Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2023
15 - 19 Mehefin

Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe'n dychwelyd eleni i gyflwyno rhai o'r artistiaid a'r bandiau lleol a rhyngwladol gorau sydd ar gael.
Bydd y ddinas yn llawn cyffro a cherddoriaeth jazz o 15 i 19 Mehefin, pan fydd yr ŵyl yn dychwelyd i Abertawe.
Mae Cyngor Abertawe'n falch o gyflwyno Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe mewn partneriaeth â Chlwb Jazz Abertawe.
Archebwch docyn VIP i gael gostyngiad oddi ar holl ddigwyddiadau Gŵyl Jazz Abertawe; £90 ar gyfer y chwe chyngerdd, arbediad o £37, yn ogystal â seddi blaenoriaeth! Mae tocynnau VIP ar gael drwy swyddfa docynnau Theatr y Grand Abertawe, ffoniwch 01792 475715 neu galwch heibio.