Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau cymorth ynni amgen

Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu cynlluniau pellach i ddarparu help i rai aelwydydd tuag at eu costau ynni. Ariennir y taliadau cymorth hyn gan Lywodraeth EF.

Bydd y cymorth ychwanegol hwn yn targedu nifer fach o aelwydydd yn ein hardal.

  • Bydd cynllun Cyllid Amgen y Cynllun Cymorth Biliau Ynni (Cyllid Amgen EBSS) yn targedu aelwydydd nad oeddent wedi derbyn taliad o £400 o'r prif Gynllun Cymorth Biliau Ynni (EBSS) i'w gredydu i'w biliau ynni rhwng mis Hydref 2022 a mis Mawrth 2023, oherwydd nad oedd ganddynt berthynas gyfamodol uniongyrchol â'u cyflenwr trydan. Ni fydd cwsmeriaid sy'n gymwys i dderbyn cymorth dan y prif gynllun cymorth biliau ynni yn gymwys i dderbyn Cyllid Amgen EBSS.
  • Bydd y Taliad Tanwydd Amgen (TTA) yn cael ei roi i'r aelwydydd hynny nad oeddent wedi derbyn y prif Daliad Tanwydd Amgen o £200 i'w gredydu i'w bil trydan ym mis Chwefror 2023, ar gyfer cartrefi sy'n defnyddio ffynonellau tanwydd amgen fel olew, glo, nwy petroliwm (LPG) hylifol neu fiomas yn hytrach na nwy neu drydan. Ni fydd cwsmeriaid sy'n gymwys i dderbyn cymorth dan y prif Daliad Tanwydd Amgen yn gymwys ar gyfer Taliad Amgen TTA.

Cynllun Cyllid Amgen y Cynllun Cymorth Biliau Ynni (Cyllid Amgen EBSS)

Mae'r Cynllun Cymorth Biliau Ynni (EBSS) yn darparu gostyngiad o £400 oddi ar filiau ynni i'r rhan fwyaf o aelwydydd ym Mhrydain Fawr. Cyflwynir y cynllun drwy gyflenwyr trydan domestig mewn chwe rhandaliad o fis Hydref 2022 i fis Mawrth 2023. Fodd bynnag, mae nifer o aelwydydd sy'n talu am eu trydan mewn ffordd wahanol, fel drwy gyfryngwr masnachol, ac felly ni fyddant yn derbyn cymorth drwy'r EBSS. Sefydlwyd Cynllun Cyllid Amgen y Cynllun Cymorth Biliau Ynni (Cyllid Amgen EBSS) i ddarparu'r taliad i'r aelwydydd hyn.

Mae Cyllid Amgen EBSS yn grant untro nad yw'n ad-daladwy o £400 i aelwydydd cymwys nad ydynt wedi derbyn y prif daliad EBSS yn awtomatig i helpu gyda'u biliau ynni rhwng 1 Hydref 2022 a 31 Mawrth 2023 ond sy'n dal i wynebu costau ynni cynyddol.

Ni fydd aelwydydd yn gymwys am y taliad EBSS a'r taliad Cyllid Amgen EBSS. Dim ond un ohonynt.

Bydd angen i bobl sy'n meddwl eu bod yn gymwys ar gyfer taliad Cyllid Amgen EBSS wneud cais gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein ar wedudalen GOV.UK. Nid oes hawl gennym dderbyn ceisiadau.

I gael rhagor o wybodaeth am Gyllid Amgen EBSS, i wirio a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun neu i wneud cais am y taliad, rhaid i chi fynd i wefan GOV.UK: www.gov.uk/apply-energy-bill-support-if-not-automatic

  • Mae'r cynllun yn agor i geisiadau ar: Dydd Llun, 27 Chwefror 2023
  • Mae'r cynllun yn cau i geisiadau newydd ddydd Mercher 31 Mai 2023 am 11.59pm
  • Gwneir y taliadau terfynol i'r rheini sy'n gymwys erbyn 30 Mehefin 2023

Os caiff eich cais ei dderbyn, caiff ei drosglwyddo i ni - gall hyn gymryd 3 diwrnod. Ar ôl gwneud rhagor o wiriadau ar yr wybodaeth a ddatganwyd yn eich cais, byddwn yn gyfrifol am roi taliad i chi os ydych yn gymwys.

Gwneir taliadau o fewn 30 niwrnod gwaith i'r dyddiad y derbyniwn y cais o wefan GOV.UK os yw'r holl feini prawf wedi'u bodloni.

Dylai cwsmeriaid sydd wedi gwneud cais ganiatáu cyfnod o 6 wythnos o'r dyddiad y cyflwynwyd y cais cyn cysylltu â ni i holi am eu taliad.

Wrth gynnal y gwiriadau angenrheidiol ar eich cais, efallai bydd angen i ni gysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth i gadarnhau eich cymhwystra am daliad.  Pan fyddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth, mae'n bosib y gall gymryd 30 niwrnod gwaith pellach i wneud taliad, o'r diwrnod yr ydym yn derbyn yr holl wybodaeth oddi wrthych.

Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynghylch Gynllun Ariannu Amgen y Cynllun Cymorth Biliau Ynni (EBSS) i linell gymorth Llywodraeth y DU sy'n ymdrin â'rholl geisiadau. Bydd y llinell gymorth hefyd yn rhoi cymorth i chi i lenwi'r ffurflen gais os oes ei angen arnoch:

Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau ynghylch wybodaeth bellach y gwnaed cais i ni (Cyngor Abertawe) amdani i'r tîm Grantiau Costau Byw yn:

  • e-bost: costaubyw@abertawe.gov.uk
  • rhif ffôn: 01792 636311 - Dydd Llun i ddydd Gwener 10.00am i 3.00pm (ac eithrio gwyliau banc)

 

Cyllid Amgen y Taliad Tanwydd Amgen

Mae'r Taliad Tanwydd Amgen yn darparu gostyngiad o £200 oddi ar filiau ynni i gartrefi ym Mhrydain Fawr sy'n defnyddio ffynonellau ynni amgen fel olew, glo, nwy petrolewm hylifedig (LPG) neu fiomas yn hytrach na nwy neu drydan. Mae'r cynllun hwn yn cael ei gyflwyno drwy gyflenwyr trydan domestig mewn un taliad a wnaed ym mis Chwefror 2023. Fodd bynnag mae nifer o aelwydydd nad oes ganddynt gyflenwr trydan ac felly ni fyddant yn derbyn cymorth drwy Daliad Tanwydd Amgen. Sefydlwyd Cyllid Amgen y Taliad Tanwydd Amgen er mwyn sicrhau taliad i'r aelwydydd hyn.

Mae Cyllid Amgen y Taliad Tanwydd Amgen yn grant untro o £200 nad yw'n ad-daladwy a roddir i aelwydydd cymwys nad ydynt wedi cael prif daliad y Taliad Tanwydd Amgen yn awtomatig ym mis Chwefror 2023, ond y maent yn dal i wynebu costau ynni uwch.

Ni fydd aelwydydd yn gymwys am y taliad Tanwydd Amgen a thaliad Cyllid Amgen y Taliad Tanwydd Amgen. Dim ond un ohonynt.

Bydd angen i bobl sy'n meddwl eu bod yn gymwys ar gyfer taliad Cyllid Amgen y Taliad Tanwydd Amgen wneud cais gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein ar wedudalen GOV.UK. Nid oes hawl gennym dderbyn ceisiadau.

I gael rhagor o wybodaeth am Gyllid Amgen y Taliad Tanwydd Amgen, i wirio a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun neu i wneud cais am y taliad, rhaid i chi fynd i wefan GOV.UK: www.gov.uk/apply-alternative-fuel-bill-support-if-not-automatic

  • Mae'r cynllun yn agor i geisiadau ddydd Llun 6 Mawrth 2023
  • Mae'r cynllun yn cau i geisiadau newydd nos Fercher 31 Mai 2023 am  11.59pm
  • Gwneir y taliadau terfynol i'r rheini sy'n gymwys erbyn 30 Mehefin 2023

Os caiff eich cais ei dderbyn, caiff ei drosglwyddo i ni - gall hyn gymryd 3 diwrnod. Ar ôl gwneud rhagor o wiriadau ar yr wybodaeth a ddatganwyd yn eich cais, byddwn yn gyfrifol am roi taliad i chi os ydych yn gymwys.

Gwneir taliadau o fewn 30 niwrnod gwaith i'r dyddiad y derbyniwn y cais o wefan GOV.UK os yw'r holl feini prawf wedi'u bodloni.

Dylai cwsmeriaid sydd wedi gwneud cais ganiatáu cyfnod o 6 wythnos i'r dyddiad y cyflwynwyd y cais cyn cysylltu â ni i holi am eu taliad.

Wrth gynnal y gwiriadau angenrheidiol ar eich cais, efallai bydd angen i ni gysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth i gadarnhau eich cymhwystra am daliad. Pan fyddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth, mae'n bosib y gall gymryd 30 niwrnod gwaith pellach i wneud taliad, o'r diwrnod yr ydym yn derbyn yr holl wybodaeth oddi wrthych.

Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynghylch cynllun Cyllid Amgen y Taliad Tanwydd Amgen i linell gymorth Llywodraeth y DU sy'n ymdrin â'r holl geisiadau. Bydd y llinell gymorth hefyd yn rhoi cymorth i chi i lenwi'r ffurflen gais os oes ei angen arnoch:

Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau ynghylch gwybodaeth bellach y gwnaed cais i ni (Cyngor Abertawe) amdani i'r tîm Grantiau Costau Byw yn:

 

Mae gwybodaeth am sut caiff y data rydych yn ei ddarparu ei ddefnyddio/rannu â Llywodraeth y DU i'w chael yn ein datganiad preifatrwydd: Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Close Dewis iaith