
Cofrestru Etholiadol Unigol
Mae'r ffordd rydym yn cofrestru i bleidleisio wedi newid.
Newidiodd y system gofrestru ym mis Mehefin 2014. Enw'r system newydd yw 'Cofrestru Etholiadol Unigol' (IER) a dyma'r newid mwyaf i'r system cofrestru pleidleiswyr mewn can mlynedd.
Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd eisoes wedi cofrestru'n cael eu trosglwyddo'n awtomatig i'r gofrestr newydd. Fodd bynnag, bydd angen i rai pobl ailgofrestru yn Ninas a Sir Abertawe. Bydd pobl yn yr ardal hefyd nad ydynt wedi cofrestru i bleidleisio o gwbl, felly bydd angen iddynt gofrestru i gael dweud eu dweud yn yr etholiadau.
Os nad oeddech wedi cofrestru'n flaenorol, gallwch gofrestru dan y system newydd ynGOV.UK/Cofrestru i bleidleisioYn agor mewn ffenest newydd.
I gael mwy o wybodaeth, dewiswch ardal isod:
Cwestiynau cyffredin am gofrestru etholiadol unigol
Cwestiynau cyffredin am broses cofrestru etholiadol unigol.