Yn anffodus oherwydd ansicrwydd y sefyllfa barhaus ni chynhelir Gwobrau Rho 5 eleni. Gobeithiwn fod yn ôl yn y dyfodol i barhau i gydnabod a gwobrwyo plant a phobl ifanc ysbrydoledig ar draws gymunedau Abertawe, fel yr ydym wedi ei wneud dros yr 8 mlynedd diwethaf. Cadwch yn ddiogel bawb!

Gwobrau Rho 5
Mae Gwobrau Rho5 yn gwobrwyo plant a phobl ifanc mwyaf ysbrydolus Abertawe.
Mae ein llysgenhadon yn annog pawb i ystyried enwebu person ifanc, grŵp o bobl ifanc neu ddosbarth ysgol sydd wedi goresgyn adfyd neu sydd wedi gwneud eu hysgol neu eu cymuned yn falch ohonynt.
Llysgennad Rho 5 2019 Siany Martin
Meddai Siany, Pier y Mwmbwls, "Rwy'n hynod falch o fod yn rhan o'r gwobrau hyn ac rwyf wedi teimlo felly ers y diwrnod cyntaf. Weithiau gall pobl gael camargraff o blant a phobl ifanc ac rwy'n credu fod hynny'n gwbl anghywir gan ein bod ni i gyd yn adnabod plant sy'n hollol wych. Mae Rho 5 yn rhoi cyfle i bawb enwebu person ifanc anhygoel a rhoi cydnabyddiaeth iddynt, felly peidiwch ag oedi, ewch ati i enwebu!"
Llysgennad Rho 5 2019 James King
Meddai James, sydd wedi dathlu chwarae'i 200fed gêm i'r Gweilch yn ddiweddar, "Mae Gwobrau Rho 5 yn ddigwyddiad anhygoel ac rwy'n falch o ymuno â Leon fel llysgennad am y tro cyntaf."
Trefnir digwyddiad Gwobrau Rho 5 gan Gyngor Abertawe ac fe'i gwneir yn bosib drwy gymorth gan ein noddwyr a'n cefnogwyr hael.
#GwobrauRho5