Chwilio'r wefan
English

Cast y pantomeim yn dweud hwyl fawr wrth adael ag atgofion melys

Roedd oddeutu 34,000 o bobl wedi mwynhau pantomeim diweddaraf Theatr y Grand Abertawe

Panto2019

Cynhaliwyd sioe Peter Pan am fis o ddechrau mis Rhagfyr tan iddi ffarwelio â'r theatr y mis hwn.

Roedd Tristan Gemmill, Kevin Johns a Ricky K ymhlith y cast.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Diolch yn fawr i'r holl gast, y criw cynhyrchu a staff eraill y theatr am eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad yn ystod y sioe wych hon."

Meddai Tristan Gemmill, a chwaraeodd ran Captain Hook, "Roedd yn arbennig iawn i fod yn rhan o gast arbennig a oedd yn cyflwyno perfformiadau difyr llawn hwyl i'r cynulleidfaoedd."

Pantomeim Theatr y Grand Abertawe ar gyfer 2020-21 yw Snow White and the Seven Dwarfs. Tocynnau - 01792 475715, www.swanseagrand.co.uk.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM