-
Arbenigwyr adeiladu Abertawe'n dechrau gweithio ar safle hanesyddol
Arbenigwyr adeiladu Abertawe'n dechrau gweithio ar safle hanesyddol
Mae cwmni yn Abertawe wedi symud i'r safle wrth iddo ddechrau adeiladu un o brosiectau adfywio allweddol y ddinas.
John Weaver Contractors yw'r prif gontractwr ar gyfer ailddatblygiad pwerdy a thai allan Gwaith Copr yr Hafod-Morfa.
Dyfarnwyd y contract i'r busnes gan Gyngor Abertawe ar ôl proses dendro gystadleuol.
Dros y blynyddoedd nesaf caiff y lleoliad ei drawsnewid ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Bydd y safle'n cynnwys adnewyddu'r pwerdy hanesyddol. Bydd Distyllfa Penderyn Cymru'n ehangu yno a chaiff ei datblygu fel distyllfa a chanolfan ymwelwyr newydd.
Mae Cyngor Abertawe'n goruchwylio'r broses drawsnewid fel rhan o'i gynlluniau i adfywio coridor isaf afon Tawe. Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau'r haf hwn.