Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ganllawiau Cynllunio Atodol y Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Preswyl diwygiedig

Dylid defnyddio'r tair dogfen sy'n darparu canllawiau ar sut y dylid cymhwyso polisïau perthnasol y CDLl i ddatblygiadau preswyl er mwyn sicrhau y caiff lleoedd da i fyw eu creu.

Mae'r dogfennau'n ystyried y newidiadau diweddaraf i'r polisi a'r canllawiau cynllunio cenedlaethol a lleol. Mae hyn yn cynnwys pwyslais cenedlaethol cryfach ar:

  • Creu Lleoedd ar bob graddfa;
  • Cynnwys nodweddion draenio cynaliadwy; a'r
  • gofyniad am Isadeiledd Gwyrdd ar bob graddfa. 

Mabwysiadwyd y CCA gan y Pwyllgor Cynllunio ar 22 Hydref 2021 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar fersiwn ddrafft. Gallwch lawrlwytho copi o'r adroddiad ymgynghori cyhoeddus sy'n nodi'r broses a ddilynwyd yn y cyfnod cyn mabwysiadu fersiwn derfynol y CCA isod.

Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Preswyl

Yn berthnasol i ddatblygiadau sy'n amrywio o 10 cartref hyd at gannoedd o gartrefi. Mae hyn yn cynnwys datblygiadau defnydd cymysg strategol a datblygiadau dwysedd uwch yng nghanol y ddinas.  

Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Preswyl Hydref 2021 (PDF) [7MB]

Crynodeb - Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Preswyl (PDF) [1MB]

Adroddiad Ymgynghori - Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Preswyl (PDF) [1MB]

 

Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Mewnlenwi a Thir Cefn

Yn canolbwyntio ar ddatblygiadau o 1-10 cartref o fewn cymunedau sydd eisoes yn bodoli.

Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Mewnlenwi a Thir Cefn Hydref 2021 (PDF) [4MB]

Crynodeb – Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Mewnlenwi a Thir Cefn (PDF) [1MB]

Adroddiad Ymgynghori – Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Mewnlenwi a Thir Cefn (PDF) [1MB]

 

Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Deiliaid Tai

Yn berthnasol i newidiadau ac estyniadau i dai sydd eisoes yn bodoli.

Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Deiliaid Tai Hydref 2021 (PDF) [3MB]

Crynodeb - Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Deiliaid Tai (PDF) [941KB]

Adroddiad Ymgynghori - Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Deiliaid Tai (PDF) [732KB]

I gael gwybodaeth mewn fformat arall, e-bostiwch ni yn cdll@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith