Ysgol fusnes dros dro'n dychwelyd i Abertawe
Bydd digwyddiad am ddim sy'n rhoi'r sgiliau i gyfranogwyr ddechrau eu busnesau eu hunain heb arian cyfalaf neu gyllid yn dod i Abertawe'r mis hwn.
Bydd yr ysgol fusnes dros dro'n agored i unrhyw un sydd am ddechrau ei fusnes ei hun ac fe'i cynhelir mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe a chymdeithasau tai lleol.
Bydd y cwrs hyfforddi sy'n para wythnos ac a allai newid eich bywyd yn rhoi'r gefnogaeth a'r sgiliau y mae eu hangen ar gyfranogwyr i ddechrau busnes, ynghyd â'r hyder i gymryd y cam cyntaf. Nid oes angen i gyfranogwyr ddod bob dydd. Fodd bynnag, po fwyaf y gallant ei ddysgu, mwyaf tebygol y byddant yn llwyddo.
Cynhelir y cwrs yn Theatr Volcano ar y Stryd Fawr rhwng 23 a 27 Medi. Cynhaliwyd digwyddiad tebyg yn y ddinas 16 o fisoedd yn ôl, a oedd wedi denu mwy nag 80 o entrepreneuriaid y dyfodol. Disgwylir y bydd mwy yn dod y tro hwn.
I gadw lle am ddim yn nigwyddiad ysgol fusnes dros dro Abertawe, ewch i http://ow.ly/kXPu50w6sW0