Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Oedolion â nam corfforol neu nam ar eu symudedd

Gwybodaeth i bobl sydd â nam corfforol neu symudedd.

Rydym am helpu ac annog pobl anabl i fyw mor annibynnol ag y bo modd gartref, cael cyfleoedd i fynd allan, a dod o hyd i ffyrdd o addasu i'w nam.

Rydym roi cyngor arbenigol, cefnogaeth a chymorth ymarferol i oedolion ag anabledd corfforol neu synhwyraidd sy'n cael trafferth ymdopi. Gall gwasanaethau gynnwys:

  • cyfarpar ac addasiadau i helpu rhywun i ymdopi gartref
  • hyfforddiant a sgiliau i fwyafu annibyniaeth
  • cymorth gyda gofal personol.

Cyn i chi allu cael unrhyw un o'r gwasanaethau hyn, byddai'n rhaid i ni gynnal asesiad o'ch anghenion.

Mae gan y Wasanaethau Cymdeithasol Abertawe tîm sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal arbenigol sy'n cefnogi pobl â nam symudedd. Mae'r rhain, ynghyd â'n Therapyddion Galwedigaethol yn gallu darparu amrywiaeth o wybodaeth a chefnogaeth ymarferol.

Rhydym hefyd gynnig cefnogaeth adsefydlu tymor byr i bobl â nam symudedd. Yr amcan yw dod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau maent wedi cael trafferth gyda hwy, a chwilio am atebion ymarferol i annog mwy o annibyniaeth.

Mae'n rhaid i chi gael asesiad o'ch anghenion cyn defnyddio'r gwasanaeth yma.

Cofrestru'n anabl

I gofrestru'n anabl, rhaid bod gennych anabledd neu nam sy'n sylweddol ac yn barhaus h.y. disgwylir iddo bara am fwy na 12 mis. Mae cofrestru'n wirfoddol.

Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau, y budd-daliadau a'r consesiynau sydd ar gael i bobl anabl yn gofyn bod pobl yn bodloni'r meini prawf i gofrestru'n unig ac nid o angenrheidrwydd i gofrestru. Mae rhai budd-daliadau er hynny sydd ar gael i bobl sydd wedi cofrestru yn unig.

Gwasanaethau ailsefydlu i bobl â Nam corfforol

Gwybodaeth ar gyfer oedolion y mae angen gwasanaethau adsefydlu arnynt gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a sut y gallwch wneud cais.

Cofrestru'n anabl

Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol gadw cofrestr o bobl anabl, mae cofrestru'n wirfoddol.
Close Dewis iaith