Rôl yr awdurdod lleol
Mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol am ddarparu arweiniad i ysgolion a lleoliadau addysg eraill am eu dyletswyddau statudol i hybu safonau addysg uchel i'r holl blant.
Cyfrifoldebau allweddol
Mae gan yr awdurdod lleol rol a chyfrifoldeb hanfodol sydd wedi'u cysylltu a'r canlynol:
- Adolygu'n barhaus y trefniadau mae'n ei wneud i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol yr holl blant a phobl ifanc.
- Sicrhau y gwneir darpariaeth addas i blant ag anghenion dysgu ychwanegol y mae angen addysg arnynt mewn lleoliad heblaw ystafell ddosbarth brif ffrwd.
- Gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol ac asiantaethau statudol, gwirfoddol a phreifat priodol eraill wrth sicrhau darpariaeth addas i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
- Ystyried unrhyw reoliadau a chanllawiau a luniwyd gan Lywodraeth Cymru a darparu arweiniad addas i ysgolion a rhieni ar sut y dylid rhoi arferion a gweithdrefnau ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol ar waith.
Partneriaeth rhieni
Mae gan bob awdurdod lleol ddyletswydd statudol i ddarparu Gwasanaethau Partneriaeth Rhieni, ond nid oes rhaid iddynt ddarparu'r gwasanaeth eu hunain. Dylai rhieni ac ysgolion dderbyn gwybodaeth glir am wasanaethau a darparwyr (gan gynnwys, lle bo'n briodol, gyfranogaeth grwpiau gwirfoddol). Efallai bydd yr awdurdodau lleol am ddatblygu trefniadau ymgynghori a sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cefnogi rhieni i sicrhau eu bod yn ymwybodol o bolisiau a gweithdrefnau lleol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Dylid dweud wrthynt y gall grwpiau gwirfoddol gyfrannu'n gadarnhaol at ddatblygiad polisiau a gweithdrefnau a'u hadolygu. Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb ar gyfer darparu ystod eang o wybodaeth i rieni. Dylai awdurdodau lleol hysbysu rhieni hefyd o unrhyw gyfrifoldebau sydd gan ysgolion o ran cyhoeddi polisiau sy'n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol.