Chwilio'r wefan
English

Diego - dyma Darren, un o dy greawdwyr!

Mae Darren Hounsell, parameddyg y GIG, yn dod i adnabod un o weithiau celf mwyaf anghyffredin Abertawe unwaith eto - 33 o flynyddoedd ar ôl iddo helpu i'w greu.

DarrenDiego

Roedd Darren, sy'n 45 oed ac yn dad i ddau, ymhlith y dwsinau o arddegwyr a fu'n cerflunio'r model, sydd bron yn faint go iawn, o'r chwaraewr pêl-droed hynod enwog, Diego Maradona, yng nghanol yr 1980au.

Nawr, gyda'r gwaith ar fin cael ei arddangos unwaith eto yn Oriel Gelf Glynn Vivian Abertawe, mae'r pâr yn ôl gyda'i gilydd. 

Ac mae Darren, sy'n dod o Gorseinon, yn gobeithio y bydd ei gyn gyd-ddisgyblion o hen Ysgol Gyfun Pen-lan yn ymuno ag ef nos Iau wrth i'r oriel yng nghanol y ddinas lansio'r arddangosfa am ddim, Straeon Abertawe (sylwer, 26 Medi, o 6pm i 9pm).

Meddai, "Rwy'n gobeithio y dônt - dylai fod yn gyfle gwych i edrych nôl a helpu i ddathlu hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas."

Yn ogystal â Maradona, bydd arddangosfa Swansea Storiesyn cynnwys gwaith gan artistiaid sy'n enwog ledled y byd megis Gwen John, Lucien Pissarro, Claude Monet a Barbara Hepworth.

Bydd Straeon Abertawe yn dangos dros 300 o gelfweithiau sy'n dyddio'n ôl i gasgliad sefydlol yr oriel o'r cyfnod cyn y Rhyfel Mawr.  Bydd yn cynnwys gwaith o'r ddeunawfed ganrif i waith cyfoes.

Cynhelir Straeon Abertawe yn y Glynn Vivian rhwng 26 Medi a 15 Mawrth. Mynediad am ddim. 

Llun: Darren Hounsell gyda'r Maradona papier-mâché.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM