio

Byddwch yn gymwys am ostyngiad o 50% os derbynnir y tâl ar gyfer y PCN o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad cyflwyno. Wedi i chi dalu'r PCN, rydych wedi derbyn atebolrwydd am y tâl cosb ac ni allwch herio'r PCN mwyach.

Bydd eich PCN yn dangos p'un a ydych yn gorfod talu £50 neu £70. Bydd hyn yn dibynnu ar ddifrifoldeb y tramgwydd:

Tramgwyddau mwy difrifol = £70 (wedi'i ostwng i £35 os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod)
Ceir hyn fel arfer pan ystyrier nad ydyw gyrrwr y cerbyd wedi cymryd unrhyw gamau i barcio'n gywir. Er enghraifft, lle mae'r cerbyd wedi'i barcio ar linellau melyn, mewn cilfan i'r anabl heb y drwydded sy'n ofynnol neu mewn safle bws.

Tramgwyddau llai difrifol = £50 (wedi'i ostwng i £25 os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod)
Ceir hyn pan fydd gyrrwr y cerbyd wedi gwneud ymgais i barcio'n gywir. Er enghraifft, lle mae'n arddangos tocyn talu a pharcio sydd wedi dod i ben am y dyddiad dan sylw.

Mae'r taliadau wedi'u pennu gan yr Adran Drafnidiaeth ac fe'u nodir gan y côd tramgwydd sy'n berthnasol i'r tâl cosb a roddwyd.Nid oes disgresiwn gan swyddogion gorfodi sifil wrth roi hysbysiad o gosb benodol i ddweud ai'r tâl uwch neu is fydd yn berthnasol.

 

Opsiwn 2 - Herio'r PCN

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi derbyn dirwy ar gam neu os oes gennych reswm da yr hoffech ddweud wrthym amdano, gallwch herio dirwy barcio. Cymerwch gip ar y canllaw i PCNau am resymau derbyniol i'w herio: Canllaw i PCNau

Os byddwch yn penderfynu herio dirwy parcio, yna ni ddylech ei thalu nes eich bod yn gwybod canlyniad eich apêl.

Er mwyn herio dirwy parcio, bydd angen:

  • y rhif PCN (er enghraifft WJ12345678)
  • rhif cofrestru'r cerbyd

Her anffurfiol

Gallwch herio dirwy parcio unrhyw bryd hyd at 28 niwrnod ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd y ddirwy. Fodd bynnag, os byddwch yn herio'ch dirwy o fewn 14 diwrnod o'i derbyn, dim ond y swm gostyngedig y byddwch yn ei dalu, hyd yn oed os bydd eich her yn aflwyddiannus.

Cyflwyno her anffurfiol Herio PCN

Sylwadau ffurfiol

Gallwch wneud sylwadau ffurfiol os:

  • gwrthodwyd eich her anffurfiol a hoffech apelio yn erbyn y penderfyniad hwn, neu
  • nad ydych wedi talu'r PCN ar ôl 28 niwrnod ac rydych yn derbyn 'hysbysiad i'r perchennog'
    • bydd gennych 28 niwrnod pellach o'r dyddiad ar yr 'hysbysiad i'r perchennog' i wneud sylwadau ffurfiol
    • bydd arnoch angen y côd gwe a argraffwyd ar eich llythyr 'hysbysiad i'r perchennog', eich cyfeirnod WJ a rhif cofrestru'ch cerbyd

Nid oes angen i chi gyflwyno her anffurfiol er mwyn gwneud sylwadau ffurfiol.

Gwneud sylwadau ffurfiol Herio PCN

Os gwrthodir eich sylwadau ffurfiol, byddwn yn eich hysbysu am hyn drwy lythyr. Bydd y llythyr hwn hefyd yn dweud wrthych sut y gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad hwn. Bydd yr apêl yn cael ei thrin gan y Tribiwnlys Cosbau Traffig (Yn agor ffenestr newydd) a bydd eu penderfyniad yn derfynol.

Ffyrdd eraill o herio'ch dirwy

Drwy'r post

Ysgrifennwch atom yn: Gwasanaethau Parcio, Blwch Post 588, Abertawe SA1 9GD

Bydd angen i chi ddyfynnu'r rhif o'ch dirwy, a fydd yn dechrau gyda WJ. Bydd angen i chi hefyd nodi'n glir y rhesymau pam eich bod am herio'r ddirwy.

Os oes angen help arnoch gyda hyn, gallwch ffonio 01792 636000.

Ni allwch herio dirwy barcio dros y ffôn neu yn bersonol. Rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig.

 

Rheswm am y PCN

Mae côd tramgwydd yn ymddangos ar y PCN a roddwyd ar eich cerbyd. Mae'r côd hwn yn dweud wrth y gyrrwr neu'r perchennog pam y cyflwynwyd y tocyn:

Canllaw i PCNau Canllaw i PCNau

 

Cael cyngor annibynnol

Os ydych chi eisiau cyngor annibynnol ar sut i ddelio â'ch PCN, ewch i: Cyd-bwyllgor Rheoliadau Parcio a Thraffig y Tu Allan i Lundain (PATROL) (Yn agor ffenestr newydd)

Close Dewis iaith