Toglo gwelededd dewislen symudol

Wind Street

Mae Wind Street, lleoliad allweddol yng nghanol y ddinas, yn derbyn gwelliannau gwerth £3m.

Bydd y gwelliannau'n helpu i ddod â mwynhad newydd i'r cyhoedd a rhagor o fusnes i'r rheini sy'n marchnata yno. 

Ar hyn o bryd mae'r stryd wrth wraidd economi nos y ddinas, ond bydd yn newid yn gyrchfan trwy'r dydd a fydd yn  cynnig mwy o gyfleoedd i gael hwyl fel teulu, i fwyta ac i gwrdd am goffi. 

Bydd yn chwarae rôl allweddol yn stori adfywio ehangach canol y ddinas gwerth £1bn. 

Y nod yw cyfyngu'r traffig ar Wind Street i nifer cyfyngedig o oriau bob dydd, a hynny ar gyfer llwytho yn unig. Mae gorchymyn traffig arbrofol sy'n adlewyrchu hyn ar waith ar hyn o bryd. Bydd yn parhau i fod yn system draffig unffordd. 

Rydym am i fwytai, bariau a chaffis gynnig cyfleoedd i chi gwrdd a chymdeithasu mewn ardaloedd awyr agored yn ogystal ag ardaloedd dan do. Bydd gan y stryd ardal wastad sy'n addas i ddefnyddwyr anabl a cherddwyr. 

Mae'r goleuadau'n cael eu gwella, bydd coed newydd ac ardaloedd wedi'u plannu, rhagor o leoedd i eistedd ac ymlacio, a bydd mwy o olau naturiol yn cyrraedd y stryd fel y gallwch fwynhau adeiladau arbennig yr ardal gadwraeth hon. Caiff bioamrywiaeth ei gwella.

Y nod yn y pen draw yw creu cyrchfan i deuluoedd sy'n groesawgar, yn ddiogel ac yn bleserus i ymwelwyr a busnesau wrth hefyd gydnabod anghenion a dymuniadau preswylwyr o bob gallu. 

Bydd:

  • mwy o bwyslais ar flaenoriaethu cerddwyr i gefnogi busnesau yn ystod y dydd a chyda'r nos;
  • mwy o droedffyrdd, gyda'r cyfan ar un lefel a gwelliannau i'r troedffordd a'r ffordd gerbydau;
  • goleuadau cyhoeddus newydd, goleuadau bach newydd yn y coed, celfi stryd a mwy o isadeiledd gwyrdd;
  • mwy o ardaloedd eistedd i greu awyrgylch sy'n fwy addas i deuluoedd.

Sut bydd yn edrych

Map cynigion Wind Street ac argraffiadau arlunydd (PDF) [3MB]

Cynllun palmant a chelfi stryd Wind Street (PDF) [2MB]
*Caiff y celfi stryd arfaethedig eu gosod yn unol â llinell y coed sydd eisoes yn bodoli

Rhaglen tirlunio a chelfi stryd Wind Street (gall hyn newid) (PDF) [1MB]

Opsiynau caffi stryd ar gyfer busnesau ar Wind Street (PDF) [1017KB]

 
 
 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch windstreet@abertawe.gov.uk

Ariennir y cynllun yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Cwestiynau cyffredin am Wind Street

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am Wind Street.
Close Dewis iaith