Chwilio'r wefan
English
thumb up

Arwyr y Gwrychoedd

Mae ein cymuned o arwyr y gwrychoedd wrth wraidd Hwb Gwrychoedd Gŵyr. Dyma'r perchnogion tir a'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda ni.

Dyma Roger

Ar ôl iddo ymddeol yn gynnar o yrfa mewn cyfrifiadureg, prynodd Roger 15 o erwau o gaeau sydd cyferbyn â'i gartref ym mhenrhyn Gŵyr, gan gynnwys dros 1,500 o wrychoedd. Felly, mynychodd Roger gwrs 'Cyflwyniad i Blygu Perthi' Hwb Gwrychoedd Gŵyr i gael gwybodaeth am sut i ofalu amdanynt.

"Roedd y cwrs yn ddefnyddiol iawn yn fy marn i. Roedd gennyf wrych a oedd yn llawn ar ei ben ond yn denau iawn oddi tano. Roedd yn gyflwyniad gwych i ddefnyddio offer llaw traddodiadol ac mae'n llawer gwell gennyf ddefnyddio'r rhain gan fod hwn yn rhoi amser i fi edrych yn ofalus a gwerthfawrogi'r gwaith rwyf wedi'i wneud. Mae hwn hefyd yn ymarfer corff da ac mae'n rhoi cyfle i fi fod yn yr awyr agored yn gwylio bywyd gwyllt a chymryd amser i fyfyrio. Rwy'n dymuno gofalu am y bywyd gwyllt a bydd gallu cynnal y gwrychoedd ar fy nhir yn fy helpu i wneud hynny."

Gan ei fod yn dyheu am wella ei sgiliau ar gyfer gwrychoedd hŷn a mwy gwyllt - ychydig fel y rheiny sydd ar ei dir, gwirfoddolodd Roger fel Arwr y Gwrychoedd wedi hynny. "Roedd gwirfoddoli'n brofiad gwych a ches i'r cyfle i ofyn cwestiynau ac ymarfer yr hyn y byddai plygwr perthi proffesiynol yn ei wneud pan fydd yn wynebu heriau. Rhoddodd hwn yr hyder i fi ymdrin â'm gwrychoedd fy hun a oedd mewn cyflwr gwael." 

Yna, plygodd Roger 120 metr o wrychoedd yn llwyddiannus, ynghyd â thewhau a thocio 300 ychwanegol o fetrau o wrychoedd ar ei dir gan ddefnyddio dulliau ac offer traddodiadol. 

Hedgerow Hero Roger volunteering

Dyma Sarah

Cysylltodd Sarah, un o'n Harwyr y Gwrychoedd, â Hwb Gwrychoedd Gŵyr yn chwilio am gymorth i adfer perth hynafol ar ei thir sy'n rhedeg ar hyd ymyl llwybr cyhoeddus. 

"Pan brynon ni hen ysgubor a chae 9 erw yn Wimblewood Ganol, y bwriad oedd plannu coetir, creu pyllau a gwneud pob peth posib er mwyn hybu bioamrywiaeth a chefnogi'r byd naturiol sydd wedi'n cefnogi ni am gyhyd. Roeddem eisiau prosiect ar gyfer y blynyddoedd i ddod, etifeddiaeth i'n hwyrion ac i gyfrannu at les rhan o'r byd sy'n golygu cymaint i ni.

"Fel rhan o'r cynllun hwn, roeddem wedi cytuno â'n cymdogion, Catrin a Tim, y byddai plygu'r berth ffin yn ddechrau da. Mae'n 85 metr o hyd, ac er bod tystiolaeth iddi gael ei phlygu o'r blaen, roedd hi'n yn amlwg y gwnaed hyn amser hir iawn yn ôl gan mai llinell o goed yn sefyll ar ben llethr cerrig hyfryd oedd gennym ni. Roedd rhai o'r rhain yn goed ynn gyda thystiolaeth o glefyd coed ynn ac roedd y gorchudd yn ddwys heb lawer o olau'n cyrraedd ffin y clawdd a'r llethr. Roedd plygu coed mor aeddfed yn ymddangos yn gam radical iawn ond yn y tymor hir roeddem yn gwybod y byddai'n ysgogi twf amrywiaeth eang o blanhigion ac yn darparu cysgod ar gyfer adar a mamaliaid bach.

"Cysylltom â Hwb Gwrychoedd Gŵyr am gymorth; roeddem wrth ein boddau i dderbyn grant tuag at gostau plygu'r berth. Ein cyfraniad tuag at y prosiect oedd 10 niwrnod o waith caled gyda chefnogaeth ffrindiau a theulu i glirio llwybr yn y cae ar gyfer mynediad, symud canghennau bargodol a chymynu, neu dalu am gymynu unrhyw goed nad oedd modd eu plygu.
 
"Ar ddydd Sadwrn oer, eithaf llaith tua diwedd mis Chwefror, cyrhaeddodd Mark Davies a'i dîm gyda llifiau cadwyn ac roedd ffrindiau yna i helpu i glirio'r malurion a thorri ychydig o'r pren mwy. Roedd yn ddiwrnod cyffrous a phleserus iawn. Ar ôl digon o de a choffi a chinio hyfryd o gawl yng nghegin glud Catrin a Tim, cafodd y gwaith ei gwblhau. Plygodd pedwar ohonynt yr 85 metr llawn mewn chwe awr a chliriwyd y llwybr, sef y llwybr cyhoeddus. Roedd hyd yn oed amser am gwrw haeddiannol ar y diwedd.
 
"Cawsom ein synnu i weld y berth wedi'i phlygu, gydag ychydig o'r coed gwreiddiol yn unig yn edrych yn denau ac yn agored ond erbyn hyn, yng nghanol mis Ebrill, mae rhywbeth gwahanol yn ymddangos. Mae clychau'r gog wedi ymddangos ar hyd y llwybr newydd yn y cae ac yn y berth, mae'r drain gwynion a choed cyll yn egino ac rwy'n siŵr bod amrywiaeth o fywyd gwyllt yn symud i fyw yno. Roeddem hyd yn oed wedi magu'r hyder i osod llinell fach o goed ein hunain, er iddo gymryd llawer mwy o amser i wneud hynny!"

Hedgerow Hub at Wimblewood (Sarah)

Ydych chi am fod yn Arwr y Gwrychoedd?

Gallwch fod yn Arwr y Gwrychoedd mawr ei angen trwy ymuno â'n sesiynau i wirfoddolwyr, neu drwy fynd i'n digwyddiadau hyfforddi a'n digwyddiadau cyhoeddus.

Ewch i'n tudalen FacebookYn agor mewn ffenest newydd neu'n tudalennau cadw lle ar www.ticketsource.co.uk/ThisIsGower i gael mwy o wybodaeth. Fel arall, rydym ar gael dros y ffôn os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach - hoffem glywed gennych - 01792 636992. 

dych chi'n berchennog tir â gwrychoedd y mae angen ychydig o ofal ychwanegol arnynt? Neu ydych chi am blannu gwrychoedd newydd ar eich tir? Hoffem glywed gennych i weld sut allwn ni eich helpu.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM