Gwaith gwella yng nghanol y ddinas i wella cysylltiadau cerdded a beicio
Gwneir gwaith pwysig i helpu i wella canol dinas Abertawe o 6 Ionawr.
Bydd y gwaith yn cynnwys newid rhan uchaf Stryd yr Undeb a rhan gyffiniol o Stryd y Parc yn barth i gerddwyr.
Ochr yn ochr â gwaith a wnaed eisoes ar Ffordd y Brenin gerllaw, bydd yn helpu i wella cysylltiadau cerdded a beicio drwy ganol y ddinas.
Cyngor Abertawe sydd wedi comisiynu'r gwaith.
Cynhelir mynediad i gerbydau ar gyfer meysydd parcio ar Stryd y Parc - gan gynnwys y cilfachau parcio hygyrch - ar bob adeg drwy Stryd Portland wrth i'r gwaith fynd rhagddo.Bydd mynediad i gerddwyr ar bob adeg a rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf i fusnesau.
Er mwyn caniatáu i'r gwaith gwella gael ei wneud, bydd pen gorllewinol Stryd y Parc a rhan uchaf Stryd yr Undeb ar gau dros dro i gerbydau o 6 Ionawr am nifer o wythnosau.
Ymholiadau: E-bostiwch FforddyBrenin@abertawe.gov.uk