Mae Theatr y Grand Abertawe ar gau ar hyn o bryd. Pan fydd Llywodraeth Cymru'n gwneud cyhoeddiad ynghylch theatrau, byddwn yn dechrau paratoi at ailagor yn ddiogel.

Theatr y Grand Abertawe
Mae amrywiaeth eang o sioeau ac arddangosfeydd i bawb eu mwynhau yn Theatr y Grand Abertawe.
Mae gennym 2 rif dros dro ar gyfer y Swyddfa Docynnau a fydd ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ffoniwch 01792475715 os oes angen i chi gysylltu â ni. Sylwer ni fyddwn yn gallu ateb negeseuon testun na negeseuon llais ar y rhifau hyn.
Yma yn Theatr y Grand Abertawe, mae iechyd a lles ein cwsmeriaid, ein gweithwyr a'n hartistiaid yn hollbwysig. Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos iawn a byddwn yn parhau i adolygu polisïau ac arferion yn unol â chanllawiau swyddogol wrth iddynt ddatblygu, ond mae'r lleoliad ar gau am y tro.
Rydym yn gweithio gyda chynhyrchwyr ar hyn o bryd i aildrefnu sioeau'r hydref ar gyfer dyddiad yn y dyfodol. Os oes gennych docynnau ar gyfer unrhyw un o'r sioeau hyn, bydd y tocynnau'n ddilys ar gyfer y dyddiadau newydd a drefnir a byddwch yn cadw'r un seddi.
Rydym yn parhau i ddiweddaru'n gwefan ac unwaith y bydd dyddiad newydd wedi'i bennu bydd yn cael ei ychwanegu at y calendr.
Ar ôl eu cyhoeddi, os na allwch ddod ar y dyddiad newydd, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu trafod eich opsiynau gyda chi: Swansea.grandreservations@swansea.gov.uk
Y chi, ein cwsmeriaid ffyddlon, fydd y cyntaf i wybod os bydd unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau dros yr wythnosau nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth am COVID-19 ac arweiniad presennol y Llywodraeth dilynwch y dolenni isod:
www.abertawe.gov.uk/CyngorarCoronafirws
https://phw.nhs.wales/topics/latest-information-on-novel-coronavirus-covid-19/
ttps://www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-information-for-the-public?mc_cid=58bbb8f65e&mc_eid=9a9e6480cb
Gobeithiwn fod pawb yn cadw'n iach ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan.
Tîm Theatr y Grand
Gellir prynu tocynnau yn ein Swyddfa Docynnau, drwy ffonio 01792 475715, yn un o'n Hasiantau Tocynnau, neu gallwch eu harchebu ar-lein trwy ddefnyddio ein system swyddfa docynnau gyfrifiadurol. Cymorth gydag archebu tocynnau ar-lein
I dderbyn newyddion am sioeau a digwyddiadau sydd i ddod yn Theatr y Grand Abertawe
Gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio, e-bostiwch marchnatagrand.abertawe@abertawe.gov.uk gyda'ch cyfeiriad post llawn. Fel arall, gallwch ffonio'r Swyddfa Docynnau.
Rhif minicom y swyddfa docynnau yw 01792 654456. Teipdestun ar gyfer cwsmeriad a nam ar eu clyw.
Am wybodaeth mynediad llawn, ewch i'r dudalen fynediad.
Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Instagram a YouTube.
Rydym wrthi'n ceisio dod o hyd i weithredwr newydd ar gyfer ein gwasanaethau bar ac arlwyo. Yn ystod y cynfod byr hwn, ni fyddwn yn gweini bwyd, ond gallwch fwynhau gwasanaeth diodydd wrth y bar er mwyn cael lluniaeth cyn y perfformiad ac yn ystod yr egwyl. I gael rhagor o wybodaeth am ein chwiliad am weithredwr newydd, cliciwch yma -
https://www.abertawe.gov.uk/article/47617/Yn-eisiau-Arbenigwyr-arlwyo-ar-gyfer-lleoliadau-celfyddydol-y-ddinas