Cynllun Datblygu Lleol Newydd Abertawe (CDLlN) 2023-2028
Mae gwaith yn cael ei wneud ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd ar gyfer Abertawe (CDLlN), a fydd yn arwain datblygiad ac yn helpu i ddatblygu lleoedd yn Abertawe hyd at 2038.

Mae Adroddiad Adolygu Drafft wedi'i baratoi i nodi'r materion allweddol i'w hystyried yn y CDLl Newydd ac i gadarnhau'r gweithdrefnau diwygio a fydd yn cael eu dilyn wrth baratoi'r cynllun newydd.
Yn seiliedig ar ganfyddiadau'r Adroddiad Adolygu drafft, paratowyd Cytundeb Cyflawni (CC) drafft ar gyfer CDLl Newydd Abertawe. Mae'r CC yn nodi'r amserlen a'r cynllun cynnwys y gymuned ar gyfer paratoi a mabwysiadu cynllun newydd.
Cymeradwywyd yr adroddiad adolygu drafft a'r cytundeb cyflawni drafft gan aelodau'r cyngor ar 2 Mawrth 2023, ac roeddent yn destun cyfnod ymgynghori cyhoeddus tan 20 Ebrill 2023. Caiff unrhyw fersiynau terfynol o'r dogfennau, sy'n cynnwys unrhyw newidiadau o ganlyniad i'r ymgynghoriad, eu cyflwyno i aelodau i'w cymeradwyo maes o law.
Ewch i borth yr ymgynghoriad i weld y dogfennau a chyflwyno unrhyw sylwadau sydd gennych yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol
Cytundeb cyflawni ddrafft
Safleoedd ymgeisiol
Cysylltwch â thîm y CDLl
- Enw
- Creu Lleoedd a Strategol Cynllunio
- E-bost
- cdll@abertawe.gov.uk
- Rhif ffôn
- 07814105625