Chwilio'r wefan
English

Pleidleisiwch dros Abertawe ar gyfer Gwobrau Stryd Fawr Orau Prydain

Mae Stryd Fawr Abertawe yn y ras i ennill gwobr nodedig Stryd Fawr Orau Prydain fel Pencampwr y Stryd Fawr.

TonyBushEatery

Mae'r newyddion wedi codi hwyliau pobl ar draws canol y ddinas, ac mae beirniaid wedi ymweld ag Abertawe i weld y cynnydd a wneir ar y stryd.

Anogir preswylwyr i gefnogi eu Stryd Fawr trwy bleidleisio, a bydd y bleidlais gyhoeddus ar agor tan 7 Hydref.

Cyhoeddir enillwyr Gwobrau Stryd Fawr Orau Prydain ym mis Tachwedd.

Er mwyn pleidleisio dros Stryd Fawr Abertawe, ewch i www.bit.ly/GBHSSwansea. Bydd y bleidlais gyhoeddus ar agor tan 7 Hydref, a gall pobl bleidleisio unwaith y dydd.

Llun: Mae Tony o The Bush Eatery ar y Stryd Fawr, Abertawe, yn cefnogi ymdrechion y stryd i ennill Gwobr Stryd Fawr Orau Prydain.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM