Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Oedolion ag anabledd dysgu

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Abertawe yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu.

Er mwyn cael cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, rhaid i bobl gael asesiad gyntaf gan y Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol.

Ymysg ein gwasanaethau mae:

  • wasanaethau anghenion arbennig ar gyfer pobl ag anabledd dysgu dwys a/neu anabledd corfforol, synhwyraidd neu gyfathrebu dwys 
  • canolfan dydd ar gyfer pobl hŷn ag anabledd dysgu 
  • cyfleoedd cymdeithasol ac addysgol sy'n cysylltu â chyfleusterau cymunedol lleol 
  • gwasanaeth sy'n hyrwyddo ac yn datblygu hyfforddiant sgiliau a chyfleodd sy'n gysylltiedig â gwaith 
  • gwasanaeth cymunedol hyblyg sy'n hybu mwy o annibyniaeth ac sy'n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau, galluoedd a gwybodaeth er mwyn rheoli bywyd o ddydd i ddydd. 
  • gwasanaeth cefnogi ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu y mae ganddynt anghenion mwy cymhleth neu ymddygiad heriol 
  • gwasanaeth preswyl sy'n darparu llety wedi'i gynllunio a llety brys dros dro i'r rhai na allant aros yn eu cartrefi eu hunain. 
  • gwasanaeth seibiant sy'n darparu llety wedi'i gynllunio a llety brys dros dro yn ogystal â seibiant i ofalwyr.

Gwneud cais am asesiad gan y Tîm Cefnogi Cymunedol Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol

Gwasanaethau preswyl i oedolion gydag anabledd dysgu

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau preswyl i oedolion ag anableddau dysgu.

Cofrestru'n anabl

Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol gadw cofrestr o bobl anabl, mae cofrestru'n wirfoddol.

Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach

Rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig cyngor a chefnogaeth bellach i chi dros yr wythnosau nesaf.
Close Dewis iaith