Toglo gwelededd dewislen symudol

Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau/Gorsafoedd Pleidleisio 2023

Gwybodaeth ynglyn a adolygiadau Cyfredol.

Rheswm dros yr Adolygiad

O dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, Deddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006 ac Adolygiad o Reoliadau Dosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio (Etholiadau Seneddol) 2006, mae dyletswydd ar Ddinas a Sir Abertawe i rannu'r ardal yn ddosbarthiadau etholiadol a dynodi man pleidleisio ar gyfer pob dosbarth etholiadol. Mae'n rhaid i'r cyngor hefyd adolygu'r trefniadau hyn yn gyson.

Er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth uchod, mae'n ofynnol i Ddinas a Sir Abertawe gwblhau adolygiad llawn o'r holl ddosbarthiadau etholiadol a'r holl fannau pleidleisio bob pum mlynedd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn atal gwneud newidiadau ar unrhyw adeg cyn yr adolygiad nesaf.

Defnyddir y trefniadau a wneir ar gyfer etholiadau seneddol y Deyrnas Unedig hefyd yn yr holl etholiadau a refferenda eraill.

Beth yw Dosbarth Etholiadol?

Ardal ddaearyddol yw dosbarth etholiadol ac mae'r ddeddfwriaeth yn gofyn i bob cymuned fod yn ddosbarth etholiadol ar wahân. Os yw'r gymuned yn fawr, ac er mwyn darparu mynediad hawdd, gellir rhannu'r gymuned yn ddosbarthiadau etholiadol llai o bosib.

Beth yw Man Pleidleisio?

Ardal ddaearyddol lle ceir gorsaf bleidleisio yw 'Man Pleidleisio'. Nid oes diffiniad cyfreithiol ar gyfer man pleidleisio. Gellir diffinio'r ardal ddaearyddol mor gyfyng ag adeilad penodol neu mor eang â'r dosbarth etholiadol cyfan.

Mae Dinas a Sir Abertawe wedi diffinio pob dosbarth etholiadol fel y man pleidleisio yn hytrach nag adeilad penodol at ddibenion ymarferol.

Beth yw Gorsaf Bleidleisio?

Yr ardal lle cynhelir y broses bleidleisio yw'r orsaf bleidleisio, e.e. ystafell mewn canolfan gymunedol neu ysgol.

Sut y cynhelir yr adolygiad

Bydd Dinas a Sir Abertawe'n hysbysu ynghylch pryd y cynhelir yr adolygiad.

Ymgynghorir â'r Swyddog Canlyniadau ar y trefniadau presennol a bydd yn cyflwyno sylwadau am y gorsafoedd pleidleisio presennol a ddefnyddir.

Beth nad yw'r adolygiad yn ei gynnwys?

Ni fydd y broses adolygu'n cynnwys ffiniau etholaethau'r Senedd DU/Senedd Cymru na ffiniau nac enw'r awdurdod lleol na'i wardiau etholiadol.


Amserlen yr Adolygiad

Cyhoeddi Sylwadau Cychwyn Adolygu a Swyddogion Canlyniadau

8 Tachwedd 2023

Dechrau cyfnod ymgynghori cyhoeddus

8 Tachwedd 2023

Sylwadau i'w derbyn gan

20 Rhagfyr 2023

Y Cyngor Llawn yn ystyried y cynigion terfynol

25 Ionawr 2024

Hysbysiad o Gasgliad o Adolygiad

26 Ionawr 2024

Trefniadau diwygiedig yn dod i rym

1 Chwefror 2024

 

Cyflwyno Sylwadau

Nid oes angen cyfyngu sylwadau i gynigion amgen; croesewir hefyd gefnogaeth ar gyfer y trefniadau cyfredol.

Pan fyddwch yn cyflwyno sylwadau, byddai'n ddefnyddiol i Ddinas a Sir Abertawe pe baech yn darparu cymaint o wybodaeth berthnasol ag y gallwch am eich man neu'ch gorsaf bleidleisio bresennol, gan gynnwys pa mor gyfleus (neu anghyfleus) yw'r lleoliad mewn perthynas â'ch cyfeiriad, a oes parcio digonol, pa fynediad sydd ar gael i'r anabl/ddefnyddwyr cadair olwyn a pha mor addas ydyw ar y cyfan ar gyfer pleidleisio. 

Nodwch hefyd a oes unrhyw fangre addas arall y gellid ei defnyddio.

Dylech gyflwyno sylwadau'n ysgrifenedig i'r canlynol:

Gwasanaethau Etholiadol
Dinas a Sir Abertawe
Neuadd y Ddinas
Abertawe
SA1 4PE
Fel arall, gallwch e-bostio etholiadau@abertawe.gov.uk neu ffurflen ar-lein dim hwyrach na 20 Rhagfyr 2023

Hysbysiad Cychwyn, Adolygiad Ardal Bleidleisio 2023

Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 Adrannau 18a; 18b; Ac 18c
Close Dewis iaith