Meithrin perthnasoedd â gweithwyr proffesiynol
Mae partneriaethau cryf rhwng rieni a gweithwyr proffesiynol yn hanfodol i hybu datblygiad plentyn.
Dylai athrawon a rhieni wneud pob ymdrech i feithrin perthynas dda a'i gilydd.
Dyma'r elfennau allweddol ar gyfer meithrin perthnasoedd iach:
- Angen i'r holl gamau eraill yn y bartneriaeth weithio gyda'i gilydd.
- Dod i adnabod ei gilydd.
- Dod i wybod dyheadau rhieni/athrawon.
- Cytuno i weithio gyda'i gilydd.
- Sefydlu ymddiriedaeth go iawn i alluogi didwylledd a her.
- Athrawon yn meithrin hunan-barch a hyder rhieni. Rhieni'n dangos hyder yn athro/ysgol eu plentyn.
Dylai athrawon egluro'r canlyniadau a fwriedir ar gyfer eu plentyn a dylai fod ganddynt ganlyniadau bwriadedig CAMPUS (cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol, synhwyrol).
Dylai athrawon hefyd:
- Ragfynegi unrhyw rwystrau posib a pharatoi ar eu cyfer.
- Pennu dyddiad ar gyfer adolygu cynnydd eich plentyn.
- Nodi'r cytundeb mewn Cynllun Gweithredu ar gyfer y plentyn.
- Cefnogi'r rhieni yn eu rol (e.e. anogaeth, clod a rhoi adborth). Dylai rhieni ac athrawon gytuno ar ddull i adolygu cynnydd:
- Dylai rhieni ac athrawon unigol gwrdd i werthuso'r cynnydd o ran y camau gweithredu cytunedig a'r canlyniadau a fwriedir.
- Dylai athrawon gydnabod cyfraniad y rhiant.
- Dylid dod i gytundeb o ran pa anghenion y mae'n rhaid eu diwallu o hyd.
- Adolygu'r camau gweithredu cytunedig a'r canlyniadau a fwriedir fel y bo'n briodol.
- Pennu dyddiad newydd ar gyfer adolygu cynnydd.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 20 Mai 2021