Yn eisiau: Unigolion sy'n benderfynol o helpu i wella economi wledig Abertawe
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig i helpu i wella cymunedau gwledig Abertawe.
Fel aelodau newydd o'r Grŵp Gweithredu Lleol, byddant yn helpu i gefnogi mentrau cymdeithasol, cefn gwlad a chymunedau mewn ardaloedd gwledig.
Ar hyn o bryd, mae'r grŵp yn helpu i ddosbarthu tua £160,000 o arian grant o'r Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDP) a reolir gan Gyngor Abertawe.
Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad, "Rydym yn awyddus i recriwtio aelodau newydd ar gyfer y grŵp - yn enwedig y rheini sydd â chefndir yn y trydydd sector a'r sector preifat.
"Mae'r grŵp yn dod ag brwdfrydedd, creadigrwydd ac uchelgais i Raglen Datblygu Gwledig Abertawe ac yn helpu i fwyafu'r gwahaniaeth a wneir gan y rhaglen.
"Bydd ein recriwtiaid newydd yn ymuno ag eraill i benderfynu ar flaenoriaethau'r rhaglen o fewn cwmpas strategaeth sydd wedi'i llunio'n gywrain."