Toglo gwelededd dewislen symudol

Ynghylch Cyfrifiad 2021

Diwrnod y Cyfrifiad oedd dydd Sul 21 Mawrth.

Arolwg sy'n digwydd unwaith bob 10 mlynedd yw'r cyfrifiad ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.  Mae'r cyfrifiad yn unigryw, ac nid oes unrhyw ffynhonnell wybodaeth arall yn gallu darparu cynifer o fanylion amdanom ni a'r gymdeithas rydym yn byw ynddi.

Mae'r Cyfrifiad wedi'i gynnal ar un diwrnod penodol bob 10 mlynedd ers 1801, gan golli ond un a hynny ym 1941 (yn ystod yr Ail Ryfel Byd).  Yng Nghymru a Lloegr, cynhelir y cyfrifiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar hyn o bryd.  Yn ardaloedd eraill y DU, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon sy'n gyfrifol.

Ar ddechrau mis Mawrth 2021, anfonodd SYG lythyrau at bob aelwyd yng Nghymru a Lloegr yn ei gwahodd i gymryd rhan mewn Cyfrifiad ar-lein, ac yn egluro sut gallant gael mynediad at gymorth.  Roedd holiadur y Cyfrifiad yn ceisio gwybodaeth am oedran, rhyw, cenedligrwydd, cefndir ethnig, iechyd, iaith, gwaith, addysg a nodweddion poblogaeth ac aelwydydd allweddol eraill.  Defnyddir yr ystadegau a gynhyrchir i roi darlun o gymdeithas yn 2021, newid dros amser ac amrywiadau lleol.

Fel pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr, mae Cyngor Abertawe'n dibynnu ar wybodaeth y Cyfrifiad i nodi anghenion lleol a chynllunio'r broses o ddarparu gwasanaethau lleol.  Yn ogystal, mae arian y llywodraeth ar gyfer y gwasanaethau hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â nodweddion a nifer y bobl yn Abertawe a gofnodir gan y cyfrifiad. Mae'r data hefyd yn cael ei ddefnyddio'n helaeth gan academyddion, busnesau, sefydliadau gwirfoddol a'r cyhoedd.

Drwy gymryd rhan yn y Cyfrifiad byddwch wedi helpu i gyfeirio penderfyniadau am wasanaethau sy'n llunio cymunedau lleol, gan gynnwys cynllunio, iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a thrafnidiaeth.

Mewn un ffordd neu'r llall, mae gwybodaeth o'r Cyfrifiad yn cyffwrdd â bywydau pob un person sy'n byw yng Nghymru a Lloegr. Mae'n helpu'r llywodraeth ac awdurdodau lleol i gynllunio ac ariannu gwasanaethau lleol, gan gynnwys ysgolion newydd, meddygfeydd a ffyrdd er enghraifft.

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) sy'n cynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr ac mae'n annibynnol ar y llywodraeth.  Mae manylion personol yn cael eu diogelu gan y gyfraith ac mae gwybodaeth a gyhoeddir bob amser yn ddienw.

Mae canlyniadau cyntaf y Cyfrifiad ar gyfer Abertawe ar gael yn www.abertawe.gov.uk/Cyfrifiad2021_canlyniadau.

Am ragor o wybodaeth am y Cyfrifiad, ewch i'r wefan yn Cyfrifiad (SYG) (Yn agor ffenestr newydd).

Close Dewis iaith