Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Arolwg Seneddol 2023 - Cynigion Diwygiedig

Cynhelir Arolwg 2023 o Etholaethau Seneddol yn unol â Deddf Etholaethau Seneddol 1986 (fel y'i diwigiwyd).

Mae Rheolau'r Ddeddf yn pennu nifer yr etholaethau i'w darparu i Gymru ar gyfer Etholiad Seneddol San Steffan 2024. Mae hefyd yn nodi y dylai pob etholaeth yng Nghymru fod â nifer o etholwyr sydd o fewn ±5% o gyfartaledd neu cwota y DU.

O dan y ddeddfwriaeth, bydd yn ofynnol i'r Comisiwn seilio ei argymhellion ar nifer yr etholwyr y mae eu henwau yn ymddangos ar gofrestr yr etholwyr seneddol a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 5 Ionawr 2021.

Cwota etholwyr y DU i'r cyfanrif agosaf yw 73,393. Felly, mae'n rhaid i bob etholaeth arfaethedig gynnwys rhwng 69,724 ac 77,062 o etholwyr.

Cyhoeddwyd Cynigion Diwygiedig ar gyfer yr etholaethau Seneddol yng Nghymru ar 19 Hydref 2022, ac mae cyfnod ymgynghori terfynol bellach wedi cychwyn am bedair wythnos.

Gallwch fynegi'ch barn am gynigion @BCommWales drwy fynd i cffg-arolygon.org.uk

Close Dewis iaith