Grantiau'n helpu busnesau i ffynnu ar brif strydoedd Abertawe
Mae caffis annibynnol, siopau crefftau a busnesau ffitrwydd ar draws Abertawe yn ffynnu diolch i gymorth grantiau.
Mae ton newydd o grantiau cyn dechrau busnes a grantiau twf busnes, a gynhelir gan Gyngor Abertawe ac a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, wedi cefnogi busnesau bach ar brif strydoedd ledled y ddinas - o Dregŵyr a Gorseinon i Dreforys, y Mwmbwls a chanol y ddinas.
Mae White Rabbit Wools ar y Stryd Fawr yn nhref Gorseinon ymysg y llwyddiannau lleol. Fe'i sefydlwyd gan Nicola Briggs, a fu'n athrawes gynt, drwy ddefnyddio grant cyn dechrau busnes i brynu stoc a chyfarpar ar gyfer ei siop gwlân a chrefftau newydd.
Meddai Nicola, "Roedd yn hawdd iawn cyflwyno cais - byddwn yn argymell unrhyw un i wneud hyn.
"Yn ogystal â gwerthu gwlân, roeddem am greu lle a oedd yn teimlo fel cartref - lle gallai pobl alw heibio, cael sgwrs a chysylltu ag eraill."
Yn Nhregŵyr, defnyddiodd Jo-Anne Purnell-Rees, o Station 86 ar Sterry Road, grant twf busnes i agor Station Express, siop tecawê i ehangu'r busnes caffi poblogaidd.
Meddai Jo-Anne, "Roedd y broses yn gyflym iawn - a chafodd y cais ei gymeradwyo o fewn tair wythnos.
"Mae'n gweithio'n dda iawn ac yn ychwanegu at y twf yn Nhregŵyr ar hyn o bryd."
Mae'r busnesau eraill i elwa'n cynnwys DartNation yn Nhreforys, Moss & Maple Play Café yn nhref Gorseinon, a dwy fenter iechyd yn y Mwmbwls - Movement Mumbles a Kate Rees Elite Physiotherapy Services - sydd wedi defnyddio grantiau i fuddsoddi mewn cyfarpar adsefydlu a ffitrwydd newydd.
Yng nghanol dinas Abertawe, dywedodd Malakai Kumar, 21 oed, o Hello Asia fod y grant cyn dechrau busnes wedi bod yn hollbwysig i wireddu ei breuddwyd.
Meddai Malaika, "A minnau'n 21 oed, roedd yn wych cael cymorth gan Gyngor Abertawe.
"Gwnaeth y cyllid fy helpu i gael y peiriant coffi, yr oergelloedd a'r stoc arbenigol addas ar gyfer llawr y siop. Rhoddodd y cyngor lawer o gymorth drwy gydol y broses."
Mae mwy na 200 o fusnesau yn Abertawe wedi elwa o'r grantiau hyn ac eraill yn ystod rhaglen grantiau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU hyd yn hyn, gan helpu i ddenu buddsoddiad preifat, creu swyddi newydd a diogelu swyddi eraill.
Er bod ceisiadau am grantiau busnes drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol wedi dod i ben, gall busnesau gael gwybod am fathau eraill o gymorth drwy fynd i www.abertawe.gov.uk/cyngorbusnes
