Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae gan bob ysgol Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cydlynydd ADY) sy'n chwarae rol allweddol yn y polisi a'r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Dyma wybodaeth am sut mae'r Cydlynydd ADY yn cynghori ac yn cefnogi aelodau staff eraill.

Mae gan Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol dynodedig yr ysgol, wrth weithio'n agos gyda chyd-staff yn yr ysgol, rol bwysig wrth weithredu polisi'r ysgol ar ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol o ddydd i ddydd ac wrth oruchwylio'r ddarpariaeth i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol.

Dylai 'Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol' ysgol fod yn gyfrifol am:

  • Oruchwylio polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol o ddydd i ddydd a chyd-gysylltu a chyd-staff yr ysgol a'u cynghori.
  • Cydlynu'r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol.
  • Cynnal cofrestr anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol a goruchwylio cofnodion y disgyblion sy'n derbyn darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol.
  • Goruchwylio'r cyswllt a rhieni disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Cyfrannu at ddatblygiad proffesiynol cyd-staff yr ysgol ar feysydd priodol y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol.
  • Cysylltu a gwasanaethau cefnogaeth allanol priodol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Mai 2021