Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Amodau a thelerau defnydd i ddeiliad tocyn tymor

Darllenwch isod yr amodau a thelerau i ddeiliaid tocyn tymor yn y maes parcio.

1. Mae'r tocyn tymor yn berthnasol i'r maes parcio uchod ac mae'n ddilys yn y maes parcio hwn yn unig. 

2. Rhaid arddangos y tocyn tymor yn glir yn eich cerbyd yn y maes parcio hwn. Dylid ei arddangos ar y sgrîn wynt flaen ar yr ochr i mewn er gwelededd. 

3. Caniateir i chi barcio hyd at ddau gerbyd ar un tocyn tymor. Mae hwn yn ddilys os caiff ei arddangos yn y cerbyd(au) y'i rhoddwyd ar ei gyfer/eu cyfer yn unig. Sylwer: Un cerbyd yn unig all ddefnyddio'r tocyn tymor ar unrhyw adeg. 

4. Mae'r tocyn tymor yn ad-daladwy, ond mewn achosion lle caiff y tocyn ei ddychwelyd cyn y dyddiad dod i ben, bydd yr ad-daliad yn seiliedig ar fisoedd llawn nad ydynt wedi dod i ben. 

5. Nid yw rhoi tocyn tymor yn cadw nac yn gwarantu argaeledd lle parcio yn y maes parcio hwn. 

6. Mewn achosion o beidio â chydymffurfio â'r amodau defnydd uchod neu unrhyw achos arall o dorri Gorchymyn Cyfunol (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd) (Talu ac Arddangos) 2008, bydd ceidwad cofrestredig y cerbyd dan sylw'n destun Hysbysiad o Dâl Cosb o naill ai £50 neu £70, gan ddibynnu ar y tramgwydd yn y maes parcio. 

7. Bydd yn rhaid ailgyflwyno cais am hawlenni coll neu sydd wedi'u difrodi neu eu difwyno, a bydd ffi o £25.00 yn daladwy am hyn.

8. Faniau â charnau tro olwynion safonol a cheir yn unig caiff eu hystyried ar gyfer tocyn tymor (uchafswm o 3.3 metr o hyd). Ni chaiff faniau â charnau tro olwynion hir eu derbyn.