Siopwyr y farchnad i'w dylanwadu gan ben-cogyddion
Bydd nifer o ben-gogyddion talentog yn diddanu ac yn rhannu eu gwybodaeth â siopwyr yng nghanol y ddinas yr wythnos nesaf(nodir: Medi 9-13).
Byddant yn cynnig ysbrydoliaeth, cyngor ac arweiniad ar gyfer coginio a gwahodd pobl i ginio drwy ddefnyddio bwyd môr.
Cynhelir eu rhaglen o ddigwyddiadau am ddim yng nghanol y ddinas ym marchnad Abertawe a gynhelir gan Gyngor Abertawe.
Mae'r pen-cogyddion a fydd yn ymddangos yn cynnwys Shane Davies-Nilsson o Goleg Gŵyr Abertawe, Imran Nathoo o Kitchen Clonc a Martin Davies o Britannia Inn, gogledd Gŵyr. Mae eraill yn cynnwys Nerys Howells a Sian Day.
Bydd yr holl fwyd môr a'r cynhwysion eraill yn rhai lleol ac ar gael i'w prynu yn y farchnad.
Bydd yr arddangosiadau coginio bwyd môr yn cael eu cynnal yn y farchnad bob dydd rhwng 9 a 13 Medi o 12pm i 2pm. Darperir seddi ar gyfer y rheini sy'n bresennol.
Bydd George Reed, cyflwynydd radio a theledu yng Nghymru yn cyflwyno. Bydd y masnachwyr gwin, Cheers, Radnor Preserves a Thwristiaeth Bae Abertawe hefyd yn bresennol.
Mwy: https://www.facebook.com/SwanseaBayFLAG/
Llun: George Reed