Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cadwyni'r Swydd

Mae bathodyn a chadwyn herodrol cywrain Abertawe yn enghreifftiau anhygoel o gelfyddyd gofaint aur Fictoraidd.

Roedd y gadwyn a'r bathodyn yn rhodd gan Frank Ash Yeo, a oedd ar ddiwedd ei flwyddyn faerol yn 1875 eisiau 'cyflenwi ymdeimlad hir o eisiau a nodi'r teimlad o garedigrwydd a ddangoswyd iddo ef yn ystod ei flwyddyn yn gwasanaethu'. Yn ôl cyfarwyddyd Yeo, dylai'r gadwyn a'r bathodyn fod 'yn ddarn enfawr o aur gydag arian a phlatinwm a chyfoethogiadau enamel wedi'u gwneud i'r safon cynhyrchu celfyddyd uchaf, a'u cwblhau gan ofaint aur gydag enw da yn y maes penodol hwnnw'. Gwaith T a J Bragg gofaint aur o Birmingham a Llundain oedd cynhyrchu'r gadwyn. O ran ei ddyluniad, mae arddull y gadwyn yn dod o ddychymyg hynafiaethwr amlwg o Abertawe, George Grant Francis.

Roedd y cynnyrch gorffenedig yn cyfateb i fanylion gwreiddiol Yeo'n gampus. Yn wir nododd y Birmingham Gazette 

"Os oes yn rhaid rhoi cledr llaw, mae'n siwr bod Abertawe'n ei hawlio; y Gofeb Ddinasyddol hon, sy'n llawn diddordeb, yw'r peth mwyaf cywrain yn y sir, mae'r darnau wedi'u creu ar y blaen ac ar y cefn, yn gyflawn ac yn berffaith, waeth beth oedd y gost..."

Y Maer cyntaf i wisgo'r gadwyn oedd James Livingstone, ac roedd ei flwyddyn faerol yn ystod 1875-6.  Gwisgwyd y gadwyn gan bob Maer dilynol ers hynny.

Disgrifiad

Mae cadwyn y Maer yn cynnwys dwy ran: y gadwyn ei hunan a'r bathodyn tlws crog. Mae'r tlws crog ar ffurf Arfbais Bwrdeistref Abertawe, yr honnir gan Francis mai arfbais y Fwrdeistref ydyw sy'n ymddangos ar sêl gyffredin a roddwyd yn ôl pob tebyg gan William de Breos, arglwydd GÝyr yn ystod teyrnasiad y Brenin John. Nid oes unrhyw dystiolaeth hanesyddol i gefnogi'r honiad hwn, er bod y dyfeisiau ar y darian yn seiliedig ar sêl 'Ordinhad Tref Abertawe' yn 1548, gyda Francis yn ychwanegu lliw, arfbais a chynalyddion wrth ddylunio'r tlws crog.

Symbolau Abertawe

Mae'r arfbais â chefndir angor môr a chopïau o fyrllysgau'r Ddinas - byrllysg arian o 1615 a byrllysg lliw aur o 1753 - wedi'u trefnu yn groes i'w gilydd, tra bo'r darian yn gorwedd ar ben Neifion. Mae'r angor a phen Neifion yn adlewyrchu statws y Ddinas fel porthladd, mae'r byrllysg yn symbolau o awdurdod y Ddinas, tra bo'r cynalyddion yn dangos y cysylltiad â de Breos a Beaufort fel arglwyddi Gŵyr. Serch hynny, mae'n ymddangos bod y tlws crog wedi'i niweidio yn y gorffennol, ac mae pen Neifion wedi disodli pen Llychlynnaidd, sy'n siwr o fod yn gysylltiedig â Sweyn, yn ôl pob tebyg dyma ble mae Abertawe yn cael ei henw. Mae'r lymffad, neu'r gali, hefyd wedi'i ddifrodi, yn wreiddiol roedd polyn blaen amlwg a mastiau ôl yn ogystal â'r prif fast sydd ar ôl.

Ar gefn y tlws crog, ceir arysgrif ar y darian aur a gefnogir gan ganghennau o ddail derw ac olewydd ac ar y gwaelod ceir ceiniog arian Fictoraidd o 1874.

Y gadwyn

Mae'r gadwyn yn aur ac arian, ac mae ugain tarian enamel arni, ac ar ei hochrau blaen a chefn mae arfbeisiau neu fonogramau wedi'u haddurno gydag enwau deugain o Feiri Abertawe rhwng 1835 a 75.

Mae pob tarian wedi'i gosod â choron furol aur ac mae'n arddangos enw perchennog yr arfbais. Caiff y tariannau eu cysylltu gyda'i gilydd gan fariau arian llorweddol, a rhwng pob pâr o dariannau mae cyswllt fertigol ar siâp ffasgau, symbol Rhufeinig am awdurdod ynadol. Ar bob ochr i'r ffasgau ceir y Briflythyren 'S', sy'n chwarae ar gytsain sisiol yr enw, 'Swansea'.

Tariannau

Yng nghanol y gadwyn ceir tarian fwy lle mae'r tlws crog yn hongian. Ar y blaen gwelir arfbais Cymru, sef: 'Chwarteri coch ac aur, pedwar llew rhygyngog ailwyneblawn gwrthnewidiol'. Ar yr ochr arall gwelir arfbeisiau sy'n cynrychioli teulu de Clare, arglwyddi Morgannwg a sir Forgannwg: 'Aur, tri sieffrwn coch'.

Mae'r tariannau ar flaen y gadwyn yn cynrychioli'r ugain Maer cyntaf, ac yn dechrau ar y ddehau arfbais Cymru, yna'n rhedeg yn glocwedd o amgylch y gadwyn. Mae arfbeisiau'r ugain Maer nesaf ar gefn y gadwyn, yn dechrau ar ochr sinistr arfbeisiau Morgannwg, ac maent yn rhedeg yn wrthglocwedd o amgylch y gadwyn.

Close Dewis iaith